Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu B - Dydd Iau, 8fed Mehefin, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - BISTRO ON THE BAY, UNED 4, CANOLFAN PARRY THOMAS, PENTYWYN, SA33 4NZ. pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a oedd wedi'i gynnal i ystyried cais gan Mr Robert Rea am drwydded safle ar gyfer Bistro ar y Bae, Uned 4 Canolfan Parry Thomas, Pentywyn fel a ganlyn:-

 

Cais i ganiatáu:-

 

Cyflenwi alcohol a cherddoriaeth fyw, dydd Llun i ddydd Sadwrn 11:00–23:00 a dydd Sul 11:00-22:30.

 

Oriau Agor - dydd Llun i ddydd Sadwrn 08:00–23:30 a dydd Sul 08:00-22:30.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

·       Atodiad A – Copi o'r cais;

·       Atodiad B – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu, ynghyd â gwybodaeth bellach a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, gan gynnwys cytuno ar yr holl amodau a nodwyd yn sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

·       Atodiad C - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd y wybodaeth atodol ganlynol hefyd wedi cael ei dosbarthu i bob parti oedd yn bresennol yn y cyfarfod:-

 

·       Copi o gynllun yn manylu ar y cyfleusterau toiledau sydd ar gael yng nghyffiniau Bistro ar y Bae, Uned 4 Canolfan Parry Thomas, Pentywyn.

 

Nodwyd nad oedd unrhyw sylwadau wedi cael eu cyflwyno gan yr Awdurdodau Cyfrifol eraill mewn perthynas â'r cais.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad, a dywedodd nad oedd unrhyw erlyniadau na chamau gorfodi blaenorol wedi'u cymryd gan yr Awdurdod Trwyddedu a hefyd nad oedd unrhyw gwynion wedi dod i law mewn perthynas â'r safle dan sylw yn y cais.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at yr amodau awgrymedig a gynigiwyd mewn perthynas â threfniadau teledu cylch cyfyng, a'r ffaith bod yr ymgeisydd wedi cytuno arnynt. Dywedodd, os oedd yr Is-bwyllgor am ganiatáu'r cais, yr ystyriwyd ei bod yn briodol i'r amodau hynny fod ynghlwm wrth y drwydded.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y gwrthwynebydd yn bresennol yn y cyfarfod i annerch y Pwyllgor, ond bod ei sylwadau ysgrifenedig wedi'u cynnwys yn Atodiad C yr adroddiad. 

 

Cafodd yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Mrs Rea, cyd-lesddeiliad y safle, i gefnogi'r cais ac mewn ymateb i sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu a'r materion a oedd wedi’u codi gan y gwrthwynebydd, fel y nodwyd yn Atodiad C yr adroddiad. 

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a'r Swyddfa Gartref:-

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais am drwydded safle ar gyfer Bistro ar y Bae, Uned 4 Canolfan Parry Thomas, Pentywyn, yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol â'r amodau trwyddedu yr oedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Trwyddedu wedi cytuno  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.