Lleoliad: Siambr- Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd William Powell.
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 24 IONAWR 2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2025 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||||||
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cofnod 5 - Praesept yr Heddlu 2025-26
Rhoddodd y Comisiynydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Panel gan nodi, ar ôl y cyfarfod diwethaf, fod cyhoeddiad gan y Swyddfa Gartref mewn perthynas â rhywfaint o gyllid ychwanegol yn gysylltiedig â'r Adduned Cymdogaeth gan Lywodraeth bresennol y DU. Mae cyllid ychwanegol o £750,000 wedi'i roi i'r Adduned nad yw'n newid y gyllideb derfynol a nodwyd ar gyfer y llynedd, gan y bydd yn rhan o wariant cysylltiedig â'r Adduned.
|
|||||||||||||
CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R CYHOEDD I'R COMISIYNYDD Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||
CWESTIWN GAN MRS HELEN THOMAS Dros y blynyddoedd mae'r Panel wedi derbyn adroddiadau am bobl ifanc yn mynd ar goll, yn enwedig y rheiny o gartrefi gofal.
Gan fod sylw wedi'i roi'n genedlaethol yn ddiweddar i griwiau sy'n meithrin perthnasoedd amhriodol, a yw'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cael trafodaeth gyda'r Cyngor Sir i sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys a'i bartneriaid systemau cadarn i ddiogelu'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed?
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 5.1 - Cwestiwn gan y Cynghorydd Mrs Helen Thomas
Dros y blynyddoedd mae'r Panel wedi derbyn adroddiadau am bobl ifanc yn mynd ar goll, yn enwedig y rheiny o gartrefi gofal.
Gan fod sylw wedi'i roi'n genedlaethol yn ddiweddar i griwiau sy'n meithrin perthnasoedd amhriodol, a yw'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cael trafodaeth gyda'r Prif Gwnstabl i sicrhau bod gan Heddlu Dyfed-Powys a'i bartneriaid systemau cadarn i ddiogelu'r bobl ifanc hyn sy'n agored i niwed?
Ymateb y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Diolch am y cwestiwn amserol iawn, mae ffocws wedi bod ar hyn yn ddiweddar. Efallai fod llawer ohonoch wedi sylwi ar ymateb yr Ysgrifennydd Cartref i rywfaint o sylw gan y cyfryngau mewn perthynas â chynnal archwiliadau. Mae'r Farwnes Casey yn cydlynu archwiliad ar ddechrau'r gwanwyn ac rydym yn aros am gylch gorchwyl yr archwiliad. Mae gan y Farwnes Casey brofiad helaeth yn y materion hyn. Rwy'n gefnogol i archwiliad.
Codais y cwestiwn hwn gyda'r Prif Gwnstabl drwy strwythurau'r bwrdd plismona sydd gennym. Gofynnais gwestiwn penodol i'r llu am yr angen i ni beidio â bod yn hunanfodlon o fewn Dyfed-Powys. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau partner ar y gwaith ehangach o ddiogelu plant a phobl ifanc ar draws rhanbarth Dyfed-Powys ac mae gennym strwythurau cadarn ar waith.
Mae'r Prif Gwnstabl wedi ymateb, ac rwy'n dyfynnu:
“Mae'r Llu'n cymryd lles plant o ddifrif ac mae ganddo brosesau diffiniedig ar waith i atal camdriniaeth a chefnogi plant agored i niwed. Nid yw plismona ar draws ardal ein llu yn hunanfodlon ac mae'n parhau i weithio gyda phartneriaid i nodi materion o'r fath a sicrhau bod diogelu plant yn flaenoriaeth i bawb.
Er na ellir rhoi unrhyw sicrwydd pendant mewn unrhyw faterion ym maes plismona, ni allaf fod yn 100% yn sicr nad oes rhywun sydd wedi dioddef y math hwn o drosedd yn ardal y llu neu mae wedi effeithio arno.
Gallaf gadarnhau ein bod yn effro i'r risg sy'n gysylltiedig â chriwiau sy'n meithrin perthnasoedd amhriodol. Rwy'n ymwybodol bod sicrwydd tebyg wedi'i rannu gyda Chomisiynydd Plant Cymru drwy Uned Gyswllt yr Heddlu.”
Rydym wedi rhoi sicrwydd i Gomisiynydd Plant Cymru fel y mynegwyd yma heddiw.
Mae gennym wasanaeth a ddarperir gan Llamau. Mae hwn yn wasanaeth sy'n cael ei ddarparu ar gyfer plant sy'n mynd ar goll ac mae'n wasanaeth ôl-drafodaeth. Mae'r gwasanaeth ôl-drafodaeth hwn yn cael ei fwydo'n ôl i asesiad amlasiantaeth o ba mor agored i niwed y mae'r person ifanc. Rydym yn ceisio gweld sut y gellir gwreiddio Llamau ymhellach yn y gwaith ehangach o adnewyddu rhaglen ysgolion ar draws ardal y llu.
|
|||||||||||||
ADRODDIAD CYNNYDD AR YR ARCHWILIAD DWFN - STELCIAN AC AFLONYDDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd Mrs H. Thomas a'r Cynghorwyr S. Hancock a S. Wright wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gwnaethant aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod a gwnaethant bleidleisio.]
Cafodd y Panel adroddiad archwiliad dwfn, a oedd yn craffu ar sut roedd Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin ag achosion o stelcio ac aflonyddu. Mae hwn yn faes pwysig ar gyfer gweithgarwch craffu.
