Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18.

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad  erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn, a'i bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei Amcanion Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor yn cynnwys yr Amcanion Llesiant a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar berfformiad 2017/18, adroddiadau cynnydd ar gyfer pob un o'r 15 Amcan Llesiant a dolen i olrhain cynnydd pob cam gweithredu penodol a tharged a roddwyd i bob Amcan Llesiant.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am berfformiad a data alldro (mis Medi) a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (mis Mehefin), a fyddai'n cael eu diweddaru pan fyddai'r canlyniadau ar gael.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·        Gan gyfeirio at y bobl sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty tra byddant yn aros i gael pecynnau gofal cymdeithasol, gofynnwyd i'r swyddogion faint o amser y mae'n rhaid iddynt aros. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod pob sefyllfa yn unigryw oherwydd gallant olygu pecynnau gofal mewn ardal wledig, anghenion gofal cymhleth, analluedd meddyliol ac ati. Fodd bynnag, y gobaith oedd na fyddai unrhyw un yn gorfod aros mwy na 4 wythnos.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gadael ar unwaith a dim ond yn yr ardaloedd mwy gwledig y ceir anawsterau;

·        Cyfeiriwyd at y ffaith fod y broses cynllunio i ryddhau yn dechrau 24 awr cyn bod claf yn cael ei ryddhau a gofynnwyd i'r swyddogion pam na ellid dechrau ar y broses hon yn gynharach i leihau unrhyw oedi.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor, wrth i gleifion gael eu derbyn i ysbytai, fod y wardiau yn nodi'r rhai y bydd angen cymorth arnynt ar ôl cael eu rhyddhau, er mwyn sicrhau bod asesiadau iechyd galwedigaethol a ffisiotherapi yn cael eu trefnu'r adeg honno;

·        Gofynnwyd i'r swyddogion sut y mae'r Awdurdod yn cymharu ag Awdurdodau eraill Cymru o ran amser rhagarweiniol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gwneud darn o waith ar hyn o bryd, sef Llwybrau Annibynnol ar gyfer Pobl H?n, a fydd yn cynnwys data cymharol. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf;

·        Mynegwyd pryder ynghylch y ffaith bod 62.1% o ofalwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i ddal ati â'u rôl ofalu yn 2017/18, sydd yn ostyngiad ar ffigwr y flwyddyn flaenorol sef 78.5% a gofynnwyd i'r swyddogion am esboniad.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gennym fwy o ofalwyr ond nid oes gan bob un ohonynt gynlluniau gofal a chymorth, ac yn anffodus dim ond y gofalwyr sydd â chynlluniau gofal a chymorth ar waith y mae arolygwyr yn gallu eu harolygu. Felly nid oedd yn bosibl cymharu'r ffigyrau hyn o flwyddyn i flwyddyn.  Eglurodd y Rheolwr Ardal fod swyddogion bellach yn defnyddio ffordd wahanol o gofnodi'r mesur hwn oherwydd y mae gan ofalwyr a'r person y gofelir amdano gydgynllun gofal a chymorth, felly y mae llai o unigolion i'w harolygu. Eglurwyd y byddai'n ymddangos i'r lleygwr fod llai o bobl yn fodlon â'r gofal y maent yn eu cael a chytunodd y Rheolwr Perfformiad, Dadansoddi a Systemau i newid y naratif.

 

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau