Cofnodion:
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion y Cyngor i wneud Gorchymyn a fyddai'n amrywio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) fel y gallai gynnwys amrywiol gyfyngiadau newydd ar hyd nifer o briffyrdd yn Llanelli, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynigion oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd saith sylw wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion yr adran iddynt, ac y rhoddwyd crynodeb ohonynt yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad lle cyfeirir atynt yn 4.3, 4.4, 4.5, 4.6 a 4.7.
PENDERFYNWYD
4.1 cadarnhau Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) yn amodol ar y newidiadau a gytunwyd gyda'r aelodau lleol ac a fanylwyd yn 4.3, 4.4. 4.5, 4.6 a 4.7 o grynodeb gweithredol yr adroddiad,
4.2 rhoi gwybod yn ffurfiol i wrthwynebwyr y Gorchymyn arfaethedig am benderfyniad y Cyngor.
Dogfennau ategol: