Agenda item

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 - DIWEDDARIAD DRAFFT MEHEFIN 2019

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorwyr Ann Davies, Arwel Davies a Gareth Thomas eisoes wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach

 

 Derbyniodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 - Diweddariad Drafft Mehefin 2019 mewn perthynas â'r Cynlluniau Cyflawni Llesiant canlynol a oedd yn perthyn i'w gylch gwaith:-

 

·         Amcan Llesiant 2. - Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw

·         Amcan Llesiant 6 – Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir;

·         Amcan Llesiant 7 – Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael;

·         Amcan Llesiant 8 – Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra;

·         Amcan Llesiant 14 – Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at Amcan Llesiant 2 ac at y modd yr oedd y Cyngor yn bwriadu gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned i fuddsoddi mewn uwchraddio cyfleusterau hamdden lleol.

 

Dywedodd y Rheolwr Busnes a Phrosiectau y byddai hyn yn cael ei wneud gan swyddogion sy'n rhoi cyngor a chymorth i'r awdurdodau hynny ar sut i hyrwyddo gweithgareddau yn eu parciau a helpu i wneud y defnydd gorau o'u cyfleusterau. Gallai hynny hefyd gynnwys cyfeirio at wahanol ffynonellau grant a rhoi cymorth i gyflwyno ceisiadau am grant.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y byddai'r Cyngor yn adolygu ac yn gweithredu gwell llwybr o ran darpariaeth nofio er mwyn galluogi cyfranogwyr i gyrraedd eu potensial llawn (mae Amcan Llesiant 2 yn cyfeirio at hyn).

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai elfen o ailstrwythuro yn yr Is-adran Hamdden, gan gynnwys cyflogi staff ychwanegol i addysgu nofio, gyda'r nod yn y pendraw o gael pob plentyn i nofio.

 

Cyfeiriwyd at y gost i ysgolion o gymryd rhan mewn gwersi nofio ac i gais blaenorol y Pwyllgor i'r Cyfarwyddwr Addysg a Phlant i ariannu'r cyfraniad hwnnw o £150k ar ran ysgolion at y diben hwnnw (Mae cofnod 7 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mawrth yn cyfeirio at hyn). Er bod y Pwyllgor yn cydnabod ymateb y Cyfarwyddwr i'r cais hwnnw a'r rhesymau pam nad oedd mewn sefyllfa i gytuno â hynny, teimlwyd, o ystyried pa mor bwysig oedd hi i blant allu nofio, y dylid gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ailystyried ariannu'r costau hyn.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor, er bod cost y gwersi nofio am ddim i ysgolion, roedd y gost ei hun yn ymwneud â darparu cludiant yn unig.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar Amcan Llesiant 7 ar ailddefnyddio tai gwag, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel, er bod gan y Cyngor bwerau cyfreithiol i ddweud wrth berchenogion am adnewyddu'r eiddo hynny, a oedd yn golygu proses gyfreithiol hirfaith, y cam cyntaf fyddai trafod â'r perchenogion i uwchraddio eu heiddo yn wirfoddol, ac amcangyfrifir bod 2,500 o'r rhain yn y sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:-

 

5.1

Bod Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 – Diweddariad Drafft Mehefin 2019 yn cael ei derbyn;

5.2

Gofyn i'r Bwrdd Gweithredol ystyried talu'r gost a amcangyfrifir yn £150k y mae'n rhaid i ysgolion cynradd ei thalu er mwyn darparu gwersi nofio fel rhan o gwricwlwm Cyfnod Allweddol 2

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau