Agenda

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 11eg Medi, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

5.

LLOFNODI YN GOFNODION CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 10 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

ADOLYGIAD O DDOSBARTHAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO 2023/2024 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

ADOLYGIAD CYMUNEDOL DEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) (CYMRU) 2013 ("Y DDEDDF") pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

PENODI AELOD ANNIBYNNOL CYFETHOLEDIG NEWYDD I'R PWYLLGOR SAFONAU pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

AELODAETH PWYLLGORAU CRAFFU, PWYLLGORAU RHEOLEIDDIO A PHWYLLGORAU ERAILL Y CYNGOR A PHENODI AELODAU I WASANAETHU ARNYNT pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

10.1

CYTUNDEBAU PARC Y SCARLETS pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

10.2

CANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL DRAFFT CYNLLUN DATBLYGU LLEOL pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR 29 GORFFENNAF 2024 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

12.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

12.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR KEVIN MADGE A TINA HIGGINS

“Mae'r cynnig hwn yn galw ar y Cabinet i ddod â Neuadd y Gweithwyr yn y Garnant i berchnogaeth gyhoeddus, ac yna dymchwel yr adeilad gan ddefnyddio'r tir ar gyfer fflatiau neu dai gwarchod gofal ychwanegol i bobl leol.

 

Yr adeilad hwn yw'r dolur llygad mwyaf yn Nyffryn Aman a'r perygl tân mwyaf, ac mae'n beryglus i gymdogion a thrigolion lleol.

 

Unwaith eto, mae pobl ifanc yn peryglu eu bywydau ac wedi torri i mewn i'r adeilad sawl gwaith. 

 

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae ceisio datrys y broblem hon wedi bod fel gêm o ping pong, wrth i'r mater fynd nôl ac ymlaen rhwng y Cyngor a'r perchnogion, gan gostio miloedd o bunnoedd i'r trethdalwyr”.

Dogfennau ychwanegol:

12.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ALED VAUGHAN OWEN A MEINIR JAMES

Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy'n ceisio sicrhau bod cynhyrchwyr mewn gwledydd sy'n datblygu yn cael pris teg am eu nwyddau, yn gweithio o dan amodau diogel, ac yn arddel arferion amgylcheddol gynaliadwy. Drwy gadw at safonau Masnach Deg, gall ffermwyr a gweithwyr fuddsoddi yn eu cymunedau, gwella eu bywoliaeth, a chreu dyfodol mwy diogel. Mae Masnach Deg hefyd yn galluogi defnyddwyr i wneud dewisiadau prynu moesegol sy'n cefnogi cysylltiadau masnach cyfiawn ac i gyfrannu at y frwydr yn erbyn tlodi ac anghyfiawnder byd-eang.

 

Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

 

  1. Ymrwymiad hirdymor Cyngor Sir Caerfyrddin i'r ymgyrch Masnach Deg, sydd wedi bod yn allweddol wrth hyrwyddo arferion masnachu teg a moesegol yn ein cymuned.
  2. Pwysigrwydd a llwyddiant trefi Masnach Deg yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys llawer iawn o ysgolion ac addoldai, sydd wedi cyfrannu'n sylweddol at gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogaeth i egwyddorion Masnach Deg ymhlith ein trigolion. 

 

Penderfyniad y Cyngor hwn yw:

 

  1. Ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi Masnach Deg a'r ymgyrch Masnach Deg yn Sir Gaerfyrddin.
  2. Cydnabod a dathlu cyflawniadau trefi Masnach Deg yn ein sir, sydd wedi bod yn ganolog wrth eiriol dros Fasnach Deg a phrynwriaeth foesegol.
  3. Cefnogi Pwyllgor Llywio Masnach Deg, i oruchwylio a chydlynu gweithgareddau a mentrau Masnach Deg ar draws Sir Gaerfyrddin.
  4. Penodi Aelod Cabinet yn Hyrwyddwr Masnach Deg, a fydd yn mynd ati i hyrwyddo ac eiriol dros egwyddorion a mentrau Masnach Deg o fewn y Cyngor a'r gymuned ehangach.

 

Drwy basio'r cynnig hwn, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn atgyfnerthu ei ymrwymiad i fasnach foesegol, yn cefnogi llesiant cymunedau yn lleol ac yn fyd-eang, ac yn parhau i arwain drwy esiampl wrth hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd drwy'r mudiad Masnach Deg.

 

Dogfennau ychwanegol:

12.3

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR HEFIN JONES AND LINDA DAVIES EVANS

“Mae'r cyngor hwn yn gresynu at ac yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar y lwfans tanwydd gaeaf i bensiynwyr wythnosau'n unig cyn dechrau'r gaeaf.

 

Mae'r awdurdod hwn eisoes wedi bod yn gweithio i estyn allan a threfnu dull amlasiantaeth sy'n sicrhau bod preswylwyr sy'n gymwys yn cael y cymorth mae ganddynt hawl iddo. Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw a'r costau ynni cynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, gwnaed gwaith helaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin i gefnogi prosiectau sy'n darparu mannau cynnes ac i sicrhau bod adeiladau cyhoeddus yn cynnig darpariaeth o'r fath.

 

Yn anffodus, mewn awdurdod lle nad yw cyfran sylweddol o'r eiddo ar y grid nwy, bydd effaith penderfyniad llywodraeth y DU i'w theimlo hyd yn oed yn fwy gan henoed Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r cyngor hwn yn galw ar y Canghellor a Llywodraeth y DU i ailystyried y strategaeth hon, i oedi cyn gwaredu'r cymorth ar gyfer gaeaf 2024-2025, ac i lunio cynllun cymorth ar gyfer gaeaf 2025-2026 sy'n ddigon hyblyg i ymateb yn deg lle bo angen ymyrryd yn sefyllfaoedd preswylwyr.”

Dogfennau ychwanegol:

13.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

13.1

MS TARA-JANE SUTCLIFFE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

“Gydag ychydig dros chwe mis yn weddill tan y dyddiad cau estynedig, sef 31 Mawrth 2025 ar gyfer tynnu i lawr y £17.6m llawn gan Lywodraeth Ganolog y DU, pa gynnydd mewn perthynas â'r amserlen mae'r Cyngor wedi'i wneud o ran adeiladu Llwybr Beicio Dyffryn Tywi, a yw'r holl bryniannau gorfodol bellach wedi'u cwblhau, a beth yw amcangyfrif diweddaraf y gost sy'n weddill, a ysgwyddir yn lleol, ar gyfer gwaith a gyflawnir ar ôl y dyddiad hwn?"

Dogfennau ychwanegol:

14.

DEISEB

Noder: Er mwyn cael eu hystyried mewn cyfarfod ffurfiol rhaid i bob deiseb gynnwys 50 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer copïau papur a 300 o lofnodion etholwyr cofrestredig ar gyfer e-ddeisebau. Mae cyfanswm Llofnodion Etholiadol Sir Gaerfyrddin hyd at y trothwy o 300 wedi'u dilysu. Nid ydym wedi gwirio'r llofnodion wedi hynny.

 

 

Rydym ni, y sawl sydd wedi llofnodi, yn deisebu Cyngor Sir Caerfyrddin i gael gwared â chynlluniau i godi tâl am barcio ar lan y môr yn Llansteffan (yn y maes parcio presennol a'r un newydd arfaethedig ar ochr ogleddol y Grîn).

 

Bydd newid y meysydd parcio ar lan y môr yn Llansteffan o feysydd parcio am ddim i rai sy'n codi tâl yn arwain at ganlyniadau andwyol pellgyrhaeddol a anfwriadol. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn parcio lle bynnag y gallant i osgoi talu. Ar ddiwrnodau prysur ac yn ystod y gwyliau bydd y syniad gwael hwn yn dinistrio stribed flaen y Grîn, yn tagu ffyrdd cyfagos, yn ei gwneud bron yn amhosibl i gerbydau brys deithio ar y stryd fawr, yn rhwystro mynediad i wylwyr y glannau ac yn effeithio'n andwyol ar fusnesau lleol. Gan nad oes unrhyw strategaethau ar waith i liniaru'r canlyniadau anochel hyn, dylid cael gwared â'r cynlluniau ar gyfer talu. Byddai dadansoddiad cost syml o fudd yn profi mai parcio am ddim yn Llansteffan fyddai'r opsiwn tymor hir gwell.

 

Dogfennau ychwanegol:

15.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

15.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD ALUN LENNY - YR AELOD CABINET DROS ADNODDAU

“A all yr Aelod Cabinet roi datganiad ar brynu hen siop Wilko's ym Mharc y Brodyr Llwyd yng Nghaerfyrddin.  Mae miliynau yn mynd i gael eu gwario ar siop Debenhams yn y flwyddyn ariannol nesaf, ond does gennych chi ddim arian i'w fuddsoddi mewn ysgolion yn Rhydaman a Llanelli, na chyllid chwaith ar gyfer theatr y Glowyr yn Rhydaman ac adeiladau eraill sy'n mynd â'u pen iddynt mewn ardaloedd eraill.

 

Rwy'n herio aelodau'r cabinet i ddweud beth yw cost prynu'r hen Wilko's i'r trethdalwyr a phwy wnaeth y penderfyniad i brynu'r siop”.

Dogfennau ychwanegol:

15.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD EDWARD THOMAS - YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU TRAFNIDIAETH, GWASTRAFF A SEILWAITH

A all yr aelod Cabinet nodi'r drefn o ran torri gwair a chwistrellu chwynladdwyr ar briffyrdd yn Nyffryn Aman yr haf hwn?

 

Dogfennau ychwanegol:

16.

CYMARADWYO Y NEWIDIADAU CANLYNOL I AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

16.1

MAE GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD EMLYN SCHIAVONE I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD CARYS JONES AR Y PWYLLGOR CRAFFU ADDUSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG

Dogfennau ychwanegol:

16.2

MAE GRWP PLAID CYMRU WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD DENISE OWEN I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD CARYS JONES AR Y PWYLLGOR CYNLLUNIO

Dogfennau ychwanegol:

16.3

MAE ANNIBYNNOL HEB GYSYLLTIAD WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD STEVE WILLIAMS I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD SEAN REES AR Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG

Dogfennau ychwanegol:

16.4

MAE GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD PHILIP WARLOW I GYMRYD LLE'R CYNGHORYDD PETER COOPER AR Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED

Dogfennau ychwanegol:

17.

ETHOL CADEIRYDD Y PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR

Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-

 

 Y Cynghorydd Emlyn Schiavone - Gr?p Plaid Cymru

 

Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law.

Dogfennau ychwanegol:

18.

ETHOL IS-CADEIRYDD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO YN DILYN SWYDD WAG CANOL TYMOR

Yn unol â Rheol 4 (2) o Weithdrefn y Cyngor mae'r enwebiad canlynol wedi'i gyflwyno i'r Prif Weithredwr :-

 

 Y Cynghorydd Mansel Charles - Gr?p Plaid Cymru

 

Nid oes enwebiadau eraill wedi dod i law.

 

Dogfennau ychwanegol:

19.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

19.1

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R GYMRAEG 27 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.2

PWYLLGOR PENODI 'A' - 2 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.3

PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU, CARTREFI AC ADFYWIO - 8 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.4

PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL - 9 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.5

PWYLLGOR TRWYDDEDU - 11 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.6

PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO - 12 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.7

PWYLLGOR CYNLLUNIO - 18 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.8

PWYLLGOR SAFONAU - 19 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.9

PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANATHAU CYMDEITHASOL - 25 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.10

PWYLLGOR CRAFFU LLE, CYNALIADWYEDD A NEWID YR HINSAWDD - 31 GORFFENNAF 2024

Dogfennau ychwanegol:

19.11

PWYLLGOR CYNLLUNIO - 15 AWST 2024

Dogfennau ychwanegol: