Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 13EG IONAWR 2023 pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 13eg Ionawr, 2023 yn gofnod cywir.

 

3.

Y TÂL SAFONOL AM OFAL PRESWYL GAN YR AWDURDOD LLEOL AM 2023-24. pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

 

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried cynnig mewn adroddiad bod y tâl safonol am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol ar gyfer 2023-24 yn cael ei gynyddu o £718.56 i £840.60 am welyau prif ffrwd ac o £953.60 i £990.85 am welyau dementia. Ar gyfer preswylwyr sy'n cael eu lleoli gan yr awdurdod yng Nghartrefi'r Awdurdod Lleol, dyddiad gweithredu'r cyfraddau newydd fyddai 26 Mehefin 2023 ac ar gyfer preswylwyr sy'n cael eu lleoli yng nghartrefi'r awdurdod gan Awdurdodau Lleol Eraill, daeth y newidiadau i rym ar 10 Ebrill 2023.

 

Nodwyd bod yn rhaid i’r oedolion oedd yn derbyn llety preswyl gyfrannu at gost eu gofal. Os oedd ganddynt adnoddau digonol, roedd yn ofynnol iddynt dalu'r gost lawn am eu llety, sef y Tâl Safonol a gyfrifwyd yn flynyddol ar sail y gost lawn i'r Awdurdod o ddarparu'r llety.

 

PENDERFYNWYD bod y Tâl Safonol am Gartref Gofal Preswyl i Bobl H?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei gynyddu o £718.56 i £840.60 am welyau prif ffrwd ac o £935.60 i £990.85 am welyau dementia.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau