Agenda item

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2019/20 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2019. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £703k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £169k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £32k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at yr ymweliadau safle a wnaethpwyd ym mis Mai 2019 â Chanolfan Hamdden Sanclêr, Y Gât a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw gynnydd a gyflawnwyd ers yr adeg honno ar eu datblygiad yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod ymchwiliadau/adroddiadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd ynghylch opsiynau ar gyfer y tri lleoliad ac y byddai hyn yn destun proses ddemocrataidd y Cyngor maes o law.

 

O ran Canolfan Hamdden Sanclêr, roedd model gweithredu newydd yn cael ei archwilio a'r gobaith oedd y byddai modd bod yn rhan o drefniant partneriaeth gyda'r cyngor cymuned. Dywedwyd bod angen gwneud dros £600k o waith i ddiweddaru'r cyfleuster ac roedd cais cyfalaf yn cael ei baratoi er mwyn ystyried ei gynnwys yn rhan o raglen gyfalaf 5 mlynedd y Cyngor. Er y byddai'r cais hwnnw'n dod o dan flwyddyn 5 yn y rhaglen petai'n cael ei dderbyn, y gobaith oedd y byddai unrhyw amrywiadau i'r rhaglen yn gallu caniatáu i'r cais gael ei ddwyn ymlaen.

 

O ran y sefyllfa yn y Gât, roedd ymgynghoriadau ar waith gyda'r Cyngor Cymuned ynghylch y modd y gweithredir y lle yn y dyfodol. Roedd llawer o opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, ac roedd gwaith ymgynghori ar waith gydag ysgolion ynghylch y math o gyfleuster yr hoffent weld yn cael ei ddarparu.

 

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant arfaethedig o £463k yn yr Is-adran Gynllunio a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol, a oedd wedi bod yn broblem dro ar ôl tro yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig er bod y gorwariant arfaethedig yn sylweddol, roedd yr is-adran yn ymwybodol o nifer o geisiadau cynllunio oedd i ddod a byddai ffioedd y rheiny yn helpu i leihau'r gorwariant. O ran mynd i'r afael â'r gorwariant dibaid, roedd hynny'n cael ei archwilio'n lleol ac yn genedlaethol. Yn lleol, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyflwyno polisi codi tâl yn ôl disgresiwn a allai gynnwys tâl am gyngor cyn cynllunio.

 

Yn genedlaethol, roedd newid yn y ddeddfwriaeth yn 2015 yn golygu mai'r awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am y gwaith a'r costau cysylltiedig o ran penderfynu ynghylch cynlluniau mawr megis ffermydd gwynt er bod y ffioedd ar eu cyfer yn daladwy i Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru yn archwilio lefel y ffioedd cynllunio, lle gallai cynnydd drwyddi draw fod yn bosibl, ynghyd â phennu taliadau cynllunio ar sail adennill costau yn llawn. Yn ogystal roedd sylwadau wedi cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd i gyflwyno ffioedd uwch ar gyfer ceisiadau cynllunio ôl-weithredol a thaliadau am gamau gorfodi.                                                                                                                                                                                       Fodd bynnag, nid oedd amserlen wedi cael ei phennu ar gyfer unrhyw newidiadau i'r drefn ffioedd cynllunio yng Nghymru.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynnydd o £79k yn y refeniw disgwyliedig o eiddo masnachol y Cyngor, roedd hynny oherwydd bod lefelau uwch na'r disgwyl o ddeiliadaeth yn y sir ac roedd galw mawr am yr unedau.

·         O ran Prosiect y Fargen Ddinesig, y sefyllfa bresennol ynghylch 11 prosiect y Fargen oedd bod 3 wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'w cymeradwyo ac roedd disgwyl i ddau arall gael eu cyflwyno erbyn diwedd y flwyddyn gyfredol. 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant arfaethedig o £14k ar nofio am ddim ar gyfer plant o dan 16 oed ac i oedolion dros 60 oed, roedd hynny'n gysylltiedig â gostyngiad yn lefel y grant a roddwyd i'r awdurdod gan Chwaraeon Cymru. Oherwydd y gostyngiad hwnnw roedd angen i'r Cyngor archwilio'r modd roedd y cynllun yn gweithredu, a gallai hyn arwain at lai o amseroedd ar gael i fynd i nofio am ddim.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y gorwariant o £12k yng nghyllideb Cynllunio a Datblygu Polisi, roedd hynny'n gysylltiedig â gwaith ymgynghori a ddarparwyd gan yr Uned Blaen-gynllunio i adrannau eraill y Cyngor. Fodd bynnag, gan fod y rhan fwyaf o amser yr Uned yn cael ei neilltuo i ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, nid oedd ganddi'r gallu i gyflawni ei rôl ymgynghori ac roedd hyn wedi arwain at lefelau llai o incwm.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y tanwariant arfaethedig o £33k ar daliadau digolledu, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod hynny'n gysylltiedig â'r arian a dalwyd i denantiaid i'w digolledu pan fyddai gwaith yn cael ei wneud yn eu cartrefi.

·         Roedd yr amrywiant o £737k ar brosiect Cyrchfan Ymwelwyr Rhyngwladol Eiconig Pentywyn yn gysylltiedig â'i ailbroffilio ac roedd disgwyl iddo gael ei gyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 16 Hydref 2019 gan eu bod yn gywir.

 

Dogfennau ategol: