Agenda item

Y DDARPARIAETH PRYD AR GLUD.

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch newidiadau i'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn y sir.

 

Hysbyswyd y swyddogion gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol ei fod yn bwriadu rhoi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth Pryd ar Glud yn Sir Gaerfyrddin a byddai'r gwasanaeth yn dod i ben fis Hydref 2018 fan bellaf.

 

O gofio bod angen i'r Adran Cymunedau adolygu 214 o unigolion a bod y gwasanaeth yn dod i ben erbyn mis Hydref 2018, gosodwyd dyletswydd ar ddau swyddog i adolygu defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn sicrhau y gallai'r broses adolygu ddechrau'n brydlon.  Byddai defnyddwyr y gwasanaeth yn cael eu symud i wasanaethau eraill cyn gynted ag oedd hynny'n briodol. Roedd hwn yn benderfyniad pragmatig yn seiliedig ar gyfanswm nifer yr unigolion yr oedd angen eu harolygu ac mae hyn yn golygu bod rhai pobl eisoes yn defnyddio gwasanaethau eraill.

 

Diben yr adolygiad yw asesu anghenion pob unigolyn a chynnig amryw o ddewisiadau i'r unigolyn.  Mae hefyd yn gyfle, yn unol â'r dull gweithredu newydd a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, i hybu mwy o annibyniaeth a chyfleoedd cymdeithasu ar gyfer yr unigolion, gan ddatblygu, lle bo modd, fentrau yn y gymuned i gefnogi'r unigolion a'u cymunedau lleol.

 

Dechreuodd y broses adolygu ym mis Mai yn ardal Teifi Tywi Taf a oedd yn golygu y gellid cynnig trefniadau eraill i 72 o unigolion. Ar sail canlyniadau'r adolygiad, dywedodd y rhan fwyaf o'r unigolion a oedd yn derbyn y gwasanaeth pryd ar glud naill ai y byddent yn ymdopi ar eu pen eu hunain neu eu bod wedi cael gafael ar fusnesau lleol i'w cynorthwyo o ran darparu pryd twym.  Dim ond ychydig iawn ohonynt sydd angen rhagor o gymorth gan y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol.

 

Y bwriad yw dechrau ar adolygiadau yn Llanelli ac yn ardal Aman Gwendraeth wedi hynny. Cyn gwneud hyn, anfonir nodyn briffio at y Cynghorwyr lleol perthnasol yn eu hysbysu y byddai swyddogion yn falch o glywed ganddynt os ydynt yn gwybod am unrhyw gr?p cymunedol neu os oes ganddynt unrhyw syniadau o ran y ffordd orau o gefnogi'r unigolyn.

 

Fel rhan o'r cynllun prosiect, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a chynhelir trafodaethau wythnosol rhwng yr Awdurdod a'r Rheolwr Rhanbarthol er mwyn rhoi gwybod am holl ganlyniadau'r adolygiad. Mae'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn nodi y bydd ei gymorth yn cael ei deilwra i gynnig ystod o gymorth ymarferol, cwmnïaeth, cyfleoedd gwirfoddoli a gweithgareddau.

 

Dyma rai enghreifftiau o'r opsiynau posibl o ran darpariaeth yn y dyfodol:-

 

- prydau bwyd wedi'u rhewi yn cael eu dosbarthu gan Wiltshire Farm Foods a gwirfoddolwr (cyfeillachwr) y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn galw i helpu i gynhesu'r pryd o fwyd ar amser addas a bod ag amser ychwanegol i gymdeithasu.  Mae Wiltshire Farm Foods yn gweithredu ledled y sir gyfan;

- cyfeillachwr/gwirfoddolwr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn casglu'r unigolyn ac yn mynd ag ef/hi i dafarn leol (clybiau tafarn?) / caffi i gael pryd o fwyd;

- cyfeillachwr/gwirfoddolwr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn casglu unigolyn i fynd i glwb cinio;

- y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol yn sefydlu clybiau cinio a gweithgareddau newydd;

- busnesau lleol yn dosbarthu prydau bwyd.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryder bod un system yn cael ei diddymu a system arall yn cael ei chyflwyno lle efallai nad oes gennym y gallu i wneud hynny. Eglurodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd nad yw un system yn cael ei disodli gan system arall gan y bydd pob unigolyn yn gallu dewis y ddarpariaeth sydd fwyaf addas ar eu cyfer;

·        Mynegwyd pryder ynghylch yr henoed yn cynhesu bwyd yn y ficrodon ac yn llosgi eu hunain.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr asesiad yn ymdrin nid yn unig â'u hanghenion maeth ond hefyd â'u holl anghenion gan gynnwys eu hamgylchiadau personol.  Cytunodd y Pennaeth Strategol ar y Cyd i siarad â'r darparwr ynghylch a yw'r cynwysyddion a ddefnyddir ar gyfer prydau bwyd microdon yn gwrthsefyll gwres;

·        Mynegwyd pryder hefyd efallai y bydd yr henoed yn storio'r prydau yn y rhewgell yn hytrach na'u bwyta. Dywedwyd wrth y Pwyllgor os byddai problem o'r fath yn cael ei dwyn i sylw'r swyddogion a bod tystiolaeth nad yw'r person oedrannus yn bwyta, byddid yn ailasesu ei sefyllfa.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.

 

 

 

Dogfennau ategol: