Lleoliad: Neuadd y Sir, Cyngor Sir Benfro - Hwlffordd, SA61 1TP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSONOLDEB A MATERION PERSONOL Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd Elizabeth Evans (Cyngor Sir Ceredigion).
|
|||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion:
|
|||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR DYDD GWENER 25 HYDREF 2024 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys oedd wedi ei gynnal ar 25 Hydref 2024 i nodi eu bod yn gywir. |
|||||||||||||
MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI) Cofnodion: Cofnod Rhif 7
Gofynnwyd am ddiweddariad ynghylch y trefniadau llywodraethu diwygiedig, yn enwedig y bwrdd strategol. Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei fod, ochr yn ochr â chyfarfodydd misol y Bwrdd Plismona, yn cael Cyfarfodydd Perfformiad Strategol chwarterol i gael mwy o oruchwyliaeth ar faterion gweithredol. Mae bwriad yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod i gyflwyno swyddogaeth graffu fanylach, tebyg i'r system Pwyllgor Dethol yn San Steffan. Trwy hyn gwneir archwiliadau dwfn i faterion penodol, megis y gwaith blaenorol ynghylch stelcian ac aflonyddu. Bydd yr archwiliadau dwfn hyn yn gweithio gyda'r heddlu ac asiantaethau partner i ddefnyddio profiad byw y rhai sy'n cyfrannu i wella'r gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu a phartneriaid cyfiawnder troseddol.
Gofynnwyd i'r Comisiynydd hefyd am hygyrchedd cyhoeddus y cyfarfodydd hyn ac a fyddent yn cael eu gweddarlledu'n fyw. Rhoddwyd gwybod i'r Panel mai'r bwriad oedd recordio'r Cyfarfodydd Perfformiad Strategol a'r cyfarfodydd fyddai yn arddull y Pwyllgor Dethol, ond nid eu gweddarlledu yn fyw. Bydd cofnodion hefyd ar gael ar gyfer y cyfarfodydd hyn.
|
|||||||||||||
PRAESEPT YR HEDDLU 2025-2026 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn adolygu'r praesept oedd wedi'i gynnig gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Roedd y Panel wedi nodi'r mater hwn fel un o'i flaenoriaethau ac wedi sefydlu is-gr?p i ystyried y mater hwn yn fanylach ar ei ran. Cyflwynwyd adroddiad a baratowyd gan yr is-gr?p, a nodai ei argymhellion, ynghyd ag adroddiad manwl gan y Comisiynydd yn nodi ei braesept arfaethedig a'i gyfiawnhad drosto.
Darllenodd y Cadeirydd gwestiwn gan aelod o'r cyhoedd ynghylch tryloywder y broses o osod praesept, a oedd fel a ganlyn:
“Mae rolau'r Comisiynydd Heddlu a'r Panel Troseddu yn allweddol o ran sicrhau bod anghenion cymunedau yn cael eu diwallu mor effeithiol â phosibl, gan wella perthnasoedd lleol, 'meithrin hyder ac ymddiriedaeth.’
Praeseptio yw tasg fwyaf arwyddocaol y comisiynydd a dyma'r rôl sy'n cynnwys y nifer fwyaf o breswylwyr yn uniongyrchol. Felly mae'r ymddiriedaeth rhwng y Comisiynydd, y Panel a'r cyhoedd yn y broses praeseptio yn allweddol.
Nid oes esboniad syml ynghylch casglu, ariannu a dyrannu'r praesept ar gael yn hwylus i'r rhai sy'n cwestiynu'r broses.
Yn flaenllaw mewn galwadau o'r fath y mae'r rheiny sydd, fel talwyr premiwm treth gyngor, yn talu tair gwaith y praesept, ac sydd, o ganlyniad, yn dangos diddordeb mawr yn Heddlu Dyfed-Powys ac yn ceisio eglurder cyn talu biliau nad ydynt yn eu deall.
Sut byddai panel Heddlu Dyfed-Powys a'r Comisiynydd yn egluro materion fel rôl y sylfaen dreth a'r awgrym bod y ffynhonnell hon o incwm Heddlu Dyfed-Powys wedi cael ei hecsbloetio ers nifer o flynyddoedd, ond bod angen tryloywder erbyn hyn, a chydweithrediad rhwng rhanddeiliaid i ddarparu esboniadau clir o'r broses praeseptio er mwyn osgoi anghytgord?”
Mewn ymateb i'r cwestiwn, cyfeiriodd y Comisiynydd at y cyfarfod ei hun fel rhywbeth oedd yn dangos tryloywder, gan gynnwys y ffaith ei fod wedi cyflwyno adroddiad hir oedd â manylion helaeth ynghylch y broses o osod praesept. Eglurodd y Comisiynydd hefyd fod fformiwla'r Swyddfa Gartref ar gyfer cyllid yr heddlu yn gymhleth ac yn anhryloyw, ac nad oedd hynny'n helpu o ran tryloywder. Eglurodd hefyd fod y cyllid ar gyfer gwasanaeth yr heddlu wedi symud i ffwrdd o'r llywodraeth ganolog i'r pwynt lle'r sefyllfa bresennol yw bod 56% o'r cyllid yn dod o braesept y dreth gyngor.
Cyflwynodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei adroddiad ar y praesept, a oedd yn argymell cynnydd o 8.6%. Tynnodd sylw at sawl pwynt allweddol o'r adroddiad, gan gynnwys y broses hir o osod y ffigwr hwn, oedd wedi dechrau ym mis Medi 2024, a'r blaenoriaethau plismona - gan gynnwys mynd i'r afael â masnachu cyffuriau a cham-drin domestig. Soniodd y Comisiynydd hefyd am y risgiau a'r gwasgfeydd ariannol gan gynnwys dyfarniadau cyflog, cynnydd yng nghyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr, a chwyddiant ymhlith ffactorau eraill. Mae'r cynllun ariannol canol tymor yn tybio bydd cynnydd o rhwng 5% a 5.75% yn y ddwy flynedd ddilynol, a dywedodd y Comisiynydd ei fod yn obeithiol y byddai'r papur gwyn plismona a ddisgwylir yn fuan yn arwain at setliadau tair blynedd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |