Agenda a chofnodion drafft

Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mercher, 8fed Ionawr, 2025 2.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Nodyn: Changed from 14th January & 6th Dec at Pensions request 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 29 HYDREF 2024 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.5 – Y Gofrestr Risg - Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mai.

 

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir.

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWED AR 11 TACHWEDD 2024 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau a ystyriwyd gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 11 Tachwedd 2024, fel y nodwyd yng nghofnodion 4.1- 4.9 isod, er mwyn eu hystyried a gwneud sylwadau arnynt.

 

4.1

ADRODDIAD BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad gan y Cadeirydd Annibynnol, oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf o gyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 29 Hydref 2024 a nodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Pensiwn ar 11 Tachwedd, 2024, roedd yr eitemau a drafodwyd yn cynnwys: 

 

·       Monitro'r Gyllideb;

·       Diweddariad Gweinyddu Pensiynau;

·       Perfformiad Buddsoddi;

·       Y Gofrestr Risg;

·       Cynllun Hyfforddi;

·       Adroddiad Ymgysylltu Robeco;

·       Adroddiad Buddsoddi Bute;

·       Adroddiad yr Ymgynghorydd Annibynnol.

 

CYTUNWYD bod Adroddiad Bwrdd Pensiwn Cronfa Bensiwn Dyfed, 11  Tachwedd, yn cael ei nodi.

 

4.2

ADRODDIAD BLYNYDDOL A CHYFRIFON AC ARCHWILIAD O ADRODDIAD DATGANNIADAU ARIANNOL CRONFA PENSIWN DYFED 2023-24 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-2024. Nodwyd bod asedau net y Gronfa wedi bod yn cynyddu'n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan dyfu o £2.378m yn 2020 i £3,468m yn 2024, cynnydd o 45%.

 

Nododd y Bwrdd fod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cytuno ar strategaethau, amcanion a pholisïau tymor hir y Gronfa. Roedd y dogfennau polisi yn cwmpasu llywodraethu, risg, cyllido, buddsoddi, gweinyddu a chyfathrebu.

 

Diolchodd Aelodau'r Bwrdd y staff am eu gwaith caled wrth ddarparu adroddiad cynhwysfawr.

 

Derbyniodd y Bwrdd yr Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2023-2024. Nodwyd mai'r Archwilydd Cyffredinol sy'n gyfrifol am roi barn ynghylch a yw datganiadau ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed yn olwg gywir a theg ar ei sefyllfa ariannol ar 31 Mawrth 2024, a'i hincwm a'i gwariant yn ystod y flwyddyn honno. Roedd adroddiad archwilio diamod ynghylch y datganiadau ariannol wedi'i gyhoeddi ac roedd yr adroddiad terfynol wedi cael ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Medi 2024.

 

Nid oedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod o hyd i unrhyw gamddatganiadau wedi'u nodi yn y datganiadau ariannol na materion arwyddocaol i'w hadrodd, a oedd yn dal heb eu cywiro. Roedd nifer o fân wallau cyflwyno yn y datganiadau ariannol drafft wedi'u cywiro gan y rheolwyr.

 

CYTUNWYD derbyn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2023-2024 a'r Adroddiad ynghylch yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol 2023-2024.

 

4.3

MONITRO'R GYLLIDEB A'R SEFYLLFA O RAN ARIAN PAROD AR 30 MEDI 2024 pdf eicon PDF 46 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb  fel yr oedd ar 30 Medi 2024.  Cafodd y Pwyllgor wybod am orwariant o'i gymharu â chyllideb o £55k.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y sefyllfa ariannol ar 30 Medi, 2024 yn nodi bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.9m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

CYTUNWYD bod adroddiad Monitro'r Gyllideb a'r sefyllfa arian parod fel yr oedd ar 30 Medi 2024, yn cael ei nodi. 

 

4.4

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 45 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Weinyddu Pensiynau. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Pensiynau y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau a oedd yn cynnwys materion rheoleiddio, cyflogwr newydd, y gofrestr torri amodau, i-Connect, cysoni'r Isafswm Pensiwn Gwarantedig a llif gwaith.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Rheolwr Pensiynau fod amserlen gyfreithiol o ran cyflwyno'r dangosfwrdd pensiwn ac roedd yr Awdurdod ar y trywydd iawn i fynd yn fyw ym mis Hydref 2025.

 

·       Dywedodd y Rheolwr Pensiynau wrth y Bwrdd y byddai'r Awdurdod yn parhau i gysoni'r ffigyrau Isafswm Pensiwn Gwarantedig sydd ganddo ar gyfer yr aelodau â'r rhai a gyfrifwyd gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Byddai hyn yn sicrhau bod yr holl unigolion a gofnodwyd gan Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi yn erbyn y Gronfa yn gywir.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Gweinyddu Pensiynau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

4.5

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 48 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Roedd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed wedi cael ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oedd achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·   na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

 

·   bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

 

Nododd y Bwrdd fod y mater ynghylch derbyn cyfraniadau

 

cyflogai/cyflogwr yn hwyr, y tynnwyd sylw ato yn yr adroddiad, wedi'i ddatrys yn llwyddiannus ers ei gyhoeddi.

 

CYTUNWYD bod yr Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed yn cael ei nodi. 

 

4.6

CYNLLUN HYFFORDDI 2024-2025 pdf eicon PDF 38 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024-2025, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion yr oedd disgwyl iddynt fynychu’r digwyddiadau.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Hyfforddi Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2024/25 yn cael ei nodi.

 

4.7

ADRODDIAD ARCHWILIO MEWNOL - LLYWODRAETHU A BUDDSODDIADAU CRONFA BENSIWN DYFED pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Archwilio Mewnol – Llywodraethu a Buddsoddiadau Cronfa Bensiwn Dyfed, sy'n nodi'r farn gyffredinol, graddau sicrwydd, crynodeb o argymhellion a'r canfyddiadau a'r cynllun gweithredu allweddol.

 

Nododd yr adroddiad un mater bach yn ymwneud â gwall wrth gysoni. Datryswyd y mater hwn ar unwaith ar ôl cwblhau'r archwiliad gyda rheolaeth ychwanegol ar waith.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

4.8

DIWEDDARIAD CYD-BWYLLGOR LLYWODRAETHU PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru gan gynnwys gwaith sydd wedi'i gwblhau ers cyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a chamau nesaf/blaenoriaethau Partneriaeth Pensiwn Cymru. 

 

Codwyd ac ymatebwyd i'r sylwadau/ymholiadau canlynol:-

 

·        Dywedodd Rheolwr Buddsoddi'r Trysorlys a Phensiynau, mewn ymateb i ymholiad, fod gan Gronfa Bensiwn Clwyd lai o asedau wedi'u cronni na chronfeydd eraill, oherwydd bod ganddynt gyfran uchel o fuddsoddiadau'r farchnad breifat sy'n gostus ac yn anodd eu dadfuddsoddi.

 

CYTUNWYD bod adroddiad diweddaru Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael ei nodi.  

 

4.9

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR PENSIWN 11 TACHWEDD 2024 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.

YMATEB Y PWYLLGOR PENSIWN I BENDERFYNIAD Y BWRDD PENSIWN MEWN PERTHYNAS Â CHWMNÏAU'R BUTE GROUP pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y Bwrdd yr ymateb gan y Pwyllgor Pensiwn, fel y'i cynhwyswyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â phenderfyniad y Bwrdd Pensiwn a basiwyd ar 14 Mai 2024.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol nad oedd gan y Gronfa unrhyw fecanwaith i adael y buddsoddiad, bod rhwymedigaeth gytundebol ar y Gronfa i dalu galwadau cyfalaf wrth iddynt ddod yn ddyledus a bod y buddsoddiad wedi'i gyfyngu i'r ffermydd gwynt heb fod unrhyw ran gan y Gronfa yn seilwaith cysylltiad y grid.

 

Diolchodd aelodau'r bwrdd i'r Pwyllgor am yr adroddiad manwl.

 

Cytunwyd i dderbyn Ymateb y Pwyllgor Pensiwn i Benderfyniad y Bwrdd Pensiwn mewn perthynas â Chwmnïau'r Bute Group.

 

 

6.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2024 - 31 RHAGFYR 2024 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiwn fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2024. Cyfanswm y gwariant gwirioneddol oedd £17.5k.  Y gwariant a ragwelwyd ar gyfer y flwyddyn oedd £3k o danwariant o gymharu â'r gyllideb.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi. 

 

7.

CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 2025-26 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i'r Gyllideb ar gyfer 2025-26 a oedd yn unol â'r gyllideb ar gyfer 2024-25.

 

Nodir bod cyllideb ar gael ar gyfer hyfforddiant a theithio.

 

CYTUNWYD bod y Gyllideb ar gyfer 2025-26 yn cael ei chymeradwyo. 

 

 

8.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2025 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2025 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiwn drwy gydol 2025 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod.

 

Nodwyd bod dau o ddyddiadau'r Pwyllgor Pensiwn wedi'u newid ers i bapurau'r cyfarfod gael eu cyhoeddi, fodd bynnag, roedd dyddiadau'r Bwrdd Pensiwn yn aros yr un peth ag yr oeddent pan y'u cyhoeddwyd.

 

Cytunwyd y byddai'r Bwrdd Pensiwn yn cael briff ar yr oblygiadau i'r Gronfa o ran yr ymgynghoriad presennol ar fuddsoddiadau pensiwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn benodol mewn perthynas â buddsoddiadau lleol.

 

CYTUNWYD bod Cynllun Gwaith y Bwrdd Pensiwn ar gyfer 2025 yn cael ei nodi. 

 

9.

COFNOD CAMAU GWEITHREDU Y BWRDD PENSIWN pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gofnod Camau Gweithredu'r Bwrdd Pensiwn a oedd yn cynnwys manylion am y camau gweithredu a'r diweddariadau a gyflwynwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.

 

Nododd y Bwrdd fod y cofnod yn cael ei adolygu ym mhob cyfarfod o'r Bwrdd a'i ddiweddaru yn ôl yr angen. Yn dilyn cais mewn cyfarfod blaenorol, roedd llinell amser wedi'i chynnwys, a oedd yn caniatáu i aelodau olrhain cynnydd dyddiadau cau pwysig yn hawdd.

 

PENDERFYNWYD nodi Cofnod Camau Gweithredu y Bwrdd Pensiwn. 

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

11.

ADRODDIAD YMGYSYLLTU ROBECO 1 EBRILL 2024 - 30 MEHEFIN 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Ymgysylltu Robeco am y cyfnod 1 Ebrill 2024 – 30 Mehefin 2024 a oedd yn darparu ystadegau manwl mewn perthynas â gweithgareddau ymgysylltu, ynghyd â detholiad o astudiaethau achos o ymgysylltu.

 

CYTUNWYD bod Adroddiad Ymgysylltu Robeco 1 Ebrill 2024 - 30 Mehefin 2024 yn cael ei nodi.

 

12.

ADOLYGIAD BENTHYCA GWARANNAU BYD-EANG HYD AR 30 MEHEFIN 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adolygiad Benthyca Gwarannau Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed ar 30 Mehefin, 2024. Roedd adroddiad Ch2 2024 yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

·       Benthyca Gwarannau: Ch 2 Y Galw

·       Crynodeb o Fenthyca Gwarannau: Ch2 2024 vs Ch1 2024

·        Asedau Benthyciadwy, Cyfartaledd ar Fenthyciad a Refeniw Net Ch2 2024

·       Dadansoddiad Refeniw: Ch2 2024

·       Dadansoddiad Benthyca: Ch2 2024

·       Meincnodi Perfformiad Northern Trust

 

CYTUNWYD bod adroddiad Benthyca Gwarannau Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Mehefin 2024 yn cael ei nodi.

 

 

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y Rheolwr Buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30  Medi 2024. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys cefndir y farchnad fyd-eang a materion i'r bwrdd pensiwn eu hystyried.

 

CYTUNWYD bod adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi, 2024 yn cael ei nodi.

 

14.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn cael effaith andwyol ar y Gronfa Bensiwn drwy beryglu perfformiad buddsoddi.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Perfformiad Northern Trust a oedd yn nodi perfformiad Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi, 2024. Roedd yr adroddiad yn darparu dadansoddiad perfformiad ar lefel cronfa gyfan a chan y Rheolwr Buddsoddi am y cyfnodau ers y cychwyn.

 

CYTUNWYD bod Adroddiad Perfformiad Northern Trust fel yr oedd ar 30 Medi, 2024 yn cael ei nodi.

 

15.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 30 MEDI 2024

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi a oedd yn nodi perfformiad pob rheolwr fel yr oedd ar 30 Medi 2024.

 

·       BlackRock - Adroddiad Chwarterol 30 Medi 2024;

·       Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch3 2024;

·       Partners Group - Adroddiad Chwarterol Ch3 2024;

·       Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024;

·       Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024;

·       Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy Partneriaeth Pensiwn Cymru - 30 Medi 2024.

 

CYTUNWYD bod adroddiadau'r Rheolwr Buddsoddi fel yr oedd ar 30 Medi, 2024 yn cael eu nodi.