Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kelly Evans 01267 224178
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Gareth John, Dai Nicholas a Darren Price, yr Arweinydd.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
||||||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2025/26 TAN 2027/28 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw Corfforaethol 2025/26 i 2027/28, a oedd yn rhoi golwg gyfredol ar y gyllideb refeniw ar gyfer 2025/26 i 2027/28. Bu'r Pwyllgor yn ystyried y setliad dros dro a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru ar 11 Rhagfyr 2024.
Atgoffwyd Aelodau bod yr adroddiad wedi'i ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr 2025 a bod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle i ddadansoddi a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y disgwylir i'r setliad terfynol gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ar 25 Chwefror 2025, ynghyd â chyllideb Llywodraeth Cymru, sef y diwrnod cyn i'r cyngor llawn gyfarfod i gytuno ar y gyllideb derfynol.
Roedd gwerth cost y setliad yn sylweddol uwch na'r ffigur cynllunio o gynnydd o 1.0%, ond roedd maint y pwysau costau ychwanegol y mae pob cyngor yn eu hwynebu yn golygu bod yna ddiffyg cyllid o hyd.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i bwysigrwydd hanfodol lleihau cynnydd y Dreth Gyngor i breswylwyr wrth gynnal cyllideb gytbwys yn y cyfnod heriol hwn.
Nodwyd yn yr adroddiad bod y cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i ddiwygio i 9.75%, gan geisio lliniaru gostyngiadau i wasanaethau hanfodol a darparu'r lefel fwyaf o ddiogelwch i gyllidebau ysgolion. Roedd ansicrwydd ar gyfer blynyddoedd 2 a 3, ac felly roedd cynnydd dangosol yn y Dreth Gyngor o 5% bob blwyddyn. Ystyriwyd y byddai hyn yn darparu o leiaf rhywfaint o liniaru i'r cynigion arbedion yr oedd angen i'r cyngor eu hystyried dros flynyddoedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn y dyfodol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i Graffu Corfforaethol a Pherfformiad:-
Atodiad A – Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2025/26 i 2027/28 Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol
Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol
Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol
Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer Adran y Prif Weithredwr ac Adran y Gwasanaethau Corfforaethol
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth yr aelodau yr amcangyfrifwyd bod gan yr awdurdod ddiffyg o £4 miliwn y darparwyd ar ei gyfer yn ganolog.
PENDERFYNWYD derbyn yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2024/25 i 2026/27 a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad.
|
||||||||||
POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2025-26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys arfaethedig 2025/26 gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.Fel rhan o ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, mae'n rhaid i'r Cyngor feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth o ran Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2025/26 a'r atodiadau cysylltiedig.
|
||||||||||
RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) 2025/26 TAN 2029/30 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd a oedd yn rhoi golwg gychwynnol ar y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd rhwng 2025/26 i 2029/30. Roedd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r aelodau a phartïon perthnasol eraill a byddai unrhyw adborth, ynghyd â'r setliad terfynol, yn llywio'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet, ac yn ei dro i'r Cyngor, ym mis Chwefror 2025.
Y gwariant gros arfaethedig ar y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2025/26 yw £91.853m, a'r bwriad oedd i'r cyngor sir gyllido £40.624m o'i adnoddau ei hun drwy ddefnyddio benthyciadau, arian wrth gefn, ariannu drwy refeniw uniongyrchol, derbyniadau cyfalaf a grant cyfalaf cyffredinol, a bod y £51.229m o gyllid oedd yn weddill yn dod o ffynonellau allanol.
Er bod y rhaglen gyfalaf newydd wedi'i hariannu'n llawn yn y flwyddyn gyntaf, nododd yr adroddiad nad oedd £2.206m wedi'i ariannu dros y rhaglen bum mlynedd, ar adeg ymgynghori. Byddai angen nodi cyllid yn y dyfodol, neu ddiwygio cwmpas y buddsoddiadau yn unol â hynny.
Nod y Rhaglen Gyfalaf oedd rhoi nifer o brosiectau allweddol ar waith a fyddai'n creu swyddi ac yn gwella ansawdd bywyd pobl Sir Gaerfyrddin. Mae datgarboneiddio yn flaenoriaeth i'r Awdurdod a byddai briffiau dylunio ar gyfer prosiectau newydd yn cynnwys pwyslais ar effeithlonrwydd carbon.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch dyfodol Harbwr Porth Tywyn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol y byddai'r awdurdod yn gweithio gyda thrydydd parti i ddatblygu a gweithredu'r harbwr.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gwelliannau i rwydweithiau ffyrdd yn y Sir, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol, at fenter newydd Llywodraeth Cymru, lle byddai cynghorau yn benthyca cyllid a byddai Llywodraeth Cymru yn ad-dalu taliadau cyfalaf dros yr 20 mlynedd nesaf.
· Mewn ymateb i gwestiwn am faint o ffermydd sirol oedd angen buddsoddiad ar gyfer storio slyri, dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y byddai gwybodaeth yn cael ei darparu y tu allan i'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2025/26 – 2029/30.
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon yn gynharach, arhosodd y Cynghorydd A. Evans yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch.]
Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2024 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2024/25.
Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £19.2m gan gynnwys cyllidebau ysgolion, ac yn rhagweld gorwariant o £8.7m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau wrth yr aelodau fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau cyllid grant ar gyfer cyflog Athrawon, yn ogystal â chynnydd ym mhensiynau cyflogwyr athrawon a diffoddwyr tân, y disgwylir iddo fod yn gost-niwtral, gan liniaru'r risg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
CYNLLUNIAU BUSNES 2025/26 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gynlluniau Cyflawni Rhanbarthol 2025-26 ar gyfer Gwasanaethau Ariannol; Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol; Datblygu Economaidd ac Eiddo; y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil, Marchnata a'r Cyfryngau a Phobl, Digidol a Pholisi, ynghyd â'r adroddiadau manwl perthnasol ar Amcanion Llesiant y Cyngor sy'n dod o fewn cylch gwaith y pwyllgor sef:
· Amcan Llesiant 1 - Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda) · Amcan Llesiant 2 - Galluogi ein preswylwyr i fyw ac heneiddio'n dda (Byw ac Heneiddio'n Dda) · Amcan Llesiant 3 - Galluogi ein cymunedau a'n hamgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn ffyniannus (Cymunedau Ffyniannus) · Amcan Llesiant 4 - Moderneiddio a datblygu ymhellach fel Cyngor cydnerth ac effeithlon (Ein Cyngor)
Wrth gyflwyno'r adroddiad, amlygodd yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a'r Gweithlu fod y Cynlluniau Busnes yn ddogfennau gwaith ac y gallent newid yn ystod y flwyddyn mewn ymateb i amgylchiadau sy'n newid. Wrth gwblhau'r cynlluniau busnes, mae'r is-adrannau wedi ystyried y canlyniadau y gobeithiwyd eu cyflawni (fel y nodwyd yn y Strategaeth Gorfforaethol), canfyddiadau'r ymgynghoriad diweddaraf â phreswylwyr a chasgliadau'r hunanasesiadau diweddaraf.
Ymatebwyd fel a ganlyn i'r sylwadau a roddwyd:
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr anawsterau i ddenu pobl i rolau gofal cymdeithasol yn yr awdurdod, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wrth yr aelodau fod strategaeth gweithlu ar waith a bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn gyflogwr deniadol. Er mwyn cael cronfa ehangach o ymgeiswyr ar gyfer rolau gradd is, roedd yn bwysig defnyddio iaith hygyrch a syml mewn proffiliau swyddi a hysbysebu yn y cyfryngau. · Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol, mewn ymateb i ymholiad ar recriwtio, i'r Pwyllgor gael sesiwn ddatblygu ynghylch Oleeo, y system recriwtio a ddefnyddir gan yr awdurdod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
8.1 fod Cynlluniau Cyflawni Adrannol 2025-26 ar gyfer y Gwasanaethau Ariannol, Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, Datblygu Economaidd ac Eiddo, y Gyfraith, Llywodraethu a Gwasanaethau Sifil, Marchnata a'r Cyfryngau a Phobl, Digidol a Pholisi yn cael eu derbyn.
8.2 bod sesiwn ddatblygu'n cael eu darparu ar gyfer aelodau ar Oleeo, y system recriwtio.
|
||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [SYLWER: Ar ôl datgan buddiant yn gynharach yn yr eitem hon, arhosodd y Cynghorydd A. Evans yn y cyfarfod tra bo'r Pwyllgor yn trafod yr eitem ac yn pleidleisio yn ei chylch. Roedd y Cynghorydd D. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra bo ystyriaeth yn cael ei rhoi iddi.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad at ddibenion monitro, ar Chwarter 2 - 2024/25 o'r Camau Gweithredu a'r Mesurau oedd yn gysylltiedig â Strategaeth Gorfforaethol yr Awdurdod a'r Amcanion Llesiant.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:
· Mewn ymateb i ymholiad cadarnhaodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth nad oedd y targed ar gyfer cwynion o fewn y dyddiad cau statudol wedi'i gyrraedd, oherwydd nifer a chymhlethdod yr achosion. Dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth wrth y pwyllgor, y byddai data cymharol rhwng awdurdodau lleol Cymru yn cael ei ddosbarthu y tu allan i'r cyfarfod.
· Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, mewn ymateb i ymholiad ynghylch a oedd lobïo gan CLlLC yn cael ei fodloni mewn modd cadarnhaol, fod llythyr wedi'i lofnodi gan Arweinwyr Awdurdodau Cymru i lobïo Llywodraeth Cymru oherwydd y gyllideb heriol a ragwelir.
· Eglurodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod y Tîm Trawsnewid yn gweithio gydag aelodau ar deiliadaeth adeiladau'r Cyngor. Mae Parc Myrddin yn cael ei adolygu ar hyn o bryd a byddai Neuadd y Sir a Heol Spilman yn cael eu hadolygu yn y dyfodol agos.
· Mewn ymateb i ymholiad ar gostau gwaith yn Nh? Elwyn, dywedodd y Cyfarwyddwr Adnoddau Corfforaethol y byddai'n ymateb i'r Pwyllgor y tu allan i'r cyfarfod.
· Mewn ymateb i ymholiad ar sut mae'r awdurdod yn monitro cynnydd e-ddysgu staff, cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y byddai o fudd i aelodau weld y system mewn sesiwn ddatblygu.
· Cyfeiriwyd at y gwaith a oedd yn cael ei wneud gydag ysgolion a cholegau chweched dosbarth i gyfleu i ddisgyblion yr ystod o swyddi a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael gyda'r Cyngor.
PENDERFYNWYD
9.1 derbyn yr adroddiad. 9.2 darparu sesiwn ddatblygu ar gyfer y Pwyllgor ar system Thinqi.
|
||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor, gan mai dim ond dau adroddiad ar yr agenda, y byddai'r cyfarfod nesaf, ar 6 Mawrth 2025, yn cael ei ganslo ac y byddai'r adroddiad yn cael eu hystyried yn y cyfarfod ar 16 Ebrill 2025.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol yn cael ei hystyried yn y cyfarfod nesaf sydd wedi'i drefnu ar gyfer 16 Ebrill 2025.
|
||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 18 RHAGFYR 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr, 2024 gan eu bod yn gofnod cywir.
|