Agenda item

ADEILADU MWY O DAI CYNGOR - EIN HUCHELGAIS A'N CYNLLUN GWEITHREDU

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys cynllun trawsnewidiol 'Adeiladu mwy o Dai Cyngor - Ein Huchelgais a'n Cynllun Gweithredu' a oedd â'r nod o ddarparu dros 900 o dai Cyngor newydd dros y 10 mlynedd nesaf.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ac argymhellion arfaethedig mewn perthynas â'r canlynol:

 

·       ble a phryd y byddai'r tai'n cael eu hadeiladu;

·       yr adnoddau sydd ar gael a'r modelau darparu fyddai'n cael eu defnyddio;

·       sut y byddai blaenoriaethau adfywio ehangach ledled y sir yn cael eu cefnogi; 

·       sut y byddid yn manteisio ar gyfleoedd newydd wrth iddynt godi.

 

Byddai'r cynllun gweithredu yn arwain at y cynnydd mwyaf yn nifer y tai Cyngor yn y sir ers y 1970au ac yn dychwelyd y stoc dai i'r lefelau a welwyd ddiwethaf yn y 1990au.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod darparu mwy o dai fforddiadwy yn flaenoriaeth strategol allweddol i'r Cyngor sy'n rhan o weledigaeth pum mlynedd i gynyddu'r cyflenwed o dai fforddiadwy. Yn 2016, dechreuodd y Cyngor ar ei rhaglen fuddsoddi uchelgeisiol 10 mlynedd i ddarparu dros 1000 o dai fforddiadwy ychwanegol ledled y Sir.  Mae'r Cyngor bellach yn ei bedwaredd blwyddyn o ddarparu'r tai fforddiadwy, ac roedd y tair blynedd gyntaf yn llwyddiannus iawn gan fod bron 700 o dai wedi'u hadeiladu ac mae ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o 1000 o dai fforddiadwy.

 

Nododd yr Aelodau fod rhaglen ddatblygu'r Cyngor wedi'i llunio gan ddefnyddio strwythur camau darparu a oedd yn dangos pryd y byddai'r tai'n cael eu hadeiladu. Roedd hyn yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys yr amserlenni tebygol o ran cyflawni'r rhaglen, sy'n cynnwys tri cham blaenoriaeth, a ddisgrifiwyd yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       O ran maint y tai newydd, dywedwyd bod y tai Cyngor yn y gorffennol yn gadarn, wedi'u hadeiladu'n dda â gardd o faint da. O gymharu â hynny, mynegwyd pryder y byddai'r tai newydd yn cael eu hadeiladu'n rhy agos at ei gilydd â gerddi llai o faint.  Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'r tai newydd yn cael eu dylunio'n benodol i gynnwys digon o le ar gyfer cartref gydol oes.  Yn ogystal, er mwyn diogelu'r tai at y dyfodol, byddent yn cydymffurfio â'r safonau o ran lle a fyddai felly'n sicrhau eu bod yn addas at y diben.

 

·       Dywedwyd y byddai'n fuddiol i'r aelodau gael dadansoddiad o'r meysydd datblygu mewn perthynas â'r amrywiaeth fesul ward.  Cytunodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai'n anfon neges e-bost at yr holl aelodau i gynnwys manylion ynghylch y gweithgarwch o ran tai fforddiadwy fesul ward.

 

 

 

 

 

·         Mynegwyd pryderon ynghylch nifer y ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cyflwyno'n gyson er mwyn cadw'r caniatâd i adeiladu ar y tir heb fod unrhyw waith yn mynd yn ei flaen. Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod y pryderon, gan ddweud bod trafodaethau ar waith o ran y posibilrwydd o gyfyngu ar nifer y ceisiadau ar gyfer un safle. Cynigiodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel rannu diweddariad ynghylch canlyniadau'r trafodaethau â'r Pwyllgor drwy neges e-bost.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol:

 

5.1      ailgadarnhau'r egwyddorion cyflawni allweddol ar gyfer rhaglen adeiladu tai newydd y Cyngor, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy llwyddiannus;

5.2      cytuno ar yr ystod o fodelau darparu a fydd yn cael eu defnyddio i adeiladu dros 900 o dai Cyngor newydd, gan ein galluogi i gynnig amrywiaeth o ddewisiadau tai mewn gwahanol ardaloedd o'r Sir;

5.3      cadarnhau y bydd y tai Cyngor newydd yn cael eu darparu drwy ddefnyddio'r ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy sy'n rhan o'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy;

5.4      cytuno ar strwythur y bandiau blaenoriaeth a ddefnyddir i bennu pryd bydd y safleoedd adeiladu newydd yn cael eu datblygu;

5.5      y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer symud datblygiadau o Gam B a Cham C i Gam A
 a

5.6.      cytuno ar y rhaglen cyflawni am y tair blynedd gyntaf ar gyfer adeiladu tai Cyngor newydd yn y Sir, gan fuddsoddi dros £53m a darparu dros 300 o dai Cyngor newydd

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau