Agenda item

LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR AR Y CYD A GYNHALWYD AR Y 1AF RHAGFYR 2017.

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y cywiriad a gofnodwyd yng nghofnod 3, h.y. “creu cynlluniau clir i sicrhau a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â'r chwe Cyfarwyddwyr Addysg... " Mynegwyd y farn bod y cofnod yn anghywir, ac y dylid cadw'r cyfeiriad at y chwe Chyfarwyddwr Addysg.

 

Nodwyd hefyd na fyddai Penaethiaid yn cael eu henwebu’n aelodau o’r panel adolygu, er y byddent yn ymwneud â’r broses adolygu.

 

CYTUNWYD y dylid llofnodi'n gofnod cywir gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2017, a hynny'n amodol ar ddiwygio rhan gyntaf y penderfyniad ar gyfer Cofnod 3 i gyfeirio at y chwe Chyfarwyddwr Addysg:

 

Ø  “creu cynlluniau clir i sicrhau a chynnal dulliau cyfathrebu effeithiol â'r chwe Chyfarwyddwyr Addysg a Phenaethiaid trwy gydol y broses, ynghyd â sicrhau bod y Cynllun Busnes yn cael ei roi ar waith mewn modd cyson"

 

Materion sy'n Codi o'r cofnodion:

 

1.       Cofnod 3 – Cofnodion – 21 Medi 2017

Cyfeiriwyd at y sylw clo yng Nghofnod 3 am y canlyniadau TGAU, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pam nad oedd yr adroddiad hwnnw wedi cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod y diwrnod hwnnw, fel y cytunwyd gan y Cyd-bwyllgor.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y gellid anfon copi o'r canlyniadau yn uniongyrchol i aelodau'r Cyd-bwyllgor, ac y byddai eitem ar hynny yn cael ei rhoi ar yr Agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Yn sgil yr uchod, awgrymodd Mr Gareth Morgans y gallai fod yn fuddiol i adroddiad gael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y cyfeiriad ar gyfer y dyfodol a'r broses o newid i'r safonau/mesurau atebolrwydd newydd yn seiliedig ar y naw canlyniad TGAU gorau. Mynegodd y Cadeirydd y farn y dylid cyflwyno adroddiad i'r cyfarfod nesaf ar berfformiad a thueddiadau ar lefel 2 er mwyn sicrhau eglurder o ran cyfeiriad ERW yn y dyfodol

 

CYTUNWYD:

 

1.

y dylid rhoi copi o'r canlyniadau TGAU i aelodau'r Cyd-bwyllgor, a rhoi eitem ar hynny ar yr agenda i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor;

2.

y dylid cyflwyno adroddiad i gyfarfod o'r Cyd-bwyllgor yn y dyfodol ar ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ynghylch y broses o symud i safonau/mesurau atebolrwydd newydd yn seiliedig ar y naw canlyniad TGAU gorau;

3.

y dylid cyflwyno adroddiad yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor ar berfformiad a thueddiadau ar lefel 2.

 

2.       Cofnod 5 – Llythyr gan y Gr?p Craffu

 

Cyfeiriwyd at y llythyr a gafwyd gan Gr?p y Cynghorwyr Craffu, ac at gyfarfod y Gr?p a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018, lle y cafodd gyflwyniad gan y Rheolwr Rhaglen. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch sut y cafodd y cyflwyniad hwnnw ei wneud heb iddo gael ei wneud yn gyntaf i'r Cyd-bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y cyflwyniad wedi cael ei wneud ar gais Gr?p y Cynghorwyr.

 

CYTUNWYD y byddai copïau o'r cyflwyniad i Gr?p y Cynghorwyr Craffu yn cael ei ddosbarthu i'r Cyd-bwyllgor, ac y byddai'r un cyflwyniad yn cael ei wneud i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

3.       Cofnod 6 – Diweddariad Ariannol ERW – Chwarter 2 2017-18

 

Cyfeiriwyd at benderfyniad 6.4, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd llythyrau wedi cael eu hanfon at Mr Mark Drakeford AC a Kirsty Williams AC. Er na wyddai a oedd y llythyrau wedi cael eu hanfon, dywedodd y Swyddog A151 fod cyfarfod wedi cael ei gynnal ers hynny â'r Gweinidog, lle cadarnhawyd bod sylw'n cael ei roi i'r anawsterau blaenorol a gododd o ran y broses grantiau, ac y byddai mesurau newydd ar waith ar gyfer dyfarniadau grant 18/19.

 

Awgrymwyd y dylai penderfyniadau'r Cyd-bwylllgor gael eu dyrannu i swyddogion penodol i'w gweithredu, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith.

 

CYTUNWYD y dylid gofyn i'r Prif Weithredwr Arweiniol gyflwyno trefniadau i sicrhau bod penderfyniadau'r Cyd-bwyllgor yn cael eu rhoi ar waith.

 

4.       Cofnod 11 – Gofod Swyddfa

 

Gofynnwydi’r Rheolwr Gyfarwyddwr egluro pam yr oedd yr adroddiad drafft cychwynnol yn datgan y byddai’r les yn dod i ben ddiwedd mis Mai 2018, pan nad oedd yna unrhyw les yn bodoli mewn gwirionedd? Wrth ymateb i ymholiad ynghylch les ERW ar gyfer gofod swyddfa yn Y Llwyfan, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod is-les yn bodoli mewn perthynas â meddiannaeth ERW o dair ystafell ar y llawr cyntaf, ond nad oedd unrhyw dystiolaeth o les yn bodoli mewn perthynas â'i swyddfeydd ar y llawr gwaelod, les yr oedd yn talu rhent amdani. Dywedodd fod y safle wedi bod yn weithredol ers deng mlynedd, a bod meddiannaeth y tenantiaid presennol ar fin cael ei hadolygu; roedd trafodaethau mewn perthynas â hynny yn mynd rhagddynt â'r landlord. Cadarnhawyd bod meddiannaeth ERW o'r safle yn ddiogel tra bo'r trafodaethau'n mynd rhagddynt.

 

Yn y cyfamser, awgrymodd y Swyddog Monitro y dylai adroddiad ar gynnydd y trafodaethau gael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf, ac y dylai gael ei chynnwys yn y trafodaethau hynny.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod ERW wedi mynegi pryderon ynghylch Iechyd a Diogelwch yn rhan o'r trafodaethau hynny, pryderon a oedd yn ymwneud â desgiau ac ardaloedd swyddfa eraill, a'i fod wedi comisiynu gwaith i fynd i'r afael â'r pryderon hynny yn rhan o'r trafodaethau; byddai'r canlyniad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor.

CYTUNWYD:

 

1.

y byddai adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor ynghylch y trafodaethau a oedd yn mynd rhagddynt am feddiannaeth ERW o ofod swyddfa yn Y Llwyfan, ac y byddai'r Swyddog Monitro yn cael ei chynnwys yn y trafodaethau hynny;

2.

y byddai'r adroddiad i'w gyflwyno yn y cyfarfod nesaf hefyd yn cynnwys canlyniad yr Arolwg Iechyd a Diogelwch.

 

Dogfennau ategol:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau