Cofnodion:
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am weithdrefn y cyfarfod a dywedodd wrth yr Is-bwyllgor fod sylwadau wedi'u cyflwyno gan yr Heddlu, Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, yr Awdurdod Trwyddedu a phreswylydd lleol mewn perthynas â chais am drwydded safle ar gyfer darn penodol o Barc Caerfyrddin, Lôn Morfa, Caerfyrddin, sydd wedi'i amlinellu yn Atodiad A (tudalen 33).
Roedd y cais wedi'i gyflwyno gan Streamline Leisure am drwydded safle mewn perthynas â'r safle uchod.
Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-
Atodiad A – Copi o'r cais
Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu
Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys
Atodiad D – sylwadau Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd
Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Dosbarthwyd copïau o ddogfennaeth ychwanegol i'r Is-bwyllgor, gyda chytundeb yr holl bartïon, a oedd yn cynnwys diwygiadau i'r amodau a gynigiwyd gan yr Awdurdodau Cyfrifol ac yn nodi bod yr ymgeisydd yn derbyn yr amodau.
Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad B i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a nodwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.
Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad D i'r adroddiad a'r amodau arfaethedig a ddosbarthwyd. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi ymgeisydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Wedyn, cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan rai o'r bobl eraill a oedd yn mynegi pryderon ac/neu'n gwrthwynebu caniatáu'r drwydded safle am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Atodiad E.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
Ar hynny, rhoddodd yr ymgeisydd sylw i'r pryderon a'r materion a godwyd a dywedodd y byddai'n gweithio gyda'r gwrthwynebydd i leihau'r effaith ar ei safle.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau am y dystiolaeth a gyflwynwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.
Ar ôl y toriad, rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw hefyd i'r paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y cyfeiriwyd atynt gan y partïon.
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd gerbron,
PENDERFYNWYD y dylid caniatáu'r cais yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt.
Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor-
1. Nid oedd dim hanes o g?ynion mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedadwy ar y safle
2. Bu cwynion blaenorol mewn perthynas â s?n o'r safle mewn cysylltiad â gweithgareddau anhrwyddadwy
3. Nid oedd unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu caniatáu'r drwydded
4. Roedd yr awdurdodau cyfrifol wedi awgrymu amodau trwydded ychwanegol i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu pe bai trwydded yn cael ei chaniatáu
5. Derbyniodd yr ymgeiswyr yr amodau trwydded hynny
6. Pe bai trwydded yn cael ei chaniatáu, byddai'n weithredol drwy gydol y flwyddyn.
Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.
Roedd yr is-bwyllgor yn gwerthfawrogi pryderon y preswylydd lleol sydd wedi gwrthwynebu'r cais. Fodd bynnag, roedd y pryderon hynny'n ymwneud yn bennaf â gweithgareddau trwyddedadwy a fydd yn digwydd ar yr un pryd
Ar y cyfan, roedd yr is-bwyllgor yn fodlon nad yw'r materion hynny'n ddigon i wrthbwyso'r safbwyntiau a fynegwyd gan yr awdurdodau cyfrifol.
Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai eu hystyried yn briodol.
Felly mae'r Is-bwyllgor yn fodlon na fydd caniatáu'r drwydded ar yr amodau y cytunwyd arnynt yn tanseilio'r amcanion trwyddedu a bod amodau o'r fath yn ymateb cymesur i'r materion hyn a godwyd
Dogfennau ategol: