Agenda item

AROLYGIAD AROLYGIAETH GOFAL CYMRU O WASANAETHAU OEDOLION HYN CYNGOR SIR CAERFYRDDIN

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Dr. Michael Holding o Arolygiaeth Gofal Cymru i'r cyfarfod.

 

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) i archwilio pa mor dda y mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid yn hyrwyddo annibyniaeth ac yn atal anghenion rhag cynyddu i oedolion h?n. Roedd yr adolygiad yn nodi lle y gwnaed cynnydd a lle mae angen gwella.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad a roddai drosolwg ar yr arolygiad. Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:

 

Cryfderau - Cydweithio, rhannu gweledigaeth, cyfathrebu a chymorth.

Blaenoriaethau ar gyfer gwella - Cysondeb, sicrhau ansawdd, sefydlu a gwreiddio gweithio ataliol.

Y prif gasgliadau - diwylliant a rennir, bodlonrwydd ar y gwasanaethau, diffyg tystiolaeth o fonitro cynnydd, pwysau ar wasanaethau oherwydd absenoldebau staff, rheoli a chefnogi'n dda, arferion diogelu a arweinir yn dda, nid yw staff bob amser yn ymwybodol o'r gwasanaethau sydd ar gael, asesiadau gallu meddyliol o safon dda, cysylltiadau sylweddol â thechnoleg gymorthedig a teleofal.

 

Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb lle codwyd y cwestiynau / sylwadau canlynol:

 

·         Gofynnwyd a oedd gofalwyr teuluol wedi cael eu cyfweld yn ystod y broses arolygu.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y siaradwyd â gofalwyr teuluol a chafwyd adborth cadarnhaol.

·         Gofynnwyd a oedd staff yn cael eu cyfweld ar eu pen eu hunain neu gyda'u rheolwyr.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod staff yn cael eu cyfweld ar eu pen eu hunain i osgoi dylanwad posibl.

·         Gofynnwyd sut y cafodd y ffeiliau a arolygwyd eu dewis.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y cafodd y ffeiliau eu dewis gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Dewiswyd rhwng pumdeg a chwedeg o ffeiliau ar hap a oedd yn cynnwys categorïau atgyfeirio gwahanol.

·         Nododd y Pwyllgor mai un maes i'w wella oedd y dull o gyfleu'r gwasanaethau, y wybodaeth a'r cyngor sydd ar gael.

Dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod gwaith wedi'i wneud yn y maes hwn a bod pecynnau gwybodaeth a dogfennau rhanbarthol ynghylch cymorth i ofalwyr yn cael eu diweddaru a'u hadnewyddu. Roedd meysydd gwaith eraill yn cynnwys edrych ar arferion da, Rhaglen Buddsoddwyr mewn Gofalwyr a phasbort gofalwyr. Roedd gwaith hefyd yn mynd rhagddo gydag Adnoddau Dynol i ddarparu cymorth a seilwaith i weithwyr sydd hefyd yn ofalwyr. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu wrth y Pwyllgor nad oedd Swyddog Asesu Gwybodaeth Gofalwyr wedi bod yn ei swydd am y 12 mis diwethaf ond ei fod yn gobeithio y byddai'r swydd hon yn cael ei newid yn fuan i alluogi'r tîm i fod yn fwy rhagweithiol.

 

Daeth Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Integredig i'r casgliad bod yr adroddiad yn gytbwys ac yn deg a'i fod yn adlewyrchu sefyllfa bresennol y gwasanaethau integredig yn gywir. Roedd yr adroddiad yn cydnabod swyddogion am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u harferion da.

 

Roedd llawer o swyddogion yn bresennol yn y cyfarfod a diolchodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, iddynt am eu gwaith caled a'u hymroddiad. Bu i'r Cadeirydd gydnabod yr heriau maent yn eu hwynebau yn sgil y cyllid llai a'r galw cynyddol ar wasanaethau.

 

PENDERFYNWYD:

4.1       nodi adroddiad Arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru o Wasanaethau Oedolion H?n.

4.2       cymeradwyo Cynllun Gweithredu Arolygiaeth Gofal Cymru.

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau