Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 FERSIWN DDRAFFT O'R STRATEGAETH CYN-ADNEUO A FFEFRIR

Cofnodion:

(NODER:

1.    Gan fod y Cynghorydd G.B. Thomas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r eitem gan y Pwyllgor;

2.    roedd y Cynghorwyr A. Davies ac A.Vaughan Owen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach).

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad arFersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018-2033 a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018 i ddechrau ar y gwaith o baratoi cynllun diwygiedig a oedd yn cynrychioli carreg filltir bwysig i’r Cyngor o ran cyflawni ei gyfrifoldebau statudol i baratoi cynllun cyfredol ar gyfer y Sir (ac eithrio'r ardal sy'n dod o fewn awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog)

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys 344 o sylwadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd a gynhaliwyd rhwng 12 Rhagfyr 2018 a 8 Chwefror 2019. Roedd y sylwadau hynny, ynghyd ag ymatebion ac argymhellion y swyddogion a chefndir y strategaeth a ffefrir, wedi’u cynnwys yn yr atodiadau canlynol i'r adroddiad:-

 

  • Atodiad 1 – Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir – Cefndir;
  • Atodiad 2 – Strategaeth a Ffefrir – Crynodeb o'r Sylwadau a'r Ymatebion -Argymhellion;
  • Atodiad 3 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law;
  • Atodiad 4 – Adroddiad Sgrinio yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd – sylwadau a ddaeth i law;
  • Atodiad 5 – Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad yr Asesiad Amgylcheddol Strategol – sylwadau a ddaeth i law

 

Nodwyd bod yr adroddiad wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 7 Mai a byddai'r Cyngor yn ei ystyried ar gyfer ei fabwysiadu'n ffurfiol ar 15 Mai, 2019.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cadarnhaodd y Rheolwr Blaengynllunio, mewn ymateb i gwestiwn ar gynnwys darpar safleoedd yn y CDLl diwygiedig, y byddai'n rhaid unrhyw unigolyn neu sefydliad, gan gynnwys y Cyngor Sir, sy'n dymuno cynnwys darn o dir, ei gyflwyno i'r Cyngor cyn diwedd Awst, 2018. Roedd cyfanswm o 926 o safleoedd wedi'u cyflwyno erbyn y dyddiad hwnnw ac roedd tua 4,000 o ymatebion wedi'u derbyn yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Ar hyn o bryd, roedd yr adran yn dadansoddi pob un o'r 926 o safleoedd er mwyn asesu eu priodoldeb ac roedd disgwyl y byddai'r broses honno'n cael ei chwblhau erbyn diwedd haf 2019. Yn dilyn yr asesiad hwnnw, pe bai'n dod i'r amlwg bod safle yn anaddas, neu'n mynd yn groes i Strategaeth y Cynllun neu bolisi cenedlaethol, ni fyddai'n cael ei ystyried yn briodol i'w gynnwys yn y Cynllun Adneuo.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr arfer o ran 'bancio tir ', dywedwyd wrth y Pwyllgor bod dros 10,000 o unedau heb eu cwblhau ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, gyda chanran uchel o'r rhain heb ddynodi eu bwriad ar gyfer y safle. Fel rhan o'r broses yn ymwneud ag adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol byddai'r safleoedd yn cael eu herio o ran eu cynnwys yn y dyfodol ac os bernir na fyddent yn debygol o gyflwyno'r safleoedd ar gyfer eu datblygu neu'u bod yn anaddas, ni fyddai safleoedd o'r fath yn cael eu cynnwys na'u dyrannu eto yn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL BOD:

 

6.1

 bod y sylwadau a ddaeth i law o ran y Fersiwn Ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir  yn cael eu nodi a bod yr argymhellion yn cael eu cadarnhau

6.2

bod y sylwadau ddaeth i law o ran yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Adroddiad Cychwynnol yr Asesiad Amgylcheddol Strategol, Adroddiad Sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ac Adroddiad Adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu nodi a’r argymhellion yn cael eu cadarnhau

6.3

Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion gyflawni'r canlynol:-

·            newid y Strategaeth a Ffefrir yng ngoleuni'r argymhellion sy'n deillio o'r prosesau uchod a'r dystiolaeth sy'n rhan o baratoi'r Fersiwn Adneuol o'r Cynllun Datblygu Lleol;

·            gwneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Fersiwn Drafft y Strategaeth a Ffefrir.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau