Agenda item

ADRODDIAD CYLLIDEB 2018-19.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 ei adroddiad ynghylch Cyllideb 2018-19 i'r Cyd-bwyllgor, i'w ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw'r Cyd-bwyllgor at lythyr a gafwyd gan Lywodraeth Cymru (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod), a oedd yn manylu ar ddyraniad y Grant Gwella Ysgolion i ERW ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mawrth 2018 a 31 Mawrth 2019. Cyfanswm y grant oedd £40,971,102, ac roedd wedi cael ei ddyrannu ar sail Pum Blaenoriaeth y Genhadaeth Genedlaethol, ac wedi cael ei gynnwys yn y Cynllun Busnes yn unol â hynny. Er bod y dyfarniad hwnnw, ar y cyd â'r dyraniad gwerth £29 miliwn o'r Grant Datblygu Disgyblion, yn creu cyfanswm o bron £64 miliwn, £63.1 miliwn oedd cyfanswm y dyraniad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru, ac roedd eglurhad yn cael ei geisio ynghylch yr anghysondeb hwnnw. Felly, roedd cyfanswm y dyraniad grant oddeutu £63-£64 miliwn, a oedd yn llai na'r £71 miliwn a gafwyd ar gyfer 2017-18. 

 

O ran Cyfraniad yr Awdurdodau Lleol at gostau craidd ERW, sef £250 mil, dywedodd fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi penderfynu peidio â pharhau â'i gyfraniad ar gyfer 2018-19, a hynny oherwydd cyfyngiadau cyllidebol; byddai angen cael eglurhad ynghylch y penderfyniad hwnnw.

 

Wrth gloi, cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at y pedwar argymhelliad y manylwyd arnynt, a gofynnodd am i'r argymhelliad i (d) penodi rheolwr cyllid yn amodol ar ganlyniad adolygiad ERW, gael ei ddileu.

 

Mynegwyd pryder ynghylch penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot i beidio â chyfrannu at gostau craidd ERW ar gyfer 2018-19, cyfraniad a oedd yn werth £69,650, ac y dylid cael eglurhad ynghylch y penderfyniad hwnnw a chanfod a oedd yr Awdurdod hwnnw yn dymuno parhau yn bartner yn ERW, o gofio gofynion y Cytundeb Cyfreithiol wrth sefydlu ERW.

 

Wrth ymateb i gwestiwn am gost uwch Cytundebau Lefel Gwasanaeth, cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 fod hynny'n deillio o benderfyniad blaenorol gan ERW y dylent adlewyrchu gwir gost ERW. Awgrymwyd y dylid cyflwyno adroddiad llawn ar y CLGau yn y cyfarfod nesaf.

 

Cyfeiriwyd at y drafodaeth yng nghofnod 4 uchod ynghylch y fformiwla gyllido ar gyfer dyrannu grantiau Llywodraeth Cymru i'r chwe Awdurdod. Awgrymwyd y dylid cyflwyno adroddiad ar fethodoleg ei dyraniadau ar gyfer 2018-19 yn y cyfarfod nesaf.

 

CYTUNWYD:

 

5.1

y dylid cymeradwyo cyllideb alldro ragamcanol 2017-18, a chyllideb ddrafft 2018-19;

5.2

Y dylid awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud diwygiadau i'r gyllideb, lle bo angen, yn dibynnu ar y penderfyniadau a wneid i adolygu strwythur ERW

5.3

y dylai'r Awdurdodau Lleol dalu eu cyfraniadau at gostau craidd ERW;

5.4

y dylid dileu argymhelliad (d) oherwydd y rheswm y manylir arno yng nghofnod 4 uchod;

5.5

y dylid gofyn am eglurhad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ynghylch ei gyfraniad at gostau craidd ERW ar gyfer 2018/19 a'i fwriad o ran ei aelodaeth o ERW yn y dyfodol, a hynny o gofio gofynion y Cytundeb Cyfreithiol wrth sefydlu ERW;

5.6

y dylid cyflwyno adroddiad ar Gytundebau Lefel Gwasanaeth ERW yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;

5.7

y dylai'r Cyd-bwyllgor bennu'r modd y câi'r fethodoleg ar gyfer dosbarthu grantiau ar gyfer 2018-19 ei hystyried a'i chymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: