Agenda item

CYFRIF CYLLIDEB REFENIW TAI 2020/21 - 2022/23 A LEFELAU RHENTI TAI 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a baratowyd gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ar y cyd â swyddogion o'r Adran Cymunedau a oedd yn dod ynghyd â'r cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai am 2020/21 i 2022/23. Nodwyd bod yr adroddiad wedi cael ei ystyried a'i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu – Cymunedau yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020, fel rhan o'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad wedi cael ei baratoi gan adlewyrchu'r cynigion diweddaraf a oedd yn rhan o Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai, sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (STSG+) ar gyfer y dyfodol. Nodwyd bod y buddsoddiad arfaethedig yn y cynllun busnes presennol wedi cyflawni Safon Tai Sir Gaerfyrddin erbyn 2015 (i'r cartrefi hynny lle'r oedd tenantiaid wedi cytuno i gael y gwaith wedi'i wneud), wedi darparu'r buddsoddiad i gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wedi parhau i fuddsoddi yn Ymrwymiad i Dai Fforddiadwy'r Cyngor.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau fod buddsoddiad cyfalaf o oddeutu £230m wedi darparu Safon Tai Sir Gaerfyrddin ar gyfer tenantiaid a gwariwyd £49m arall ar gynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy ar gyfer eiddo a thenantiaid.  Dros y 3 mlynedd nesaf rhagwelwyd y byddai tua £49m yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod yn ofynnol ers 2015 i'r Awdurdod fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, sef bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn cael ei ragnodi gan ganllawiau Lywodraeth Cymru, a thrwy hynny, ddarparu dosbarthiad mwy teg o ran rhenti ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol.  Daeth y polisi hwn i ben yn 2018/19 a chyflwynwyd polisi interim am flwyddyn ar gyfer 2019/20, gan Lywodraeth Cymru, ac erbyn hyn mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno polisi newydd i'w weithredu yn 2020/21.  Roedd y polisi interim hwnnw'n caniatáu i Awdurdodau Lleol o fewn eu band rhent targed gynyddu rhent yn ôl CPI +1% yn unig. Roedd hefyd yn caniatáu i lefel y rhent i denantiaid unigol gynyddu hyd at £2 yn ychwanegol ar ben y CPI + 1% ar gyfer cysoni rhenti, ar yr amod na fyddai cyfanswm yr incwm rhent a fyddai'n cael ei gasglu gan y landlord cymdeithasol yn fwy na CPI + 1%.

 

Byddai'r polisi newydd yn gymwys am 5 mlynedd o 2020/21 ac roedd yn cynnwys meini prawf ychwanegol ynghylch bodlonrwydd tenantiaid, safonau o ran gofod, lleihau achosion o droi allan ac effeithlonrwydd ynni.  Roedd hefyd yn nodi'r angen i ddatgarboneiddio'r stoc tai cymdeithasol, a fyddai'n fuddsoddiad sylweddol i awdurdodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

 

8.1

bod y rhent tai cyfartalog yn cael ei gynyddu yn unol â Pholisi Rhenti Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru h.y. :-

a)    bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i renti eiddo sydd ar y targed

b)   bod cynnydd o 2.53% yn cael ei wneud i'r rhenti hynny sydd yn is na'r rhent targed a'u bod yn cael eu cynyddu £1 yr wythnos ar y mwyaf

c)    bydd y rhenti hynny sy'n uwch na'r targed yn cael eu rhewi hyd nes eu bod yn unol â'r targed

d)   gan gynhyrchu cynnydd yn y rhenti tai cyngor o 2.7% neu £2.36 ar gyfartaledd 

8.2

gweithredu'r cynnydd mwyaf posibl o £1.00 ar gyfer rhenti sy'n is na'r rhenti targed, hyd nes y cyrhaeddir y rhenti targed.

8.3

cadw rhent garejis yn £9.00 yr wythnos a sylfeini garejis yn £2.25 yr wythnos.

8.4

rhoi'r polisi ynghylch taliadau am wasanaethau ar waith er mwyn sicrhau bod y tenantiaid a oedd yn cael gwasanaethau penodol yn talu am y gwasanaethau hynny.

8.5

cynyddu'r taliadau am ddefnyddio gwaith trin carthffosiaeth y Cyngor, yn unol â'r cynnydd mewn rhenti.

8.6

cymeradwyo Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2020/21 (cyllidebau amhendant yw rhai 2022/22 a 22/23D), fel y nodwyd yn Atodiad B.

8.7

bod y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig a'r cyllido perthnasol ar gyfer 2020/21, a'r gwariant mynegiannol a bennwyd ar gyfer y blynyddoedd 2021/22 i 2022/2023, fel y'u nodwyd yn Atodiad A, yn cael eu cymeradwyo.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau