Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd P. M. Hughes.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau â rhybudd wedi cael eu cyflwyno gan yr Aelodau.
|
|||||||
CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
STRATEGAETH CYLLIDEB REFENIW 2025/26 i 2027/28 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf ar gyfer Cyllideb Refeniw 2025/26 gyda'r ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2026/27 a 2027/28. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddilysu'r gyllideb, y gwasgfeydd o ran gwariant, setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a'r ymatebion o'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.
Wrth gyflwyno'r adroddiad, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau byddai mabwysiadu'r cynigion yn yr adroddiad yn galluogi'r Cabinet i gyflwyno cyllideb deg a chytbwys i'r Cyngor Sir, a oedd yn ymateb i'r sylwadau oedd wedi deillio o'r broses ymgynghori.
Roedd yr adroddiad yn nodi'r goblygiadau canlynol ar Gyllideb 2025/26 yn sgil y cynigion diweddaraf: • Cyllideb Net Arfaethedig y Cyngor Sir o £518.623 miliwn • Cynnydd Arfaethedig yn y Dreth Gyngor o 9.75% ar gyfer 2025/26 – Band D o £1,759.07
Nid oedd cyllideb arfaethedig 2025/26 yn rhagdybio unrhyw gyfraniad o gronfeydd wrth gefn.
Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai twf cyllido'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig mewn perthynas â 2026/27 a 2027/28 yn sylweddol is nag ar gyfer 2025/26 ac felly nid oedd yn cyfateb i'r galw disgwyliedig am wariant, gan bwysleisio bod angen nodi gostyngiadau sylweddol yn y gyllideb. Roedd yr adroddiad yn amcangyfrif y byddai angen, dros y 2 flynedd nesaf 2026/27 a 2027/28, gyfanswm o £20m o ostyngiadau yn y gyllideb yn seiliedig ar gynnydd blynyddol o 5% yn y Dreth Gyngor.
Wrth dynnu sylw at y risgiau cynhenid fel y'u nodwyd yn y strategaeth, atgoffwyd y Cabinet bod y cynigion polisi ar gyfer y gyllideb wedi bod yn destun ymgynghoriad eang rhwng Rhagfyr 2024 ac Ionawr 2025 gan lwyddo i dderbyn dros 2,900 o ymatebion. Yn gyffredinol roedd yr ymatebion yn dangos gwerthfawrogiad o'r heriau, a'r dewisiadau anodd yr oedd rhaid eu gwneud. Roedd arfarniad llawn o'r atebion i'r ymgynghoriad wedi'i gynnwys yn yr adroddiad.
O ystyried yr adborth a gafwyd o'r ymgynghoriad, argymhellodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y dylid gwneud nifer o addasiadau i gyllideb y flwyddyn nesaf sy'n cyfateb i gyfanswm gwerth o bron i hanner miliwn o bunnoedd. Roedd y rhain wedi'u hamlinellu ym mharagraff 3.2.7 o'r adroddiad, a oedd yn cymryd y broses ymgynghori i ystyriaeth ac yn ymateb i'r adborth gan y cyhoedd yn ogystal â Chynghorwyr.
Mae'r ffigur hwn yn cynnwys:
-
cael gwared ar y cynnig i
gau cyfleusterau cyhoeddus neu drosglwyddo eu hasedau, gwerth
£75k y flwyddyn nesaf a £50k arall y flwyddyn wedyn,
gan gydnabod yr ymateb negyddol a fynegwyd gan y cyhoedd yn yr
ymgynghoriad ar y gyllideb. - lleihau'r cynnydd mewn taliadau parcio ceir, gan gydnabod sylwadau'r cyhoedd ynghylch cyfraniad pwysig y cyfleusterau hyn o ran cefnogi busnesau canol tref a thwristiaeth, yn ogystal â'r effaith ddyddiol ar fywydau trigolion.
-
£200 o arbedion i'r
cyllidebau priffyrdd ac amddiffyn rhag llifogydd, gan gydnabod y
pryder gan Gynghorwyr a fynegwyd yn y seminar ar y gyllideb ac yng
nghyfarfod y Pwyllgor Craffu - Lle, Cynaliadwyedd a Newid
Hinsawdd.
Roedd yr adroddiad yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2025/26 i 2029/30 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn dwyn ynghyd y cynigion diweddaraf am raglen gyfalaf bum mlynedd 2025/26 hyd at 2029/30. Roedd yr adroddiad yn cymryd i ystyriaeth yr ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r goblygiadau refeniw oedd yn deillio o'r rhaglen.
Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yw £94.673m, a'r bwriad oedd i'r cyngor sir gyllido £42.794m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £51.879m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.
Mae'r rhaglen gyfalaf newydd yn cael ei hariannu'n llawn dros y pum mlynedd. Mae strategaeth gyfalaf yr Awdurdod, sy'n ofynnol gan y Côd Darbodaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, wedi'i diweddaru ac mae'n nodi'r cyd-destun hirdymor y gwneir penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi ynddo. Mae'n rhoi ystyriaeth briodol i risg a gwobrwyo a'r effaith ar gyflawni canlyniadau blaenoriaethol. Roedd y strategaeth gyfalaf yn ymdrin â gwariant ar Gronfa'r Cyngor a chyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai ac roedd wedi'i chynnwys fel Atodiad C.
Wrth gyflwyno'r adroddiad tynnodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau sylw at y ffaith, er gwaethaf y costau cynyddol a'r toriadau ariannol, fod rhaglen sylweddol o fuddsoddiadau cyfalaf wedi'i darparu ar gyfer pobl Sir Gaerfyrddin – mewn ysgolion, mewn cysylltiadau trafnidiaeth a seilwaith, yn ogystal â chyfleusterau diwylliannol a hamdden.
Roedd y rhaglen gyfalaf newydd yn cynnwys buddsoddiad o £188m dros y pum mlynedd nesaf a oedd yn cynnwys:
Nodir manylion cynhwysfawr y rhaglen arfaethedig yn Atodiad A i'r adroddiad.
Adroddwyd bod y strategaeth gyfalaf mor gynhwysfawr ac mor eang ag yr oedd yr adnoddau'n ei ganiatáu a'i bod yn cael ei chefnogi gan gyllid gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, ac adnoddau'r cyngor ei hun. Er ei bod yn uchelgeisiol, roedd yn gyfrifol o ystyried y cyfyngiadau a'r rhagolygon ariannol presennol, gan ganolbwyntio ar ysgogi'r economi a darparu cyfleusterau o ansawdd uchel i breswylwyr Sir Gaerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
6.1 bod y Rhaglen Gyfalaf bum mlynedd a'r cyllid, fel y'i nodwyd yn Atodiad A, gyda 2025/26 yn gyllideb bendant a chyllidebau 2026/27 i 2029/30 yn gyllidebau amhendant/dangosol, yn cael eu cymeradwyo;
6.2 bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid Cyngor Sir neu allanol disgwyliedig;
6.3 cymeradwyo'r Strategaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||||||
POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2025-26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Atgoffwyd y Cabinet fod y Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, wedi cytuno i gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd i gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi.
Yn ogystal, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod. Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i Bolisi a Strategaeth y Cyngor ynghylch Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26 cyn eu rhoi gerbron y Cyngor yn ffurfiol ar gyfer eu mabwysiadu'n derfynol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR
7.1 bod y Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2025-26 a'r argymhellion ynddynt yn cael eu cymeradwyo;
7.2 bod Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth, y Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw, y Strategaeth Fuddsoddi, a'r argymhellion ynddynt yn cael eu cymeradwyo.
|
|||||||
CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2025/26 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [Noder: Cyn i'r eitem hon gael ei hystyried, datganodd y Cynghorydd Linda Evans fuddiant personol a gadawodd y Siambr.]
Derbyniodd y Cabinet adroddiad ar Gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnes – Adwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2025/26 a oedd yn gofyn am fabwysiadu'r cynllun a oedd ar gael i awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26.
Byddai Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Adwerthu, Hamdden a Lletygarwch i drethdalwyr cymwys ar gyfer 2025-26. Roedd y cynllun yn ceisio darparu cymorth ar gyfer eiddo cymwys wedi'i feddiannu drwy gynnig gostyngiad o 40% ar y bil ardrethi annomestig ar gyfer eiddo, i bob safle cymwys. Ymhellach, byddai rhyddhad yn cael ei roi i bob busnes cymwys fel gostyngiad i'w fil ardrethi, yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi'r mathau o fusnes yr oedd yn eu hystyried yn briodol ar gyfer y rhyddhad hwn a'r rhai nad oeddent yn briodol. Roedd y rhestr anghyflawn o fathau o fusnes wedi’i darparu yn Atodiad A i’r adroddiad.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynllun Rhyddhad Ardrethi 2025/26 ar gyfer Adwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn cael ei fabwysiadu.
|
|||||||
ARDAL GWELLA BUSNES CAERFYRDDIN - PLEIDLAIS NEWYDD Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cafodd y Cabinet adroddiad i'w ystyried ar Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin (AGB) – Pleidlais Newydd. Tynnwyd sylw at y ffaith fod Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin wedi cyfarwyddo proses bleidleisio ar gyfer ei hail dymor ar 27 Chwefror 2025. Roedd yr adroddiad yn manylu ar fenter Ardal Gwella Busnes Caerfyrddin (AGB) a'r cynnig ar gyfer pleidlais newydd. Roedd yn ceisio ystyried cefnogaeth ar gyfer AGB arfaethedig Caerfyrddin am dymor pum mlynedd newydd, pan fyddai, yn amodol ar gael ei chefnogi, ardoll yn cael ei gweithredu i gynhyrchu arian sylweddol ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau a gwasanaethau a fyddai o fudd i fusnesau yn yr ardal ddynodedig.
Cynigiwyd bod y Cabinet yn cefnogi mewn egwyddor yr ymateb cadarnhaol i’r AGB drwy dderbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad, ac eithrio’r gymeradwyaeth i benodi cynrychiolydd aelodau i wasanaethu ar y Cwmni AGB.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
9.1 Cefnogi Pleidlais Cwmni AGB Caerfyrddin trwy hwyluso pleidlais ffurfiol i benderfynu a fyddai busnesau ardrethol y dref yn dymuno gweithredu Ardal Gwella Busnes (AGB) Caerfyrddin am gyfnod newydd o 5 mlynedd;
9.2
cefnogi egwyddor yr AGB
a'r broses bleidleisio ar gyfer yr 18 eiddo ardrethol yr effeithir
arnynt yn ardal yr AGB, gydag amcangyfrif o dâl ardoll
blynyddol o £25,422 ynghyd â chwyddiant ar 2% y
flwyddyn;
9.3
cymeradwyo'r egwyddor o
gynnal y casgliad ardoll AGB fel y nodwyd yn y Cytundeb Gweithredol
ar ran Cwmni AGB Caerfyrddin, heb unrhyw gost i'r AGB am y cyfnod
newydd o bum mlynedd;
9.4
Cymeradwyo'r Datganiad o
Wasanaethau Sylfaenol: i'r Cwmni AGB; 9.5 Cymeradwyo penodiad cynrychiolydd aelod i wasanaethu ar Fwrdd Cwmni AGB;
9.6 Cytuno i oruchwylio'r broses bleidleisio AGB ar ran Cwmni AGB Caerfyrddin heb unrhyw ffi.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cabinet Bolisi Risg Ffyrdd wedi'i ddiweddaru. Roedd y Polisi yn ofyniad cyfreithiol ac roedd yn cynnal safon uchel o ran rheoli iechyd a diogelwch i leihau'r risgiau i weithwyr ac eraill sy'n deillio o ddefnyddio cerbydau modur.
Nod y polisi hwn oedd codi ymwybyddiaeth o risgiau ffyrdd galwedigaethol o fewn y Cyngor a lleihau'r risgiau cysylltiedig i weithwyr, Aelodau Etholedig, y cyhoedd, a'r Cyngor i lefel dderbyniol.
Roedd Llawlyfr Gyrwyr yn cyd-fynd â'r polisi, a oedd yn ddogfen weithredol yn nodi'r gofynion gan bob gyrrwr ac a fyddai'n cael ei gyflwyno drwy'r Tîm Hyfforddiant Gweithredol a Rheolwyr Gwasanaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r Polisi Risg Ffyrdd wedi'i ddiweddaru.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cabinet adroddiad a oedd yn cynnig mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru, a oedd â'r nod o wella'r cymorth a'r gwasanaethau a ddarperir i blant a phobl ifanc â phrofiad o ofal yn y Sir.
Roedd Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru yn amlinellu set o egwyddorion ac yn addo y dylai cyrff cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, fabwysiadu i gefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal. Nod y Siarter yw sicrhau bod y plant a'r bobl ifanc hyn yn cael yr un cyfleoedd bywyd â'u cyfoedion trwy hyrwyddo cydraddoldeb, cael gwared ar stigma, a darparu cefnogaeth gynhwysfawr.
Cydnabuwyd y byddai mabwysiadu'r Siarter yn gofyn am ymdrech gydlynol ar draws gwahanol adrannau a gwasanaethau o fewn y Cyngor. Gallai'r heriau gynnwys cysoni polisïau ac arferion presennol ag egwyddorion y Siarter, sicrhau hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff, a sicrhau'r adnoddau angenrheidiol i weithredu'r Siarter yn effeithiol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
11.1 y dylid mabwysiadu Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru;
11.2 rhoi cymeradwyaeth i weithredu'r egwyddorion a'r addewidion a amlinellir yn y Siarter ar draws yr holl adrannau a gwasanaethau perthnasol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin;
11.3 bod y Panel Rhianta Corfforaethol yn goruchwylio'r broses o fabwysiadu ac integreiddio egwyddorion y Siarter.
|
|||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.
|