Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 30ain Ionawr, 2025 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd T. Davies. Hefyd cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Thomas gan nad oedd yn gallu aros yn y cyfarfod oherwydd trafferthion technegol.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S. Williams

3.1 – Cais Cynllunio PL/07543 – Caniatâd cynllunio llawn i reoleiddio'r defnydd presennol fel campfa a chodi a chadw strwythur ar ffurf tebyg i babell fawr yn ôl-weithredol yn Hyve, Campfa Llanelli, Llanelli, SA15 4AX

Mae'r ymgeisydd yn ffrind personol agos ac mae'r Cynghorydd Williams yn aelod o'r gampfa.

E. Skinner*

3.1 - Cais Cynllunio PL/08451 - Amrywio Amod 1 o Gais Cynllunio S/38285 (Diwygio geiriad amod 1 er mwyn caniatáu 5 mlynedd ychwanegol ar gyfer cyflwyno materion a gadwyd yn ôl) yn Noc y Gogledd, Llanelli, SA15 2LY

 

Mae'r Cynghorydd Skinner yn byw ger y safle.

 *datganiad wedi'i wneud cyn ystyried yr eitem ar yr agenda.

 

3.

PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 587 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

3.1

PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

 

 

PL/07363

 

Bwriad i ddymchwel y garej bresennol a datblygu uned adwerthu cyfleustra (Dosbarth Defnydd A1), mynediad, seilwaith priffyrdd, parcio, tirlunio, trefniadau draenio a'r holl waith arall (DIWYGIWYD) yng Ngarej Derlwyn, Heol y Neuadd, y Tymbl, Llanelli, SA14 6HS

 

[Nodiadau: 

 

  • Yn unol â Rheol Rhif 14.14 o Weithdrefn y Cyngor, nid oedd y Cynghorydd E. Skinner wedi cymryd rhan yn y penderfyniad nac wedi pleidleisio ynghylch y cais gan nad oedd yn bresennol ar gyfer y ddadl gyfan.

 

  • Y caniatâd cynllunio yn amodol ar dderbyn datganiad seilwaith gwyrdd.]

 

 

 

 

PL/07543

 

 

Caniatâd cynllunio llawn i reoleiddio'r defnydd presennol fel campfa a chodi a chadw strwythur ar ffurf tebyg i babell fawr yn ôl-weithredol yn Hyve, Campfa Llanelli, Llanelli, SA15 4AX

 

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd S. Williams wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw a gadawodd y cyfarfod cyn i'r eitem gael ei hystyried a chyn y pleidleisiwyd arni].

 

 

 

 

PL/07943

 

Amffitheatr gyda seddi cysylltiedig ar dir ger Maes Parcio Castellnewydd Emlyn, Heol y Castell, Castellnewydd Emlyn, SA38 9EF

 

 

 

 

PL/08109

 

Newid defnydd y dafarn bresennol i breswylfa a 2 breswylfa ar wahân newydd yn ardal y maes parcio yn Nhafarn y Deri, Heol Ebenezer,Llanedi, Abertawe, SA4 0YT

 

Yn dilyn cyflwyniad gan yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd yn argymell cymeradwyo'r cais, yn amodol ar yr amodau, a hynny am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad ysgrifenedig. 

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod:

 

  • Mae'r dafarn yn fusnes ffyniannus, sy'n darparu cyflogaeth i bobl leol ac sydd o fudd i'r economi yn y rhanbarth hwn o'r sir;

 

  • Mae'r dafarn yn cynnal cyfarfodydd cymunedol a digwyddiadau elusennol, yn codi arian at achosion da ac yn dod â'r gymuned at ei gilydd, gan effeithio'n gadarnhaol ar iechyd a llesiant;

 

  • Torrwyd coeden fawr i lawr ym maes parcio'r dafarn;

 

  • Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal wedi lleihau ac felly mae'n anoddach teithio i'r pentref ac oddi yno i gael mynediad i amwynderau;

 

  • Bu llifogydd yn y dafarn ym mis Ionawr 2024 a hefyd mae difrod sylweddol i'r to;

 

  • Nid oes galw am anheddau ychwanegol o fewn y pentref.

 

Ymatebodd yr Asiant a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r pwyntiau a godwyd.

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd, gan gynnwys y pwyntiau isod: 

 

  • Adlewyrchir teimladau cryf y gymuned yn nifer y gwrthwynebiadau a ddaeth i law;

 

  • Mae Tafarn y Deri yn fusnes ffyniannus sy'n cael cefnogaeth dda gan drigolion Llanedi a'r ardal ehangach;

 

  • Mae'r safle yn cael ei feddiannu gan deulu sy'n rheoli'r dafarn ac sy'n lletya ac yn annog grwpiau elusennol lleol;

 

4.

ADRODDIAD APELIADAU pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r Adroddiad Apeliadau Cynllunio a oedd yn darparu gwybodaeth yn ymwneud ag apeliadau cynllunio a gyflwynwyd ar 17 Ionawr, 2025.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

5.

PERFFORMIAD Y GWASANAETH CYNLLUNIO - CHWARTER 3 pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad y Gwasanaeth Cynllunio ar gyfer Chwarter 3 am y cyfnod rhwng Hydref a Rhagfyr 2024 ar gyfer y Gwasanaeth Lle a Chynaliadwyedd, a oedd yn canolbwyntio ar Reoli Datblygu a Gorfodi. Roedd yr adroddiad yn cynnwys dangosyddion monitro perfformiad craidd ynghyd â data cymharol ar gyfer data chwarterol a chronnol ar gyfer 2023/24.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi set o ddangosyddion monitro perfformiad craidd a fyddai'n rhan o fonitro perfformiad y gwasanaethau cynllunio yn y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys "Dangosyddion Cenedlaethol" a'r rhai a nodwyd gan y Cyngor.

 

Wrth adolygu'r adroddiad, estynnodd y Pwyllgor longyfarchiadau i'r adran ar y gwelliant sylweddol mewn perfformiad ac roedd yn falch o nodi yr aethpwyd i'r afael â'r materion a adroddwyd yn flaenorol o ran capasiti adnoddau. Diolchodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi i'r staff yn yr adran am eu hymdrechion a'u cynnydd rhagorol dros y 3 blynedd diwethaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad, rhoddodd yr Uwch-reolwr Datblygu a Gorfodi wybod bod adolygiad o'r broses orfodi yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu i'r Pwyllgor maes o law.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 80 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17  Rhagfyr, 2024 fel cofnod cywir.