Nododd yr adroddiad fod Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi cynnal adolygiad craffu dwfn o stelcio ac aflonyddu yn 2023. O ganlyniad i'r adolygiad, gwnaed sawl argymhelliad ym meysydd Adnoddau, Hyfforddiant, Data, Cyflawnwyr, Ymyriadau, Monitro Cyflawnwyr a Dioddefwyr, ac adroddir ar gynnydd pob un o'r rhain i'r Panel bob chwe mis.
Rhoddodd y Panel ganmoliaeth i'r adroddiad a holl waith caled y swyddogion wrth baratoi'r wybodaeth.
Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:-
· Mewn ymateb i gwestiwn am y cyllid hirdymor ar gyfer swydd Cydlynydd Cyflawnwyr Cam-drin Domestig a Stelcio, dywedodd y Comisiynydd fod cadarnhad yn cael ei geisio mewn perthynas â threfniadau cyllido.
· Mewn ymateb i gwestiwn am y gyllideb ar gyfer y rhaglen hyfforddi Hyrwyddwyr, dywedodd y Comisiynydd y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu'n uniongyrchol i aelodau y tu allan i'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad. |
|||||||||||||
PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad ynghylch y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd rhwng 12 Hydref, 2024 a 31 Ionawr, 2025.
Nododd y Panel fod Adran 28(6) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn ei gwneud yn ofynnol iddo adolygu'r penderfyniadau a wnaed a'r camau a gymerwyd gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu mewn perthynas â chyflawni ei swyddogaethau a hefyd cyflwyno adroddiadau ac argymhellion o'r fath i'r Comisiynydd mewn perthynas â'r penderfyniadau a'r camau hynny y mae'r Panel yn eu hystyried yn briodol.
Codwyd y cwestiynau neu bryderon canlynol gan y Panel:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch llwyddiant prosiect Celf Aeron yn Aberaeron a'r posibilrwydd o roi prosiectau tebyg ar waith ar draws ardal y llu, cytunodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i ddarparu adroddiad diwedd blwyddyn i rannu dadansoddiad o'r canlyniadau a rhesymeg.
· Gofynnwyd cwestiwn am y buddsoddiad o £960,000 yn y Cynllun Dargyfeirio Troseddwyr. Dywedodd y Comisiynydd y byddai'r cynllun amlasiantaeth yn mynd i'r afael ag ymddygiad troseddol yn gynharach yn ystod taith troseddu unigolyn ac y byddai'n lleihau aildroseddu.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn
|
|||||||||||||
CYNLLUN BUSNES SWYDDFA'R COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU - ADRODDIAD CYNNYDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd Mrs H. Thomas a'r Cynghorwyr S. Hancock a S. Wright wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gwnaethant aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod a gwnaethant bleidleisio.]
Cafodd y Panel yr adroddiad cynnydd ar Gynllun Busnes Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Chwarter 3 - 2024/25. Amlinellodd yr adroddiad y cynnydd a wnaed o ran cyflawni gofynion y cynllun busnes mewn aliniad â'r blaenoriaethau yn y Cynllun Heddlu a Throseddu.
Nodwyd bod yr adroddiad yn tynnu sylw at nifer o newidiadau i statws RAG yn ystod Chwarter 3.
Cyfeiriodd Prif Weithredwr y Comisiynydd at adroddiad cynnydd Cynllun Busnes OPCC ac adroddiad Perfformiad y Protocol Plismona a dywedodd wrth y Panel, oherwydd nifer o themâu trawsbynciol rhwng y ddau adroddiad, y cynigiwyd eu bod yn ffurfio un Adroddiad Gweithredol o fis Ebrill 2025 ymlaen.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i gwestiwn am ddyfodol y Gwasanaethau Atal a Thrin, dywedodd y Comisiynydd fod trafodaethau'n parhau gyda'r darparwr presennol ac y byddai'r gwaith yn parhau dros nifer o fisoedd i geisio datrys y mater.
· Rhoddwyd gwybod i'r Panel yr ymgysylltir â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gryfhau perthnasoedd mewn cymunedau. Roedd y rhyngweithio hwn yn angenrheidiol i gynyddu amrywiaeth o ran y gweithlu a grwpiau gwirfoddol ac i ddeall eu teimladau, eu safbwyntiau a'u profiadau, ac i ddarparu gwybodaeth hefyd.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad
|
|||||||||||||
PROTOCOL PLISMONA - ADRODDIAD PERFFORMIAD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [NODER: Roedd Mrs H. Thomas a'r Cynghorwyr S. Hancock a S. Wright wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gwnaethant aros yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod a gwnaethant bleidleisio.]
Bu'r Panel yn ystyried adroddiad perfformiad mewn perthynas â'r Protocol Plismona ar gyfer Ch3 blwyddyn ariannol 2024-25.
Dywedwyd y bu newid mewn perfformiad yn ystod y Chwarter hwn mewn nifer o gamau gweithredu; roedd 1 cam gweithredu wedi newid o Wyrdd i Oren ac roedd 8 wedi symud o Oren i Wyrdd.
Codwyd y cwestiynau neu bryderon canlynol gan y Panel:
· Holwyd am y data oedd ar gael ynghylch y gweithgareddau cynaliadwyedd amgylcheddol. Mewn ymateb, dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wrth yr aelodau fod gan y llu aelod o staff a oedd yn delio â materion cynaliadwyedd a datgarboneiddio ac y byddai'n darparu adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
· Mewn ymateb i gwestiwn am yr Adolygiad o Ddatblygiad Personol ar gyfer y Prif Gwnstabl, dywedodd y Comisiynydd fod gan y Prif Weithredwr Staff gymhwyster gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a bod gan y swyddfa adnoddau digonol i ymgymryd â dyletswyddau o'r fath.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad.
|