Agenda a Chofnodion

Yr Aelod Cabinet dros Gartrefi a Dirprwy Arweinydd - Dydd Mawrth, 28ain Mawrth, 2023 11.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Julie Owens  01267 224088

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 06 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 75 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 06 Mawrth 2023, gan ei fod yn gywir. 

3.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER MAES YR HUFENFA, DATBLYGIAD NEWYDD CYMDEITHAS TAI WALES & WEST YN SANCLÊR, CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad ar gynigion i gyflwyno Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Wales & West o 45 o breswylfeydd ym Maes yr Hufenfa, Sanclêr. 

 

Roedd cyflwyno'r Polisi Gosodiadau Lleol, yn unol ag adran 167(2E) o Ddeddf Tai 1996, yn addasiad i brif bolisi gosodiadau'r Awdurdod, lle byddai meini prawf ychwanegol yn cael eu pennu i ystyried yr angen presennol am dai a materion lleol. Yn benodol, nod y Polisi Gosodiadau Lleol oedd darparu atebion o ran llety i bobl leol sydd â'r angen mwyaf, i symud pobl ymlaen yn gyflym o lety dros dro ac yn ôl i'w cymuned, a darparu cyfleoedd i weithwyr allweddol a hwyluso'r gwaith o greu cymuned gytbwys a chynaliadwy.

 

Wrth adolygu'r Polisi Gosodiadau Lleol, rhoddwyd trosolwg o'r blaenoriaethau o ran dyrannu i'r Aelod Cabinet, ac eglurwyd y byddai cymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau er mwyn i'r gymuned gynnwys cymysgedd o aelwydydd, ac ni fyddent i gyd yn achosion lle mae angen mawr. Yn hyn o beth, y nod oedd sefydlu cydlyniant cymunedol a chartrefi cynaliadwy ar gyfer y datblygiad newydd, gan ddod â chymuned newydd sbon at ei gilydd. Eglurwyd i'r Aelod Cabinet y byddai'r eiddo'n cael ei ddyrannu, cyn belled ag y bo modd, yn unol â gofynion ymgeiswyr.

 

Byddai'r Polisi Gosodiadau Lleol yn parhau ar waith am gyfnod o chwe mis ar ôl i'r holl dai gael eu gosod, ac yn dilyn hynny byddai adolygiad yn cael ei gynnal gan WWH i benderfynu ar ei effaith ar y gymuned a sicrhau bod nodau'r polisi wedi'u cyflawni.  Byddai'r asesiad hwn yn cael ei ddefnyddio i benderfynu a ddylid ymestyn y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y cartrefi newydd ym Maes yr Hufenfa, datblygiad adeiladu newydd Cymdeithas Tai Wales & West.