Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - KUBUS, LLANELLI

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law  am Drwydded Safle ar gyfer Kubus, 29 Heol yr Orsaf, Llanelli, SA15 1AW i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol:-       Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 – 21:00;

·         Oriau Agor dydd Llun hyd at ddydd Sul 09:00-21:00.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·         Atodiad A – Copi o'r cais

·         Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Yn ogystal â'r uchod, cafodd yr Is-bwyllgor, yn dilyn cytundeb yr holl bartïon oedd yn bresennol, y dogfennau ychwanegol canlynol:

 

  • Datganiad yr heddlu (cyfyngedig)
  • Safle Ardal Effaith Gronnol – Heol yr Orsaf Llanelli

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

 

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau ysgrifenedig, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad C i'r adroddiad a chyfeiriodd at y sylw ysgrifenedig a oedd wedi'i gynnwys ym mwndel yr agenda.

 

Eglurodd Cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu fod:

 

  • Ardal Heol yr Orsaf yn destun Polisi Effaith Gronnol a bod y safle/polisi hwn yn creu rhagdybiaeth a ai yn erbyn rhoi trwydded safle.
  • Erbyn hyn, mae sail statudol gan Bolisïau/Asesiadau Effaith Gronnol.
  • Nid oedd yr eithriadau i'r polisi a amlinellwyd yn Atodiad C fel pe baent yn berthnasol yn yr achos hwn.
  • Petai'r Is-bwyllgor yn penderfynu rhoi'r drwydded, mae'r ymgeisydd yn cefnogi'r amodau trwydded a gynigir.
  • Rhoddwyd cadarnhad bod 1 drwydded wedi'i hildio ers 2016.
  • Mae'r adain Drwyddedu yn cael adroddiadau'n rheolaidd am broblemau yn ardal Heol yr Orsaf, Llanelli ac nid yw'r problemau hynny wedi lleihau.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd Mr Price, cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys, at ei sylwadau ysgrifenedig a'i ddatganiad o dystiolaeth, a dywedodd: 

 

  • Bod yr Heddlu yn gwrthwynebu'r cais oherwydd y Polisi Effaith Gronnol a'r  Gorchymyn Yfed mewn Mannau Cyhoeddus (DPPO) a gwmpasai Heol yr Orsaf a'r ardal gyfagos.

 

  • Roedd Heol yr Orsaf, Llanelli, wedi'i nodi'n fan â llawer o broblemau o ran troseddau ac anhrefn.

 

  • Pe byddai'r Is-bwyllgor yn gwyro o'i Bolisi Effaith Gronnol, byddai'r heddlu'n gofyn am ychwanegu amodau penodedig at y drwydded. Credai fod yr ymgeisydd wedi derbyn yr amodau.

 

  • Y cefndir mewn perthynas â natur gymdeithasol ddifreintiedig yr ardal a nifer y safleoedd trwyddedig yn Heol yr Orsaf.

 

  • Yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill 2017 a Mawrth 2018 cofnodwyd 164 o achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Heol yr Orsaf ac roedd 26% o'r rheiny wedi digwydd mewn safleoedd trwyddedig.

 

  • Roedd un ym mhob pum trosedd perthnasol ac 13% o'r holl achosion o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol a gofnodwyd yn nhref Llanelli yn digwydd yn Heol yr Orsaf. At hynny, cafodd 41 o droseddau Trais yn erbyn yr Unigolyn oedd yn gysylltiedig ag alcohol eu cofnodi yn Heol yr Orsaf yn ystod yr un cyfnod. 

 

  • Er bod gostyngiad wedi bod yn nifer y safleoedd lle'r oedd alcohol ar werth, dengys yr ystadegau fod lefel uchel o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol yn Heol yr Orsaf.

 

 

 

  • Roedd 2 siop drwyddedig arall yn agos iawn i'r safle hwn.

  • O gofio'r dystiolaeth ystadegol, roedd yr heddlu o'r farn y byddai safle ychwanegol a werthai alcohol yn ychwanegu at y problemau presennol yn Heol yr Orsaf.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Heddlu ynghylch ei sylwadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd Mr Price ragor o wybodaeth mewn perthynas â throseddau yn nhref Llanelli a Heol yr Orsaf:

 

­   17/18 – 3,299 gyda 244 wedi'u cofnodi yn Heol yr Orsaf

­   16/17 – 2,523 gyda 142 wedi'u cofnodi yn Heol yr Orsaf

­   15/16 – 2484 gyda 162 wedi'u cofnodi yn Heol yr Orsaf

 

Yn ogystal, oherwydd natur rhannau o Heol yr Orsaf, golygai hynny fod presenoldeb amlwg gan yr heddlu'n ofynnol. Tra bo Heol yr Orsaf yr un peth ag ardaloedd eraill yn y sir, roedd lefel gyson o droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol.

 

Dywedodd Mr Price fod 51% o'r holl droseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig ag alcohol yn digwydd rhwng 10pm a 6am a 49% rhwng 6am a 10pm.

 

Wedyn roedd Mr Lewis wedi annerch yr Is-bwyllgor ar ran yr ymgeisydd (presennol) ac wedi rhoi gwybod:

 

­   Bod yr ymgeisydd yn ddyn teulu a oedd wedi bod yn rhedeg y siop am 5 mlynedd. Hefyd mae ganddo drwydded bersonol ac mae wedi rhedeg siop drwyddedig yn y gorffennol.

 

­   Mae'r siop yn gwerthu bwyd a llawer o gynnyrch unigryw ac anarferol, ond rhai Pwylaidd ac Ewropeaidd yn bennaf.  Mae'r siop ar agor rhwng 9:00am a 9:00pm a theuluoedd yn bennaf yw ei chwsmeriaid. Yn ogystal, teimlai y byddai cyflenwi'r cynhyrchion arbenigol hyn yn helpu i integreiddio'r gymuned Bwylaidd.

 

­   Mae'r gymuned Bwylaidd yn mwynhau partïon teuluol ac felly fe hoffai'r ymgeisydd fod mewn sefyllfa lle gall gyflenwi diodydd alcoholig arbenigol Pwylaidd i'w gwsmeriaid. Fodd bynnag, mae'r ymgeisydd yn ystyried taw rhywbeth ychwanegol i'w fusnes bwyd yw diodydd alcoholig, ac nid oedd am fod yn siop drwyddedig gyffredinol.

 

­   Roedd system teledu cylch cyfyng berthnasol wedi cael ei harchebu a rhoddwyd sicrwydd y byddai alcohol yn cael ei reoli'n dda gan y staff.

 

­   Roedd y safle wedi'i thrwyddedu'n flaenorol fel tafarn/clwb nos

 

­   Ym mhrofiad yr ymgeisydd, roedd diwylliant yfed cymdeithasol wedi newid ac roedd pobl yn yfed gartref yn bennaf erbyn hyn. Nid yw'n credu y byddai ei gwsmeriaid ef, sy'n bobl teulu, yn achosi problemau.

 

­   Roedd un siop Bwylaidd arall a oedd yn gwerthu nwyddau Pwylaidd (gan gynnwys alcohol) yn Heol yr Orsaf.

 

 

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi'r ymgeisydd a Mr Lewis ynghylch eu sylwadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid gwrthod y cais.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Mae Datganiad Polisi Trwyddedu y Cyngor yn nodi bod Polisi Effaith Gronnol yn berthnasol i'r rhan hon o Heol yr Orsaf.
  2. Roedd y safle mewn ardal oedd wedi ei dynodi yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod yn fan problemus o ran troseddau ac anhrefn.
  3. Roedd y safle wedi'i leoli mewn ardal lle'r oedd Gorchymyn Mannau Cyhoeddus Dynodedig.
  4. Gwrthodwyd cais blaenorol am drwydded safle mewn perthynas â'r safle hwn yn 2013
  5. Ni chafodd dim tystiolaeth ei chyflwyno o ran troseddau ac anrhefn yn y safle hwn nac yn gysylltiedig ag ef.
  6. Roedd cryn dipyn o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol yng nghyffiniau'r safle.
  7. Roedd yr Heddlu yn erbyn caniatáu'r cais mewn egwyddor ar y sail y byddai hynny'n tanseilio'r amcan atal troseddau.
  8. Nid oedd gan y safle drwydded ar hyn o bryd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar sylwadau'r awdurdodau cyfrifol a heb dderbyn unrhyw dystiolaeth a awgrymai fod y sylwadau hynny'n anghywir neu heb gyfiawnhad.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Yn yr achos hwn, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod tystiolaeth go iawn i gefnogi pryderon yr heddlu ynghylch effaith caniatáu'r cais hwn.

 

 

 

 

Nododd yr Is-bwyllgor delerau'r Polisi Effaith Gronnol ac yn benodol ei fod;

 

  1. Yn creu rhagdybiaeth amodol na ddylai'r cais gael ei ganiatáu.
  2. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwrthateb y rhagdybiaeth.
  3. Dylid ond gwyro oddi wrth hwn mewn 'amgylchiadau eithriadol’.

 

Nid oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth a fyddai, ym marn yr Is-bwyllgor, yn gyfystyr ag 'amgylchiadau eithriadol' fyddai'n cyfiawnhau gwyro oddi wrth y polisi uchod.

 

Gan hynny, o gofio bod nifer sylweddol o achosion o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol yn Heol yr Orsaf, Llanelli o hyd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon ei bod yn briodol gwrthod y cais hwn er mwyn hyrwyddo'r amcan trwyddedu o atal troseddau ac anhrefn.   Yn ogystal, roedd y penderfyniad hwn yn ymateb cymesur i'r troseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol sy'n dal i ddigwydd yn yr ardal honno.

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau