Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o berfformiad 2018/19 a chynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant. Canolbwyntiodd yr aelodau ar yr adrannau canlynol yn y ddogfen gan fod y rheiny'n berthnasol i gylch gorchwyl y Pwyllgor Craffu - Cymunedau:

 

·         Rhagarweiniad

·         AMCAN LLESIANT 2. Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw

·         AMCAN LLESIANT 5. Trechu Tlodi

·         AMCAN LLESIANT 6. Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir

·         AMCAN LLESIANT 7. Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael

·         AMCAN LLESIANT 8. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra)

·         AMCAN LLESIANT 14. Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

·         Atodiadau

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at dudalen grynhoi'r Mesurau Llwyddiant Allweddol.  Dywedwyd bod defnyddio gwepluniau'n amhriodol i nodi llwyddiant rhai o'r mesurau.  Cytunodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth a dywedodd y byddai'n chwilio am symbol mwy priodol i ddangos y llwyddiant drwy'r ddogfen.

 

·       Yn dilyn nifer o sylwadau ynghylch y targedau, roedd yr Aelodau o'r farn bod angen i'r targedau fod yn fwy realistig neu'n dryloyw pe byddai tuedd yn cael ei nodi mewn perthynas â diffyg gwelliant bob blwyddyn. Roedd y Pennaeth Hamdden yn cydnabod bod rhai o'r targedau'n uchelgeisiol a bod cynnydd rhai o'r mesurau heb ddatblygu llawer ac efallai y bydd yn cymryd amser ychwanegol i gyflawni gwelliannau.

 

·       O ran y graff yn Amcan Llesiant 9, a ddangosai 'canran y bobl sy'n teimlo bod ganddynt ymdeimlad o gymuned'.  Mynegwyd canmoliaeth gan mai Sir Gaerfyrddin yw'r 4ydd uchaf o flwyddyn i flwyddyn o ran y % newid, ar ôl lleihau o 73% yn 2014/15 i 47.4%.  Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod y llwyddiant oherwydd bod y Tasglu Gwledig yn monitro cymunedau gwledig, a oedd yn gweithio ar ffyrdd i wella cynhwysiant cymdeithasol drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio.

 

Dywedwyd y byddai'r argymhellion o'r adolygiad Gorchwyl a Gorffen ynghylch Unigrwydd yn cyfrannu at Amcan Llesiant 9.  Yn ogystal, dywedodd aelod fod grant o'r gronfa effeithlonrwydd o hyd at £5k ar gael. Fodd bynnag, gan fod y grant hwn yn boblogaidd, cynghorir bod cais yn cael ei gyflwyno'n gyflym.  Roedd y Pennaeth Hamdden yn cytuno ac yn cydnabod mor bwysig oedd i Gynghorwyr a Swyddogion fanteisio ar unrhyw gynlluniau sydd ar gael iddynt.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad mewn perthynas â'r Caffi a'r Maes Carafanau ym Mharc Gwledig Pen-bre, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod y ddigwyddiadau uchel eu proffil niferus wedi bod o fudd i'r ardal ac y byddai'r Caffi'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r hyn a gynigir yn y parc. Roedd rhai problemau cychwynnol o ran y system rhwystr newydd yn y maes parcio ac yn y cyfamser, er mwyn cynorthwyo ag unrhyw faterion a sicrhau bod ceir yn gallu dod i mewn a gadael yn hwylus, roedd staff yn gweithio ger y rhwystr ar adegau prysur, ac roedd system intercom ar waith ar adegau eraill.

 

·       Dywedwyd y gallai Cyngor Sir Caerfyrddin gael budd o ailgyflwyno hawlenni pysgota, gan fanteisio ar asedau'r cyngor ledled y sir.  Yn ogystal, awgrymwyd y gallai'r Cyngor achub ar y cyfle hwn heb lawer o ymdrech na chostau. 

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyllido, dywedodd y Pennaeth Hamdden nad oedd hwn wedi bod yn faes ffocws i'r adran dros y blynyddoedd diweddaf, ond cytunodd y gellid archwilio a datblygu'r maes hwn. Ychwanegodd y Pennaeth Hamdden efallai ei bod yn golygu defnyddio'r adnoddau a'r partneriaethau presennol, cymaint â chyllido buddsoddiad yn y lle cyntaf.  Byddai angen i'r gwaith cychwynnol gael ei gyflawni ar y cyd ag asiantaethau, cyrff llywodraethu, busnesau a chlybiau lleol allweddol er mwyn llunio cynllun cydlynol ar gyfer cydlynu adnoddau o'r fath. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

6.1      ofyn i'r Pennaeth Hamdden ystyried y posibilrwydd o gynnal cyfarfod ag asiantaethau allweddol i ystyried y posibilrwydd o hyrwyddo cyfleoedd pysgota ledled y sir.

 

6.2      ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2018/19.

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau