Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr, P. Cooper, S. Curry, A. Davies, S. Davies, D. Harries, G.R. Jones, E. Rees and P.T. Warlow |
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
· Bu'r Cadeirydd yn myfyrio ar fis prysur arall iddo ef a'i gydymaith a chyfeiriodd at ei bresenoldeb yn y digwyddiad 'Speak Up' ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Llanelli; lansiad digwyddiad elusennol blynyddol Taith Feicio Cennin Pedr yng Nghastell Llanymddyfri ac ar yr un noson aeth i wasanaeth Cofio Covid yn yr awyr agored ym Mharc Caerfyrddin; seremoni urddo Uchel Siryf newydd Dyfed yn Llanddewi-Brefi a'r ddau ddigwyddiad elusennol yn Llanelli a drefnwyd gan Glwb Rotari Llanelli a Chyngor Tref Llanelli.
· Cyhoeddodd y Cadeirydd lwyddiant Clwb Rygbi Llanymddyfri a enillodd Gwpan Cymru (Super Rugby Cymru) am y 4ydd tro. Ar ôl ennill y tlws hwn, roedd Clwb Rygbi Llanymddyfri ar yr un pryd yn dal y set lawn o bedwar teitl yn unigryw, sef Pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru, Pencampwyr Cwpan Cymru a Phencampwyr Cymru 7 bob ochr.
· Diolchodd y Cadeirydd am y gefnogaeth i godi dros £10,000 i'w ddwy elusen LATCH a Prostate Cymru. Y digwyddiad codi arian olaf ar gyfer y Cadeirydd yw cerdded 100 milltir ym mis Mai ar gyfer Prostate Cymru.
· Ar ran y Cyngor, bu i'r Cadeirydd gydymdeimlo â'r cyn-gynghorydd Linda Davies Evans, yn dilyn marwolaeth ei thad.
· Cydymdeimlwyd â theulu'r Cynghorydd Anthony Leyshon yn dilyn ei farwolaeth ddiweddar.Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof amdano.
· Croesawodd y Cadeirydd, ar ran y Cyngor, y Cynghorydd Shone Hughes i'w gyfarfod cyntaf ar ôl cael ei ethol yn ddiweddar i gynrychioli Ward Llanddarog.
· Llongyfarchodd y Cynghorydd Sean Rees Glwb Rygbi Crwydriaid Llanelli a enillodd rownd derfynol cwpan Pencampwriaeth Undeb Rygbi Cymru ar y penwythnos. Llongyfarchodd hefyd Glwb Pêl-droed Tref Llanelli a ddaeth yn Bencampwyr De Cymru yn ddiweddar ac sydd wedi cael eu dyrchafu i Uwch Gynghrair Cymru.
· Llongyfarchodd y Cynghorydd Edward Thomas Ieuenctid Clwb Rygbi Llandeilo am ennill Cwpan Ieuenctid Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru. Llongyfarchodd hefyd Glwb Pêl-droed Llandeilo ar ddod yn bencampwyr cynghrair dau.
· Cyhoeddodd y Cynghorydd Hazel Evans fod tri enillydd busnes ar gyfer Sir Gaerfyrddin yng Ngwobrau Twristiaeth Cymru ar gyfer rhanbarth de-orllewin Cymru, a gynhaliwyd ddiwedd mis Mawrth. Rhoddwyd y wobr ar gyfer y Gwely a Brecwast, y Dafarn a'r Gwesty Gorau i Blas Glangwili. Rhoddwyd y Wobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol i Fythynnod Gwyliau Stangwrach. Rhoddwyd y Wobr Bro Byd, ar gyfer y rhai sy'n mynd yr ail filltir ym maes cynaliadwyedd amgylcheddol, i Fythynnod Cambrian.
· Cyhoeddodd y Cynghorydd Jane Tremlett yng Ngwobrau Rhanbarthol Gorllewin Cymru fod y wobr gwirfoddolwr wedi'i dyfarnu i'r Cynghorydd Michael Thomas. Dyfarnwyd y Wobr Cyflawniad Oes i Avril Bracey, Pennaeth Gofal Oedolion a Chymdeithasol Cyngor Sir Caerfyrddin.
|
|||||||||||||
CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni wnaethpwyd unrhyw gyhoeddiadau.
|
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
26AIN CHWEFROR, 2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 26ain Chwefror, 2025 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nodwyd bod y Cynghorydd Fiona Walters wedi aros yn y cyfarfod tra bod eitem 6 yn cael ei hystyried a byddai ei henw yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr o bobl a oedd wedi tynnu'n ôl wrth ystyried yr eitem hon.
PENDERFYNWYD yn amodol ar y newid uchod, y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2025 yn gofnod cywir.
|
|||||||||||||
YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER SWYDD CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2025-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd D. Jones yn Ddarpar Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2025/26.
|
|||||||||||||
YSTYRIED YR ENWEBIADAU AR GYFER Y SWYDD IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2025-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD enwebu'r Cynghorydd A. G. Morgan yn Ddarpar Is-Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2025/26.
|
|||||||||||||
PENODI AELOD ANNIBYNNOL CYFETHOLEDIG NEWYDD I'R PWYLLGOR SAFONAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad a oedd yn argymell penodi Siwan Davies yn Aelod Cyfetholedig Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau, ar ôl i un o'r aelodau pwyllgor cymunedol presennol adael y Pwyllgor ym mis Ebrill 2025. Yn dilyn proses recriwtio ffurfiol, a gynhaliwyd yn unol â'r gweithdrefnau a ragnodir gan reoliadau, nodwyd bod panel recriwtio yn cynnwys tri Chynghorydd Sir, un Cynghorydd Tref/Cymuned ac un Aelod Lleyg Annibynnol, yn argymell i'r Cyngor benodi Siwan Davies fel aelod cyfetholedig o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod cychwynnol llawn yn y swydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Siwan Davies yn cael ei benodi yn Aelod Cyfetholedig Annibynnol o'r Pwyllgor Safonau am gyfnod cychwynnol llawn yn y swydd.
|
|||||||||||||
ADOLYGIAD O GYMUNEDAU A THREFNIADAU EHTOLIADOL - ABATY GWYN AR DAF, HENDY-GWYN AR DAF Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Roedd y Cynghorydd S. Allen wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod tra oedd y mater yn cael ei ystyried. Datganodd y Cynghorydd B.D.J Phillips fuddiant ar ddechrau'r eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi]
Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu wybod i'r Cyngor am ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad cychwynnol a'r argymhellion Drafft ar gyfer y ffin newydd arfaethedig rhwng Cyngor Cymuned Hendy-gwyn ar Daf a Chyngor Cymuned Llanboidy.
O dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, mae dyletswydd ar bob prif gyngor i fonitro'r cymunedau yn ei ardal a, lle bo'n briodol, drefniadau etholiadol cymunedau o'r fath at ddibenion ystyried a ddylid gwneud y newidiadau a argymhellir. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno drwy adolygiad cymunedol.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod cais wedi'i wneud i adolygu'r ffiniau presennol i weld a oedd cefnogaeth dros ailalinio'r ffiniau. Mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn ar 11 Rhagfyr 2024 cytunwyd i ddechrau adolygiad. Mae'r holl gyflwyniadau i'r ymgynghoriad wedi'u hystyried, fel y nodir yn Atodiad A, sydd wedi'i atodi i'r adroddiad. Mae'r ffiniau newydd arfaethedig i'w gweld yn Atodiad B, sydd wedi'i atodi i'r adroddiad.
Bydd adroddiad argymhellion terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn ac wedyn yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru er mwyn iddynt ei ystyried a llunio Gorchymyn.
PENDERFYNWYD: 9.1 ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i'r ymgynghoriad cychwynnol; 9.2 cymeradwyo'r argymhellion drafft a nodir yn yr adroddiad; 9.3 cymeradwy'r ffin newydd arfaethedig fel y manylwyd arni yn Atodiad B; 9.4. cefnogi'r broses adolygu sy'n arwain at y cam ymgynghori terfynol.
|
|||||||||||||
YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL (CCA) CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG ADNEUO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 31 Mawrth 2025 (gweler cofnod 10) wedi ystyried adroddiad a oedd wedi nodi Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft ar ffurf Asesiad o Gymeriad Tirwedd y Sir ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Dywedodd yr Aelod Cabinet y byddai'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos ac, yn dilyn yr ymgynghoriad, y byddai'r sylwadau a geir, ynghyd ag unrhyw welliannau a argymhellir, yn cael eu hadrodd yn ôl drwy'r broses ddemocrataidd cyn cael eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Cyngor. Dylid nodi bod y Canllawiau Cynllunio Atodol yn berthnasol i'r CDLl Diwygiedig. Yn hyn o beth, bydd yn cefnogi gweithredu'r CDLl Diwygiedig, a oedd i'w fabwysiadu yn yr Hydref 2025
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
10.1 cymeradwy'r Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft: Asesiad Cymeriad y Dirwedd yn y Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig fel y nodir yn yr adroddiad at ddibenion ymgynghori cyhoeddus.
10.2 rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion ddiweddaru neu newid unrhyw fân newidiadau ffeithiol, teipograffig neu ramadegol.
|
|||||||||||||
ADOLYGIAD O'R POLISI GAMBLO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Roedd y Cynghorydd J.P. Hart wedi datgan buddiant yn y mater hwn, a gadawodd y cyfarfod tra oedd y mater yn cael ei ystyried.]
Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Cabinet, yn ei gyfarfod ar 31 Mawrth 2025 (gweler Cofnod 11) wedi ystyried Polisi Gamblo diwygiedig arfaethedig a oedd yn adlewyrchu canlyniadau'r broses ymgynghori ac adolygu ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod y Polisi Gamblo wedi'i fabwysiadu gan yr awdurdod ym mis Mawrth 2022. Roedd yn ofynnol, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Hapchwarae gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 27 Medi 2024 a 10 Tachwedd 2024.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd fod adain drwyddedu'r awdurdod, ar y cyd ag adran gyfreithiol y cyngor wedi adolygu'r ddogfen bolisi, ac, yng ngoleuni'r ymatebion i'r ymgynghoriad a chyngor y Comisiwn Gamblo, nid oedd unrhyw ddigwyddiadau sylweddol wedi'u gwneud i'r ddogfen bolisi.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Cabinet:
“ Bod y Polisi Gamblo diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.”
|
|||||||||||||
YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR MARTYN PALFREMAN A DERYK CUNDY “Er gwaethaf yr hwb ariannol ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU ynghyd â gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rheiny sydd â'r angen mwyaf, ni fydd y daith allan o galedi ariannol yn dod i ben dros nos. Rydym i gyd yn cydnabod bod costau byw yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol i bobl a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae'r cyngor hwn wedi ac yn ymrwymo o hyd i ddefnyddio ei bwerau a'i gymwyseddau i liniaru a mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd ledled y Sir trwy nifer o fentrau strategol ac mae'n cydnabod gwaith nifer o sefydliadau cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd, banciau dillad a chyfnewidfeydd dodrefn, wrth wasanaethu a chefnogi pobl sydd angen cymorth ledled y Sir.
Mae'r fenter Banc Pob Dim, a hyrwyddwyd gan y cyn-Brif Weinidog a'r hyrwyddwr gwrth-dlodi Gordon Brown, wedi cael ei chyflwyno ar draws gwahanol rannau o'r DU ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ddosbarthu nwyddau dros ben – gan gynnwys dillad, dillad gwely a dodrefn i'r rheiny sydd eu hangen fwyaf.
Yn unol â'i ymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi, mae'r Cyngor hwn yn cytuno i:
1. Mynd ati'n weithredol, gyda phartneriaid perthnasol, i fwrw golwg ar y potensial i ehangu'r Fenter Banc Pob Dim Cwtch Mawr i Sir Gaerfyrddin. Mae'r fenter hynod lwyddiannus hon ar hyn o bryd yn gweithredu yn Llansamlet ac Abertawe. Bydd angen hefyd fynd ati i chwilio am ffynonellau cyllid i gefnogi’r gwaith hwn.
2. Nodi cyfleoedd i'r fenter fwrw iddi mewn partneriaeth â mentrau tebyg eraill sydd eisoes ar waith yn y Sir.
3. Bwrw ymlaen â'r gwaith hwn drwy'r Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol ynghylch Trechu Tlodi
4. Datblygu cynigion cadarn, wedi'u costio i'w hystyried a'u cymeradwyo gan y Cabinet.”
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr M. Palfreman a D. Cundy:-
“Er gwaethaf yr hwb ariannol ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU ynghyd â gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rheiny sydd â'r angen mwyaf, ni fydd y daith allan o galedi ariannol yn dod i ben dros nos. Rydym i gyd yn cydnabod bod costau byw yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol i bobl a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae'r cyngor hwn wedi ac yn ymrwymo o hyd i ddefnyddio ei bwerau a'i gymwyseddau i liniaru a mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd ledled y Sir trwy nifer o fentrau strategol ac mae'n cydnabod gwaith nifer o sefydliadau cymunedol , gan gynnwys banciau bwyd, banciau dillad a chyfnewidfeydd dodrefn, wrth wasanaethu a chefnogi pobl sydd angen cymorth ledled y Sir.
Mae'r fenter Banc Pob Dim, a hyrwyddwyd gan y cyn-Brif Weinidog a'r hyrwyddwr gwrth-dlodi Gordon Brown, wedi cael ei chyflwyno ar draws gwahanol rannau o'r DU ac mae'n chwarae rhan hanfodol wrth ddosbarthu nwyddau dros ben – gan gynnwys dillad, dillad gwely a dodrefn i'r rheiny sydd eu hangen fwyaf.
Yn unol â'i ymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi, mae'r Cyngor hwn yn cytuno i:
1.Mynd ati'n weithredol, gyda phartneriaid perthnasol, i fwrw golwg ar y potensial i ehangu'r Fenter Banc Pob Dim Cwtch Mawr i Sir Gaerfyrddin. Mae'r fenter hynod lwyddiannus hon ar hyn o bryd yn gweithredu yn Llansamlet ac Abertawe. Bydd angen hefyd fynd ati i chwilio am ffynonellau cyllid i gefnogi’r gwaith hwn.
2. Nodi cyfleoedd i'r fenter fwrw iddi mewn partneriaeth â mentrau tebyg eraill sydd eisoes ar waith yn y Sir.
3. Bwrw ymlaen â'r gwaith hwn drwy'r Panel Ymgynghorol Trawsbleidiol ynghylch Trechu Tlodi
4. Datblygu cynigion cadarn, wedi'u costio i'w hystyried a'u cymeradwyo gan y Cyngor llawn “
Eiliwyd y cynnig.
Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.
Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd Alun Lenny a chafodd ei eilio:
“Er gwaethaf yr hwb ariannol ychwanegol i Gymru gan Lywodraeth y DU ynghyd â gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rheiny sydd â'r angen mwyaf, ni fydd y daith allan o galedi ariannol yn dod i ben dros nos - sefyllfa sy'n cael ei chydnabod gan gorff trawsbleidiol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) sydd wedi datgan nad yw'r dyraniad ariannol gan y ddwy lywodraeth yn ddigonol i ariannu'n llawn y gwasanaethau hanfodol y mae ein trigolion yn dibynnu arnynt.
Rydym i gyd yn cydnabod bod costau byw, sy'n waeth oherwydd toriadau diweddar i fudd-daliadau, yn parhau i gyflwyno heriau sylweddol i bobl a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae'r cyngor hwn wedi ac yn ymrwymo o hyd i ddefnyddio ei bwerau a'i gymwyseddau i liniaru a mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd ledled y Sir trwy nifer o fentrau strategol ac mae'n cydnabod gwaith nifer o sefydliadau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 11.1 |
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||||||||
CYFLWYNO DEISEB Note:In order to be considered at a formal meeting each petition must include 50 registered elector signatures for paper copies and 300 register elector signatures for e-petitions. The total number of Carmarthenshire Electoral Signatures up to the 50 thresholds has been verified. We have not checked the signatures thereafter.
Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
SGRAPIO TALIADAU PARCIO ARFAETHEDIG AR GYFER MEYSYDD PARCIO PORTH TYWYN, GLANYFFERI A CHYDWELI " Rydym ni, y llofnodwyr isod, yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i roi'r gorau i'r cynlluniau i gyflwyno ffioedd parcio yn y meysydd parcio ym Mhorth Tywyn, Glanyfferi a Chydweli. Bydd y taliadau arfaethedig hyn yn cael canlyniadau difrifol a phellgyrhaeddol ar drigolion, ymwelwyr a busnesau lleol. Bydd newid o barcio am ddim i barcio â thâl yn atal twristiaeth, yn tarfu ar gymunedau, ac yn niweidio'r economi leol. Yn anochel, bydd llawer o bobl yn ceisio osgoi'r taliadau hyn, gan arwain at fwy o barcio ar y stryd mewn ardaloedd preswyl, tagfeydd ar ffyrdd lleol, a pheryglon diogelwch posibl. Yn ystod amseroedd prysur, fel penwythnosau a gwyliau, bydd hyn yn gwaethygu, a bydd amodau'r ffyrdd yn rhwystro mynediad hwylus i gerbydau brys a gwasanaethau hanfodol. Bydd hefyd yn amharu ar harddwch naturiol ein hardaloedd arfordirol."
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd Lewis Davies i gyflwyno'r ddeiseb ganlynol i'r Cyngor:-
"Rydym ni, y llofnodwyr isod, yn galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i roi'r gorau i'r cynlluniau i gyflwyno ffioedd parcio yn y meysydd parcio ym Mhorth Tywyn, Glanyfferi a Chydweli. Bydd y taliadau arfaethedig hyn yn cael canlyniadau difrifol a phellgyrhaeddol ar drigolion, ymwelwyr a busnesau lleol. Bydd newid o barcio am ddim i barcio â thâl yn atal twristiaeth, yn tarfu ar gymunedau, ac yn niweidio'r economi leol. Yn anochel, bydd llawer o bobl yn ceisio osgoi'r taliadau hyn, gan arwain at fwy o barcio ar y stryd mewn ardaloedd preswyl, tagfeydd ar ffyrdd lleol, a pheryglon diogelwch posibl. Yn ystod amseroedd prysur, fel penwythnosau a gwyliau, bydd hyn yn gwaethygu, a bydd amodau'r ffyrdd yn rhwystro mynediad hwylus i gerbydau brys a gwasanaethau hanfodol.”
Amlinellodd y Cynghorydd Lewis i'r Cyngor y rhesymeg dros y ddeiseb.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith y byddai'r adran yn ymchwilio i'r materion a godwyd yn y ddeiseb ac yna byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o Gabinet y Cyngor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gyfeirio'r ddeiseb at y Cabinet i'w hystyried yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 10.16.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
CWESTIWN I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS, AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH "Pa broses y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i rhoi ar waith i sicrhau y bydd y trefniadau casglu sbwriel ac ailgylchu dros Wyliau'r Pasg eleni, yn ogystal â'r holl gasgliadau ar gyfer y gwyliau eraill, yn cyrraedd safon dderbyniol wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn i drethdalwyr Cyngor Sir Caerfyrddin?"
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: "Pa broses y mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi'i rhoi ar waith i sicrhau y bydd y trefniadau casglu sbwriel ac ailgylchu dros Wyliau'r Pasg eleni, yn ogystal â'r holl gasgliadau ar gyfer y gwyliau eraill, yn cyrraedd safon dderbyniol wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn i drethdalwyr Cyngor Sir Caerfyrddin?"
Ymateb gan y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:-
Diolch i chi Gynghorydd James am eich cwestiwn.
Fel y mae'r holl aelodau'n gwbl ymwybodol, mae'r gwasanaethau casglu gwastraff dros wyliau banc wedi wynebu heriau lawer ers nifer o flynyddoedd. Mae'r gwasanaeth wedi treialu gwahanol atebion i wella perfformiad y gwasanaeth casglu. Fodd bynnag, y brif her i o hyd yw argaeledd staff, gan nad oes gan ein gweithwyr unrhyw rwymedigaeth gytundebol i weithio ar wyliau banc na'r penwythnosau ar ôl gwyliau banc. Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y staff sy'n dewis gweithio yn ystod yr amseroedd hyn i ddarparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol.
Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n uniongyrchol gydag undebau llafur a staff i ddatblygu ateb ar gyfer gwyliau banc y Pasg gyda'r nod o annog mwy o wirfoddolwyr o'r tîm gwastraff ac ailgylchu, mewn ymgais i leihau tarfu ar wasanaethau tra'n parhau i weithio ar ddatblygu datrysiad hirdymor.
Yn ogystal, mae'r gwasanaeth wedi cyflogi sawl gyrrwr a llwythwr achlysurol yn ddiweddar i gefnogi'r gwasanaeth yn ystod gwyliau blynyddol staff, absenoldeb, a chasgliadau gwyliau banc. Ar gyfer y ddwy ?yl banc nesaf, byddwn yn cynnal casgliadau ar ddydd Sadwrn, a chyhoeddwyd cyfathrebiadau i'r cyhoedd yr wythnos hon.
Ar hyn o bryd, mae nifer y staff sydd wedi gwirfoddoli yn addawol, ac rydym yn diolch iddynt am eu hymrwymiad. Yn ogystal â staff gwastraff, mae'n bosibl y bydd y staff achlysurol hefyd yn rhan o'r gweithlu, yn ogystal â thimau o wasanaethau eraill, a staff dros dro ychwanegol o bosibl.
Er bod gwyliau banc yn cyflwyno heriau, ni allwn warantu na fydd unrhyw aflonyddwch. Fodd bynnag, gallwch eich sicrhau bod pob ymdrech wedi'i gwneud i wella darparu gwasanaethau ar wyliau banc.
Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd James:nid oedd unrhyw gwestiwn atodol.
|
|||||||||||||
COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd fod y cofnodion a amlinellwyd ar yr agenda o dan 15.1 – 15.8 ar gael er gwybodaeth ar wefan y Cyngor.
|