Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Darren Price (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Rob Stewart (Cyngor Dinas Abertawe), y Cynghorydd Jon Harvey (Cyngor Sir Penfro) a William Bramble (Prif Weithredwr, Cyngor Sir Penfro).
|
|||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||||||||
LLOFNODI COFNODION Y CYFARFOD Y CYG BWYLLGOR A GYNHELIR AR Y 18FED O HYDREF 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Partneriaeth a gynhaliwyd ar 18 Hydref, 2024 gan eu bod yn gywir.
|
|||||||||
MATERION SY'N CODI O'R COFNODION Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion yn codi.
|
|||||||||
LLYTHYR GAN GADEIRYDD GRŴP CYNGHORWYR CRAFFU PARTNERIAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor lythyr gan Gadeirydd Gr?p Cynghorwyr Craffu Partneriaeth a oedd yn ystyried y sylwadau yn dilyn cyfarfod diwethaf y Gr?p ar 18 Tachwedd 2024.
Roedd y Pwyllgor am nodi eu diolch i Gr?p Cynghorwyr Craffu Partneriaeth am eu cyfraniad a'u cymorth rheolaidd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y llythyr.
|
|||||||||
YMHOLIADAU ARCHWILIO I’R RHAI SY’N GYFRIFOL AM LYWODRAETHU A RHEOLI Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Cyd-bwyllgor yr ymateb i Archwilio Cymru o ran "Ymholiadau archwilio i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu a rheoli" ar gyfer 2023-24.
Mae'n ofynnol i Archwilio Cymru gynnal ei archwiliad ariannol yn unol â'r gofynion a nodir yn y Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn flynyddol. Mae'r ystyriaethau yn berthnasol i uwch-reolwyr Partneriaeth a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu sef, at ddibenion archwilio'r datganiadau ariannol, Cyd-bwyllgor Partneriaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r ymateb i Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24, fel y'i nodir yn yr adroddiad.
|
|||||||||
ARCHWILIO CYMRU - CYNLLUN ARCHWILIO 2024 PARTNERIAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor Gynllun Archwilio Cymru 2024 ar gyfer Partneriaeth, a oedd yn amlinellu'r gwaith sydd i'w wneud gan Archwilio Cymru wrth gyflawni ei ddyletswyddau statudol.
Roedd y cynllun yn nodi: · Perthnasedd datganiadau ariannol · Risgiau sylweddol datganiadau ariannol · Meysydd ffocws · Amserlen archwilio datganiadau ariannol · Swyddogaethau archwilio statudol · Tîm ffioedd ac archwilio · Ansawdd archwilio
Nodwyd bod cynllunio archwilio wedi nodi risg sylweddol o ran datganiadau ariannol – Rheolwyr yn diystyru rheolaethau. Meysydd eraill a nodwyd o ran ffocws archwilio oedd Datgeliadau gan Bartïon Cysylltiedig a thaliadau uwch-swyddogion a sicrhau cywirdeb torbwynt gwariant mewn perthynas ag Amcanion Cynllun Busnes.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Cynllun Archwilio Cymru 2024.
|
|||||||||
ADRODDIAD DIWEDDARU AR Y SEFYLLFA ARIANNOL (31 RHAGFYR 2024) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Partneriaeth fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024 (Chwarter 3 2024-25).
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||||
CYLLIDEB DDRAFFT PARTNERIAETH AR GYFER 2025-2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor gyllideb ddrafft ddiwygiedig Partneriaeth ar gyfer 2025-26 i'w hystyried a'i chymeradwyo 'mewn egwyddor'.
Roedd cyllideb ddrafft ddiwygiedig Partneriaeth ar gyfer 2025-26 yn cynnwys: · Rhagdybiaethau ac amcangyfrifon · Cyfraniadau Awdurdodau Lleol · Cytundebau Lefel Gwasanaeth (CLG) · Cyllideb Ddrafft Ddiwygiedig ar gyfer 2025-26 · Balans Gweithio a Chronfeydd wrth Gefn · Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2025-26 tan 2028-29 · Risgiau a Chyfleoedd
Mewn ymateb i ymholiadau, dywedwyd wrth y Cyd-bwyllgor fod y gyllideb yn gymhleth oherwydd bod y Corff Cenedlaethol newydd ar gyfer Dysgu Proffesiynol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n ymdrin â rhai agweddau ar waith sy'n cael ei wneud gan Partneriaeth ar hyn o bryd. Nid yw maint llawn y swyddogaeth Genedlaethol a sut y byddai'r swyddogaeth yn cael ei chynnal wedi'u penderfynu eto. Mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan fod y Grant Addysg Awdurdod Lleol i bob un o'r tri Awdurdod Lleol yn llai a fyddai, yn ei dro, yn effeithio ar gyllid. Nodwyd bod gwaith yn parhau o hyd ond cydnabuwyd y byddai llai o gyllid ac y byddai angen i'r tri Phrif Weithredwr sicrhau y byddai cyllidebau yn y dyfodol yn gynaliadwy yn ariannol.
Ailadroddwyd mai dim ond mewn egwyddor y byddai'r Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'r gyllideb ddrafft ac y byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei chymeradwyo o dan y cytundeb cydweithio newydd ar ôl cael cadarnhad o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol sy'n aelodau.
Nodwyd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Cyd-bwyllgor ond efallai y byddai angen cyfarfod arall yn ddiweddarach yn y flwyddyn i gymeradwyo'r datganiad cyfrifon.
UNANIMOUSLY RESOLVED that :-
|
|||||||||
DIWEDDARIAD AR SWYDDOG ARWEINIOL PARTNERIAETH Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ddarpariaeth bresennol Partneriaeth. Bwriad hyn yw sicrhau bod blaenoriaethau rhanbarthol yn cael eu cyflawni yn unol â disgwyliadau cyllido Grant Addysg Awdurdod Lleol (LAEG).
Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r cymorth a gynigir ar hyn o bryd gan Partneriaeth ar draws y cynllun busnes sydd ar waith ers mis Medi 2024. Nodwyd bod Partneriaeth yn cynnig ystod gref o gymorth yn unol â'r disgwyliad gan bartneriaid Awdurdodau Lleol a'i bod wedi darparu ystod o ddysgu proffesiynol o ansawdd uchel trwy ddigwyddiadau dysgu proffesiynol penodol a chymorth pwrpasol ar draws y ddau faes blaenoriaeth (Cymorth Cwricwlwm a Llwybrau Gyrfa).
Nodwyd bod y cynllun busnes yn cael ei fonitro bob chwarter a bod Partneriaeth ar y trywydd iawn i gyflawni ym mhob maes.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a'r diweddariad.
|
|||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Cyd-bwyllgor broffil risg cyffredinol y rhanbarth. Roedd yr adroddiad yn amlinellu proffil risg cyffredinol y rhanbarth a oedd wedi'i ddiweddaru ar gyfer Medi 2024 yn unol â rhoi'r cynllun busnes newydd ar waith sy'n gysylltiedig â chyllid dirprwyedig LAEG.
Nododd y Cyd-bwyllgor fod y map gwres yn dangos y sgoriau risg fel a ganlyn:
· Tebygolrwydd Canolig ac Effaith Uchel oherwydd diffyg eglurder ynghylch swyddogaethau Partneriaeth a · Tebygolrwydd Canolig ac Effaith Uchel Iawn oherwydd nad yw Awdurdodau Lleol yn darparu digon o gyllid i dalu costau cynnal Partneriaeth.
Dywedwyd y byddai Trefniadau Llywodraethu Partneriaeth yn cael eu diweddaru yn y Gofrestr Risg o 1 Ebrill i adlewyrchu'r cytundeb cydweithio yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a'r proffil risg.
|
|||||||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTERIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nododd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau busnes y dylid eu hystyried fel mater o frys.
|