Agenda item
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18
Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2017/18, a luniwyd yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Nodwyd bod yr adroddiad yn darparu'r canlynol:-
Ø Trosolwg ar berfformiad 2017/18,
Ø Adroddiadau dwy dudalen ynghylch cynnydd pob un o'r 15 Amcan Llesiant,
Ø Dolen gyswllt er mwyn olrhain cynnydd pob cam a tharged a bennir ar gyfer pob Amcan Llesiant,
Ø Yn yr atodiadau, gwybodaeth arall am berfformiad a data alldro (mis Medi) a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (mis Mehefin) a fyddai'n cael eu diweddaru wrth i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn lefelau gordewdra yn ystod plentyndod yn y Sir, ac at sut y gellid annog/hyrwyddo gweithgarwch corfforol pan oedd parciau a chyfleusterau hamdden eraill yn cael eu cau.
Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden mai un o amcanion allweddol yr Is-adran Hamdden oedd hyrwyddo a datblygu gweithgareddau corfforol drwy weithio gyda chymunedau lleol a chlybiau chwaraeon, lle nodwyd bod lefelau cyfranogi'n tueddu i fod yn uwch os yw'r clwb ym mherchnogaeth y gymuned. Nodwyd bod yr adroddiad wedi nodi cynnydd o 10% yn nifer y plant sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd, felly mae wedi cynyddu i 47%. Fodd bynnag, derbyniwyd bod angen gwneud rhagor o waith i gyflawni lefelau uwch o weithgaredd, nid yn unig ymhlith y plant ond ymhlith y boblogaeth gyfan.
· Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at nodau'r Cyngor o hyrwyddo twf economaidd mewn trefi marchnad gwledig ac at sut yr oedd y gwaith hwnnw'n cael ei rwystro gan yr arfer o 'fancio tir'
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y tir sydd ar gael mewn ardaloedd o'r math ar gyfer creu cyfleoedd gwaith yn gyfyngedig, ond bod y Cyngor yn gallu rhoi cymhellion i hyrwyddo a hwyluso'u datblygiad drwy arian grant a chymhellion eraill.
Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Rheolwr Blaen-gynllunio fod gwaith wedi'i ddechrau'n ddiweddar o ran Cynllun Datblygu Lleol newydd i Sir Gaerfyrddin, a bod ceisiadau'n cael eu ceisio ar hyn o bryd ar gyfer safleoedd ymgeisio i'w cynnwys y cynllun hwnnw. Fel rhan o'r broses honno, byddai angen i berchnogion tir ddangos ymrwymiad i ddatblygiad safle er mwyn cyfiawnhau ei gynnwys, gan nad yw dangos dymuniad i ddatblygu'r safle yn ddigon erbyn hyn.
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch datblygiad yr Egin yn nhref Caerfyrddin, a'r lleoedd sydd ar gael i gwmnïau eraill yn yr Egin, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod trafodaethau'n parhau er mwyn sicrhau bod pob lle yn cael ei lenwi. Os bydd gormod o gwmnïau'n dangos diddordeb, gwneir ymdrech i ddod o hyd i adeilad priodol arall. Nodwyd mai'r Egin oedd un o 11 Prosiect Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sydd â'r nod o ddatblygu'r diwydiant creadigol ledled y rhanbarth.
· Cyfeiriwyd at 'Raglen Esgyn' a gofynnwyd am eglurhad a yw'n helpu pobl i ddysgu Cymraeg er mwyn dychwelyd i'r gwaith ac os gellid rhoi gwybodaeth am nifer y bobl ar y rhaglen sydd wedi dysgu Cymraeg ac sy'n parhau i'w defnyddio.
Cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd y byddai'r swyddogion yn edrych ar ddatblygiad Sgiliau Iaith Gymraeg ac y byddant yn rhoi'r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
· Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y cynigion sydd wedi bodoli ers tro ar gyfer ffordd osgoi Llandeilo, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd nad yw Llywodraeth Cymru wedi gallu penderfynu ar y llwybr a ffefrir hyd yn hyn.
· Cyfeiriwyd at y defnydd o Gytundebau Adran 106 i hwyluso'r gwaith o ddarparu 43 o dai ar gyfer perchentyaeth cost isel. Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at y posibilrwydd o'r datblygwyr yn ymddiddymu, a'r potensial bod y tai hynny heb fodloni'r gofyniad o 80% o dan y Cytundeb, gan olygu na fydd y perchnogion yn gallu gwerthu eu heiddo.
Dywedodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod yr Adran yn ymwybodol o'r posibilrwydd a'i bod yn cysylltu ag adain y gyfraith yn y Cyngor ynghylch y terminoleg a ddefnyddir yn y Cytundebau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2017/18 yn cael ei dderbyn.
Dogfennau ategol:
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth