Agenda item

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - CO-OP, HEOL FFYNNON JOB, TRE IOAN, CAERFYRDDIN SA31 3PY

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd fod cais wedi dod i law gan Co-operative Group Food Ltd. am drwydded safle ar gyfer Co-op, Heol Ffynnon Job, Tre Ioan, Caerfyrddin i ganiatáu'r canlynol:

 

Cyflenwi Alcohol:-   Dydd Llun i ddydd Sul 06:00 – 23:00.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A - copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;

Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad D - sylwadau gan bobl eraill.

 

Nid oedd yr awdurdodau cyfrifol eraill wedi gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Gyda chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o'r dogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor, a oedd yn cynnwys cynllun o'r safle arfaethedig.  Ystyriwyd gan yr Is-bwyllgor bod y ddogfen wedi'i derbyn cyn clywed gan y partïon.

Yna cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan bedwar barti â buddiant a oedd yn gwrthwynebu rhoi'r drwydded safle am y rhesymau a nodwyd yn Atodiad D.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r gwrthwynebwyr ynghylch eu sylwadau.

 

Yna cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan yr ymgeisydd am drwydded safle a nodwyd yn Atodiad A ac ymatebwyd i'r pryderon a'r materion a godwyd.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Yna PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A y Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu ychwanegol yr oedd yr ymgeisydd a'r heddlu wedi cytuno arnynt.

 

RHESYMAU:-

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o droseddau ac anhrefn sylweddol mewn perthynas ag alcohol yn ardal y safle arfaethedig;

  2. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth o unrhyw fethiannau sylweddol gan yr ymgeiswyr o ran cydymffurfio â deddfau trwyddedu mewn safleoedd eraill;

  3. Nid oedd yr un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu'r cais;

  4. Roedd yr heddlu'n fodlon bod amodau'r drwydded y cytunwyd arnynt gyda'r ymgeisydd yn ddigonol er mwyn hybu'r amcanion trwyddedu.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn rhoi pwys ar farn yr awdurdodau cyfrifol a'r absenoldeb o unrhyw wrthwynebiadau ganddynt.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn derbyn bod y gwrthwynebwyr lleol yn ddiffuant yn eu pryderon ac roeddent yn deall pam.  Fodd bynnag, roedd yr Is-bwyllgor yn gyfyngedig o dan y gyfraith o ran yr hyn y gallent ei ystyried ai peidio. Ymhellach, nid oedd yr Is-bwyllgor yn gallu ystyried materion o ran angen a'r effaith ar fusnesau eraill. Yn yr un modd, ni allai'r Is-bwyllgor ragweld y broses gynllunio na'i dyblygu.

 

Yr oedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt. Yn yr un modd, ni allai'r Is-bwyllgor ystyried materion o ran 'angen' na'r ffynonellau alcohol eraill a oedd yn yr ardal.

 

Wrth ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, ni allai'r Is-bwyllgor weld unrhyw reswm i wrthod y cais ar sail y gyfraith.  Felly, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod caniatáu'r cais, yn unol â'r amodau hynny y cytunwyd arnynt gan yr ymgeisydd a'r heddlu, yn briodol o ran amcanion trwyddedu, a bod yr amodau ychwanegol y cytunwyd arnynt yn gymesur.

Dogfennau ategol: