Agenda item

Y DDARPARIAETH PRYD AR GLUD.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun a ddatblygwyd gan yr Adran Cymunedau ynghylch y newidiadau i'r Gwasanaeth Pryd ar Glud.

 

Ar ôl i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol benderfynu tynnu'n ôl o ddarparu'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn Sir Gaerfyrddin ym mis Hydref 2018, roedd angen i'r adran adolygu'r 214 o ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn asesu anghenion pob unigolyn a chynnig dewisiadau eraill.  Roedd hefyd yn gyfle i hybu mwy o annibyniaeth a chyfleoedd cymdeithasu ar gyfer yr unigolion, gan ddatblygu, lle bo modd, fentrau yn y gymuned i gefnogi'r unigolion a'u cymunedau lleol.  Dechreuodd y broses adolygu ym mis Mai ac mae bellach wedi'i chwblhau.

 

Mae'r adolygiad wedi bod yn broses person-ganolog sydd wedi nodi, ar y cyd â'r defnyddiwr gwasanaeth a'i deulu, y dewisiadau sydd fwyaf priodol i'r unigolyn.  Mae'r adran yn fodlon bod trefniadau amgen wedi'u gwneud i bob un o'r defnyddwyr gwasanaeth a adolygir, a bod y trefniadau hyn yn ddiogel ac yn addas i'r unigolion.  Er gwaethaf rhai anawsterau cychwynnol wrth adolygu'r unigolion yng ngogledd-orllewin y sir, ychydig iawn o bryderon a godwyd ac mae canlyniadau'r adolygiad wedi darparu trefniadau newydd a chadarnhaol ar gyfer y defnyddwyr gwasanaeth. Mae enghreifftiau'n cynnwys pobl yn defnyddio caffis lleol sy'n cynnig dewis gwell o brydau am gost debyg, a phobl yn dewis Wiltshire Farm Foods, sef gwasanaeth sy'n dosbarthu prydau wedi'u rhewi ledled y sir.

 

Ar sail canlyniadau'r adolygiad, mae'r rhan fwyaf o'r unigolion a oedd yn defnyddio'r Gwasanaeth Pryd ar Glud naill ai wedi dewis ymdopi ar eu pen eu hunain, maent wedi cael gafael ar fusnesau lleol i'w cynorthwyo o ran darparu pryd twym, neu maent yn defnyddio Wiltshire Farm Foods. 

 

Ychydig iawn ohonynt oedd angen cael rhagor o gymorth gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, ac mae'r adran yn cynnal trafodaethau â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a sefydliadau'r trydydd sector i ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion parhaus y 17 unigolyn sydd ar ôl gan gynnwys y rheiny y mae angen cymorth arnynt i dwymo eu prydau a mwynhau cael cwmni.

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder na fydd y mentrau newydd yn bodloni'r gofynion o ran pobl unig a phobl agored i niwed yn yr un ffordd â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor fod yna argraff ledled Cymru nad oedd y Gwasanaeth Pryd ar Glud yn diwallu anghenion pobl a'u bod am gael rhywbeth gwahanol.  Y gred gyffredinol oedd bod yna ffyrdd eraill o ddiwallu anghenion pobl.  Ychwanegodd fod swyddogion yn archwilio ystod o fentrau i ymgysylltu â phobl;

·       Gofynnwyd am sicrwydd bod y system newydd yn gynhwysfawr ac y bydd monitro'n cael ei wneud.  Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod seminar yn cael ei gynnal ar gyfer y Pwyllgor ynghylch y Strategaeth Ddarparu er mwyn lleddfu pryderon yr aelodau;

·       Cyfeiriwyd at yr adroddiad diweddaraf gan Age UK sy'n dangos bod bron 1:10 o bobl dros 65 oed mewn perygl o fod â diffyg maeth a bod 50% o bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty o gartrefi gofal yn dioddef o ddiffyg maeth, a mynegwyd pryder bod yna broblem glir o ran diffyg maeth ymhlith yr henoed.  Awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod Strategaeth Faeth yr Awdurdod yn cael ei chynnwys yn y seminar arfaethedig;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith nad yw'r holl ddarparwyr lleol wedi'u rhestru ar wefan y Cyngor.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod yr Awdurdod yn ceisio hwyluso mynediad at yr holl ddarparwyr lleol, ond ar ôl cael adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth a ddywedodd nad ydynt yn gallu cyrchu'r wybodaeth y mae ei hangen arnynt, cydnabuwyd bod angen diweddaru'r wefan.  Cynhelir gweithdy ym mis Hydref er mwyn i ddefnyddwyr y gwasanaeth a'r gofalwyr drafod gwelliannau i'r wefan;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion am fanylion pellach ynghylch y 17 defnyddiwr gwasanaeth y mae eu hanghenion heb gael eu diwallu eto.  Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig i ddosbarthu'r wybodaeth hon i'r Pwyllgor;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion a yw'n bosibl cysylltu â'r 214 o ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn gofyn iddynt a ydynt yn fodlon ar y trefniadau newydd.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gellid cynnal gwerthusiad terfynol a fyddai'n casglu'r wybodaeth hon.

 

PENDERFYNWYD

 

8.1     derbyn yr adroddiad;

8.2     trefnu seminar ynghylch y Strategaeth Ddarparu ar gyfer aelodau'r Pwyllgor;

 

8.3     ystyried adroddiad gwerthuso terfynol ynghylch boddhad cwsmeriaid mewn perthynas â'r trefniadau newydd mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

Dogfennau ategol: