Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|||||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|||||
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y :- Dogfennau ychwanegol: |
|||||
24 MAI 2024 (heb gworwm) PDF 76 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 24 Mai 2024 yn gofnod cywir. |
|||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gofynnwyd am i'r cofnodion gyfeirio at y sylwadau a wnaed gan yr aelodau ynghylch bod y Pwyllgor yn ddiolchgar am gyfraniad rhagorol Mrs Linda Rees-Jones i waith y Pwyllgor Safonau yn dilyn ei hymddeoliad diweddar fel Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith, a bod llythyr o ddiolch yn cael ei anfon at Mrs Rees-Jones i fynegi'r teimladau hynny.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar gynnwys yr uchod, lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2024 gan eu bod yn gofnod cywir. |
|||||
ADOLYGU COFNOD O GAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.
Mewn perthynas â cham gweithredu DPSC-221, mynegodd y Pwyllgor y farn y dylid addasu'r hyfforddiant gloywi ynghylch y côd ymddygiad i sicrhau ei fod yn berthnasol i Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned a'i gynnig i bob Cynghorydd yn flynyddol drwy sesiwn o bell. Cadarnhawyd i'r aelodau y byddai'r hyfforddiant yn cael ei recordio er mwyn galluogi'r rhai nad ydynt yn bresennol i gael mynediad i'r cwrs ar-lein yn eu hamser eu hunain, ynghyd â chopïau o'r deunyddiau hyfforddiant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||
CYFARFOD AG ARWEINWYR GRWPIAU GWLEIDYDDOL PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn dilyn cofnod 4 o gyfarfod y Pwyllgor Safonau ar 22 Ebrill 2024, croesawodd y Cadeirydd Arweinydd y Gr?p Annibynnol i'r cyfarfod.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yn briodol adroddiad blynyddol Arweinydd y Gr?p Annibynnol yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a chafodd gyflwyniad gan y Cynghorydd Tremlett yn unol â'r canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi y dylai Arweinwyr Grwpiau gwrdd â'r Pwyllgor Safonau cyfan ar ddechrau pob blwyddyn i drafod:
O ran Hyfforddiant Côd Ymddygiad, awgrymodd Arweinydd y Gr?p Annibynnol y gallai Arweinwyr Grwpiau dynnu sylw aelodau gr?p at bwysigrwydd sesiynau hyfforddiant perthnasol er mwyn hwyluso'r lefel uchaf posibl o bresenoldeb mewn digwyddiadau datblygu. Ychwanegodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai gwahoddiadau'n cael eu hanfon yn uniongyrchol at yr holl aelodau hefyd er mwyn sicrhau bod aelodau heb gysylltiad pleidiol yn cael eu cynnwys hefyd.
Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod 10 aelod o'r Gr?p Annibynnol wedi mynychu'r sesiwn Hyfforddiant Sefydlu a Datblygu ar Gydymffurfiaeth, Cydraddoldeb a Safonau a'r Côd Ymddygiad yn dilyn etholiad 2022. Ers y sesiwn hyfforddiant honno, roedd aelod ychwanegol wedi ymuno â'r Gr?p Annibynnol.
Cyfeiriwyd at yr astudiaethau achos ynghylch canlyniad ymchwiliadau i gwynion a oedd wedi'u gwneud yn erbyn aelodau etholedig ledled Cymru, pa un a oeddent yn dilyn gwrandawiadau Pwyllgor Safonau neu wrandawiadau Panel Dyfarnu Cymru. Yn hyn o beth, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai Arweinwyr Grwpiau yn cael dolen i Agenda'r Pwyllgor Safonau pan fyddai astudiaethau achos yn cael eu hystyried i'w dosbarthu i'w haelodau wedi hynny, yn unol â'r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 22 Ebrill 2024.
Ar gais y Pwyllgor, darparodd Arweinydd y Gr?p Annibynnol grynodeb o'r trefniadau cydweithio ymhlith yr Arweinwyr Grwpiau ac fel rhan o drefniant y glymblaid yn y Cyngor.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn bod yr adroddiad blynyddol a gyflwynwyd gan Arweinydd y Gr?p Annibynnol yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. |
|||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ANGELA CAROL HUGHES PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan y Cynghorydd Cymuned Angela Carol Hughes am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch Prosiect Peilonau Tywi Wysg - Bute Energy/Green Gen Cymru. Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Hughes fuddiant personol a rhagfarnol yn y mater hwn gan ei bod yn byw ac yn ffermio ger llwybr arfaethedig y peilonau.
Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Hughes wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Rheoliad 2(2)(ch) – mae natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a;
Rheoliad 2(2)(dd) – mae cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Hughes, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(ch) a 2(2)(dd) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Angela Carol Hughes siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch y cynigion ar gyfer cadwyn o beilonau trydan yn y sir (Prosiect Peilonau Tywi Wysg - Bute Energy/Green Gen) a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol. |
|||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD WENDY HERON PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan y Cynghorydd Cymuned Wendy Heron am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Henllanfallteg ynghylch materion cyffredinol yn ymwneud â Chymdeithas Gymunedol a Neuadd Bentref Henllanfallteg. Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Heron fuddiant personol a rhagfarnol mewn cais am grant gan Neuadd Gymunedol Henllanfallteg gan ei bod yn aelod o Bwyllgor y Neuadd.
Rhoddwyd gwybod i'r cyfarfod bod y Cynghorydd Heron wedi gwneud cais am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Rheoliad 2(2)(ch) – mae natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal;
Rheoliad 2(2)(d) - mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd;
Rheoliad 2(2)(dd) - mae cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod; a
Rheoliad 2(2)(f) - mae'r busnes sydd i'w ystyried yn berthnasol i arian neu eiddo corff gwirfoddol y mae'r aelod yn aelod o'i bwyllgor neu ei fwrdd rheoli ac nad oes gan yr aelod unrhyw fuddiant arall yn y busnes.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol na ellid ystyried y sail sy'n ymwneud â Rheoliad 2(2)(d) fel ffaith. Hefyd, atgoffwyd y Pwyllgor y byddai'r sail sy'n ymwneud â Rheoliad 2(2)(f) yn atal y Pwyllgor rhag rhoi gollyngiad i bleidleisio.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Heron, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(ch) a 2(2)(dd) a 2(2)(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Wendy Heron siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Henllanfallteg ynghylch materion yn ymwneud â Chymdeithas Gymunedol a Neuadd Bentref Henllanfallteg a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol . |
|||||
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD SARAH JANE THOMAS PDF 109 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan y Cynghorydd Cymuned Sarah Jayne Thomas am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a gwneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanfynydd ynghylch Prosiect Peilonau Tywi-Wysg - Bute Energy/Green Gen Cymru. Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol a rhagfarnol yn y busnes hwn gan ei bod yn berchen ar dir y bwriedir gosod y peilonau arno.
Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, er bod y Cynghorydd Thomas wedi gwneud cais am y gollyngiad yn rhinwedd Rheoliad 2(2)(d) (mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod ac i gyfran arwyddocaol o'r cyhoedd), ystyriwyd y byddai'r seiliau canlynol yn fwy priodol:
Rheoliad 2(2)(ch) – mae natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal a;
Rheoliad 2(2)(dd) - mae cyfiawnhad i'r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Thomas, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d) a 2(2)(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Sarah Jayne Thomas siarad a gwneud sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llanfynydd ynghylch y cynigion ar gyfer cadwyn o beilonau trydan yn y sir (Prosiect Peilonau Tywi Wysg - Bute Energy/Green Gen) a byddai'r gollyngiad yn ddilys hyd at ddiwedd y tymor etholiadol presennol. |
|||||
HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED - 2024 PDF 108 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad am y sesiwn hyfforddiant ynghylch y côd ymddygiad a gynhaliwyd i gynghorwyr Tref a Chymuned ar 28 Mehefin 2024. Yn unol â phenderfyniadau blaenorol y pwyllgor, dim ond 1 sesiwn a gynhaliwyd, a hynny o bell trwy Zoom, a'i chyflwyno gan swyddogion yn yr adran Gyfreithiol.
Nododd cyfanswm o 53 o bobl fwriad i fod yn bresennol yn y sesiwn a gellid nodi bod 34 ohonynt wedi gwneud hynny. Nodwyd bod y sesiwn wedi'i recordio, a bod y ddolen wedi cael ei darparu i bob cyngor ynghyd â chopïau o'r deunyddiau hyfforddiant a oedd yn galluogi cynghorwyr nad oeddent yn gallu bod yn bresennol yn y sesiwn i'w gwylio yn eu hamser eu hunain.
Diolchodd y Pwyllgor i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a'i gydweithwyr am ddarparu cwrs hyfforddiant proffesiynol, diddorol a llawn gwybodaeth.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad. |
|||||
DATA CÔD YMDDYGIAD 2023-2024 PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch yr ymarfer blynyddol a gynhaliwyd rhwng Mai a Gorffennaf 2024 i gasglu data cydymffurfio â'r côd gan Gynghorau Tref a Chymuned.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod cyfanswm o 66 o ymatebion wedi dod i law gan y 72 cyngor y gofynnwyd iddynt ddarparu data. Hefyd, dywedwyd bod nifer fach o gynghorau wedi cael trafferth gyda meddalwedd yr arolwg ond nid oedd yn ymddangos bod hyn yn broblem i'r mwyafrif.
Adolygodd y Pwyllgor y dadansoddiad manwl o'r ymatebion i'r arolwg, ynghyd â data perthnasol arall ynghylch y côd ymddygiad ar gyfer y cyfnod adrodd mewn perthynas â chwynion, ceisiadau am ollyngiad, datganiadau o fuddiant, cynlluniau hyfforddiant a hyfforddiant ynghylch y Côd Ymddygiad. Yn hyn o beth, dywedwyd er bod nifer y cwynion wedi cynyddu, nad oedd yr un wedi arwain at gymryd camau ffurfiol yn erbyn y Cynghorwyr dan sylw.
At ei gilydd, awgrymodd y data sydd ar gael fod gan gynghorwyr Tref a Chymuned yn y Sir ymwybyddiaeth dda o'r côd ymddygiad ac yn gyffredinol yn cydymffurfio â'r darpariaethau ynddo.
Cadarnhaodd aelodau'r pwyllgor i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol eu bod yn fodlon ar y modd yr oedd y wybodaeth yn yr adroddiad wedi cael ei chyflwyno gan ei bod yn glir ac yn gynhwysfawr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Data Côd Ymddygiad a gasglwyd mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned. |
|||||
ADOLYGIAD O'R POLISI DATGELU CAMARFER PDF 119 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â gofynion Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1988, adolygodd y Pwyllgor Bolisi Datgelu Camarfer y Cyngor a oedd yn ceisio codi ymwybyddiaeth a hwyluso datgeliadau gwarchodedig. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd unrhyw newidiadau sylweddol yn angenrheidiol gan na fu unrhyw ddatblygiadau mewn deddfwriaeth, cyfraith achosion na chanllawiau a oedd yn golygu bod angen unrhyw ddiwygiad, ond gofynnwyd am awdurdod i swyddogion ddiweddaru enwau a manylion cyswllt unigolion yn ôl yr angen.
Nodwyd, yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, bod cyfanswm o 2 g?yn datgelu camarfer wedi dod i law a'u bod yn dal i fod yn destun ymchwiliad. Yn hyn o beth, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'r amserlenni ar gyfer ymchwilio i faterion yn amrywio yn ôl natur a chymhlethdod y pryderon a godwyd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
|
|||||
ADOLYGIAD O WEITHDREFNAU GWRANDAWIADAU DISGYBLU PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adolygodd y Pwyllgor ei weithdrefn ffurfiol ar gyfer cynnal achos disgyblu yn erbyn cynghorwyr pe bai adroddiad yn cael ei dderbyn gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Mabwysiadwyd y weithdrefn i ddechrau ym mis Mehefin 2022 a gwnaed diwygiadau gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2023 [gweler cofnod 5] i adlewyrchu'r profiad a gafwyd wrth gynnal dau wrandawiad yn 2023. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor nad oedd angen unrhyw newidiadau pellach ar hyn o bryd.
Eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, mewn ymateb i ymholiad, fod y Cyngor wedi defnyddio'r wybodaeth gyswllt a ddarparwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i hysbysu a chysylltu â Chynghorwyr a mynychwyr perthnasol mewn perthynas â gwrandawiadau disgyblu. Cadarnhawyd ymhellach yr eid ar drywydd y mater o bryd i'w gilydd mewn achosion lle nad oedd yr ohebiaeth wedi'i chydnabod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r weithdrefn ffurfiol ar gyfer gwrandawiadau achos disgyblu ynghylch y Côd Ymddygiad yn erbyn cynghorwyr pe bai adroddiad yn cael ei dderbyn gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. |
|||||
PENDERFYNIADAU DIWEDDAR Y PANEL DYFARNU A'R OMBWDSMON PDF 116 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi canfyddiadau Panel Dyfarnu Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â chwynion a gyhoeddwyd o ran y côd ymddygiad. Roedd y wybodaeth yn rhoi pwyntiau dysgu i'r Pwyllgor wrth roi'r côd ar waith a darparu hyfforddiant i gynghorwyr.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||
FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU CYMRU GYFAN PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor gopi o gofnodion cyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Cymru gyfan ar 29 Ionawr 2024. Roedd y Fforwm yn gyfle i Gadeiryddion Pwyllgorau Safonau rannu arferion gorau a thrafod materion sy'n peri pryder iddynt.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion Fforwm Pwyllgorau Safonau Cymru Gyfan a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2024. |
|||||
UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd dim materion brys i'w trafod. |