Agenda item

ADRODDIAD MONITRO'R GYLLIDEB AR GYFER CH3 2017-18, GYDAG ATODIAD.

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 ei adroddiad ynghylch Monitro Cyllideb Ch3 2017-18 i'r Cyd-bwyllgor, i'w ystyried.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad, tynnodd y Swyddog Adran 151 sylw'r Cyd-bwyllgor at ddyfarniad grant gwerth £250 mil gan Lywodraeth Cymru tuag at gost Rhaglen Adolygu a Diwygio ERW. Cyfeiriodd hefyd at y gwaith i'w wneud o dan yr adolygiad hwnnw, ac awgrymodd y dylid dileu'r ddau argymhelliad canlynol yn ei adroddiad, hyd nes y byddai ERW wedi penderfynu ar ei gyfeiriad ar gyfer y dyfodol:

 

·        Bod y Cyd-bwyllgor yn cytuno i ERW fynd ar drywydd ei yswiriant ei hun ar gyfer y dyfodol,

·        Bod y Cyd-bwyllgor yn cytuno i recriwtio Rheolwr Ariannol, ar gontract tymor penodol, i'w ariannu o gyllid Adolygu a Diwygio Llywodraeth Cymru

 

Wrth ymateb i gwestiwn am y grant uchod gan Lywodraeth Cymru, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr mai grant ar gyfer cyfnod penodol o amser ydoedd, i'w ddyrannu dros gyfnod o 13 mis; felly, byddai'n cael ei gario drosodd i flwyddyn ariannol 18/19.

 

Gwnaethpwyd cyfeiriad pellach at y tîm adolygu a'r cadarnhad, y manylir arno yng nghofnod 3 uchod, y dylai gynnwys y chwe Chyfarwyddwr Addysg. Awgrymwyd y dylai'r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a'r cynrychiolydd Adnoddau Dynol  hefyd fod yn bresennol yn y cyfarfodydd hynny.

 

Wrth ymateb i gwestiwn yn ymwneud â'r ffaith bod arian grant yn dod i law yn hwyr, rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r sefyllfa, ac yn derbyn ei bod yn creu anawsterau o ran cynllunio. Roedd Llywodraeth Cymru bellach yn bwriadu cyflwyno hysbysiad cynnar o ddyfarniadau grant, gyda'r gobaith y byddai hynny'n sicrhau mwy o hyblygrwydd ac yn gwella'r sefyllfa bresennol.

 

Cyfeiriwyd at y broses o ddyrannu grantiau gan ERW i'r chwe Awdurdod Lleol, a gofynnwyd am sicrwydd eu bod yn cael eu gwneud yn unol â'r fformiwla gyllido y cytunwyd arni'n flaenorol gan y Cyd-bwyllgor (Gweler Cofnod 3 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2015 ynghylch dosbarthu’r Grant Gwella Addysg). Nodwyd bod cyfarfod o'r Cyfarwyddwyr Addysg wedi cael ei drefnu ar gyfer yr wythnos honno, lle byddent yn trafod y fformiwla gyllido. Pe byddai'n briodol, gellid trefnu cyfarfod ychwanegol o'r Cyd-bwyllgor i drafod unrhyw newidiadau a awgrymid i'r fformiwla ar gyfer dyrannu grantiau 18-19. Hefyd, gallai pob Cyfarwyddwr archwilio'r dyraniadau grant i'w hawdurdod er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu gwneud yn unol â'r fformiwla.

 

Gofynnwyd i’r Swyddog Adran 151 gadarnhau nas gofynnwyd iddo gynnwys unrhyw adroddiadau eithriadol mewn perthynas â defnyddio dulliau dosbarthu cyllid amgen.

Cadarnhaodd y Swyddog Adran 151 nad oedd yr un dull dosbarthu amgen, hyd y gwyddai, wedi cael ei ddefnyddio.

 

 

CYTUNWYD:

 

4.1

y dylid nodi Diweddariad Ariannol ERW – Chwarter 3 ar gyfer 2017-18;

4.2

y dylid cymeradwyo'r newidiadau i Ddyraniadau Grant Cyllideb Refeniw Tîm Canolog ERW (yn amodol ar gael sicrwydd bod y dyraniadau wedi cael eu gwneud yn unol â'r fformiwla gyllido y cytunwyd arni'n flaenorol) a chronfeydd wrth gefn ERW ar gyfer 2017-18;

4.3

y dylid nodi'r risgiau i'r rhanbarth o ystyried faint o arian craidd yr oedd yn ei gael a'r effaith ar gronfeydd wrth gefn y rhanbarth dros y tymor canolig, ynghyd â newidiadau a ragwelid i strwythur a gweithrediadau ERW;

4.4

Y dylid dileu'r ddau argymhelliad y manylid arnynt yn yr adroddiad, yn unol â'r rhesymau a amlinellwyd uchod;

4.5

y dylai'r Swyddog Adran 151, y Swyddog Monitro a'r Cynrychiolydd Adnoddau Dynol fynd i gyfarfodydd Tîm Adolygu ERW.

 

Dogfennau ategol: