Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - Y GANOLFAN DDARGANFOD

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law am Drwydded Safle ar gyfer Y Ganolfan Ddarganfod, Doc y Gogledd, Llanelli, SA15 2LF i ganiatáu'r canlynol:

 

·         Cyflenwi Alcohol     -   Dydd Llun i ddydd Sul 09:00 – 23:00;

·         Oriau Agor - dydd Llun i ddydd Sul 08:00-00:00

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

·         Atodiad A – Copi o'r cais

·         Atodiad B – Sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Dyfed-Powys

·         Atodiad C – Sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill

 

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd, a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y gwrandawiad gan y partïon.

 

 

Dywedwyd wrth yr Is-bwyllgor fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais, ond bod y naill ochr a'r llall wedi dod i gytundeb ers hynny. 

Ar hynny, cafodd yr Is-bwyllgor a'r ymgeisydd gyfle i ofyn cwestiynau. 

Yna anerchodd yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor gan ddweud:-

 

  • Mai'r rhesymau dros ofyn am drwydded safle oedd er mwyn darparu amgylchedd hamddenol i gwsmeriaid fwynhau diod alcoholig â brecwast siampên/ te prynhawn / byrbryd gyda'r nos ac ati mewn lleoliad moethus. Byddai'r safle'n cael ei redeg fel un sy'n addas i'r teulu cyfan ar gyfer ystod eang o gleientiaid.  Gan fod y cwstwm hwnnw'n cael ei werthfawrogi'n fawr, nid oedd am beryglu hynny drwy newid pwyslais y busnes i fod yn lle yfed arall. Yn hynny o beth, ni fyddai'n goddef unrhyw ymddygiad afreolus a byddai alcohol yn cael ei werthu am bris premiwm i atal sefyllfa o'r fath rhag datblygu. 

 

  • Yn ogystal, ei chynlluniau oedd bod y safle ar gael ar gyfer dathliadau a digwyddiadau arbennig eraill gydag alcohol yn cael ei weini gyda bwyd yn unig.

 

  • Eglurwyd i'r Is-bwyllgor pe na allent werthu alcohol byddai hynny'n golygu bod y busnes yn llai hyfyw.

 

  • Eglurodd yr ymgeisydd fod yr ardal wedi gwella pan gymerwyd Langland Brasserie drosodd ganddynt ac mai prin yw'r problemau gafwyd yno yn ystod y 9 mlynedd diwethaf. Felly, roedd yn credu bod y gwrthwynebydd yn afrealistig yn ei wrthwynebiadau. 

 

  • Yn ogystal, roedd yr ymgeisydd yn credu'n gryf y byddai'r rhan honno o Lanelli yn gwella pe bai'n cymryd y safle drosodd.

 

  • Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei bod hi'n derbyn amodau trwyddedu'r heddlu ac y byddai'n eu rhoi ar waith.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r ymgeisydd am ei sylwadau.

 

  • Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chapasiti'r safle, dywedodd yr ymgeisydd mai 200 o bobl ar unrhyw un adeg oedd capasiti'r safle. Roedd hyn yn cynnwys capasiti o 80 ar y llawr gwaelod, capasiti o 70 ar y llawr 1af a chapasiti o 40-50 ar gyfer yr ystafell ddigwyddiadau ar y llawr uchaf.

  • Dywedodd yr ymgeisydd, mewn ymateb i ymholiad, y byddai'r busnes yn cynnig diodydd alcoholig am bris premiwm drwy ddarparu amgylchedd braf ar gyfer yr holl gwsmeriaid gan gynnwys teuluoedd.  Yn ogystal, byddent yn rheoli'r modd y gweinir alcohol yn broffesiynol.

 

 

 

  • Mewn perthynas â'r llwybr beicio cyfagos, dywedodd yr ymgeisydd y byddai'r busnes yn agored i feicwyr a defnyddwyr eraill y llwybr, ac y byddai'n lleoliad diogel ar gyfer cadw beiciau'r cwsmeriaid.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor sylw ar lafar gan gymydog i fusnes yr ymgeisydd yn 'Langland Brasserie' a oedd yn cefnogi'r cais:

 

  • Eglurodd y cefnogwr fod Langland Brasserie yn sefydliad poblogaidd a oedd yn cael ei reoli'n broffesiynol gan yr ymgeisydd.  Cadarnhaodd hefyd nad oedd erioed wedi gweld yr heddlu yn bresennol ar y safle.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon ofyn cwestiynau i'r cefnogwr ynghylch ei sylwadau.

 

Ni chafodd yr Is-bwyllgor unrhyw sylw ar lafar gan y gwrthwynebydd gan nad oedd yn bresennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeisydd a'r heddlu wedi cytuno arnynt.

 

RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

1.    Nid oedd tystiolaeth fod gan yr ardal na'r safle hanes o droseddau ac anhrefn cysylltiedig ag alcohol.

 

2.    Roedd yr ymgeiswyr yn brofiadol yn rhedeg y math hwn o fusnes gan eu bod yn rhedeg busnes tebyg yn Abertawe.

 

3.    Nid oedd dim tystiolaeth wedi cael ei chyflwyno i awgrymu bod y modd roedd y busnes hwnnw'n cael ei redeg yn tanseilio'r amcanion trwyddedu.

 

4.    Mae'r ymgeisydd a'r heddlu wedi cytuno ar set o amodau y maent yn credu ei bod yn briodol eu hychwanegu at y drwydded er mwyn hyrwyddo amcanion trwyddedu.

5.    Nid oedd unrhyw un o'r awdurdodau cyfrifol wedi gwrthwynebu caniatáu'r drwydded.


 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol.

 

Mae'r Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Er nad yw'r Is-bwyllgor yn amau fod pryderon Mr Powles yn rhai dilys, nid oedd Mr Powles nac unrhyw un arall wedi cyflwyno tystiolaeth wirioneddol a gefnogai'r  pryderon hyn. Yn yr un modd, nid oedd materion yn ymwneud â'r 'angen' am safle alcohol yn faterion y gallai'r Is-bwyllgor eu cymryd i ystyriaeth.

 

Nid oedd dim tystiolaeth wedi'i chyflwyno i'r Is-bwyllgor a awgrymai fod barn broffesiynol yr heddlu am y cais hwn yn anghywir neu y dylid gwyro oddi wrthi.

 

Yn unol â hynny canfu'r Is-bwyllgor mai priodol oedd caniatáu'r cais, yn amodol ar yr amodau trwydded y cytunwyd arnynt rhwng yr ymgeisydd a'r heddlu, a bod hwn yn gam cymesur o gofio holl ffeithiau'r achos.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau