Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2022/23 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2022 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2022/23. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2022-23.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·      Dywedodd yRheolwr Marchnata a'r Cyfryngau, wrth ateb ymholiad, fod amseroedd ymateb yn y canolfannau cyswllt cwsmeriaid yn gwella a bod swyddi gwag yn cael eu hysbysebu'n gyson;

·     O ran y diffyg incwm parhaus yn y canolfannau hamdden/chwaraeon o ganlyniad i'r cwymp yn y niferoedd, rhagwelwyd y byddai adferiad graddol;

·     Cyfeiriwyd at y nifer gymharol uchel o swyddi gwag a rhoddwyd sicrwydd i aelodau bod y sefyllfa'n cael ei monitro'n barhaus;

·     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, er bod cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer ysgolion yng nghyllideb 2023/24, yn bennaf er mwyn cynorthwyo ysgolion i alluogi disgyblion i ddal i fyny ar ôl covid, gellid darparu manylion yr ysgolion hynny yr oedd eu cyfrifon mewn diffyg o hyd fel rhan o'r broses o ddatgan cyfrifon;

·     Cydnabuwyd nad oedd modd osgoi'r defnydd o weithwyr asiantaeth mewn rhai meysydd gwasanaeth oherwydd yr anawsterau wrth recriwtio staff, yn enwedig gan fod awdurdodau lleol eraill yn wynebu'r un problemau. Er fod yr awdurdod yn ceisio datblygu ei weithlu ei hun yn y meysydd hyn byddai hynny'n cymryd cryn amser; 

·    Mewn ymateb i ymholiad yn ymwneud â chefnogaeth TGCh ac adfer gweithdrefnau, dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol fod seilwaith cadarn a gwydn ar waith a bod profion rheolaidd yn cael eu cynnal;

·     Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, mewn ymateb i sylw, fod y trafferthion ar ôl Covid yn y sector adeiladu fel petaent yn gwella, a oedd yn newyddion positif o ran y rhaglen gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2022 I RHAGFYR 31AIN 2022 pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Aeth yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ati i gyflwyno'r Adroddiad Chwarterol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a'r Dangosyddion Darbodaeth ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 - 31 Rhagfyr 2022 a oedd yn rhestru gweithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022-2023 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 2 Mawrth 2022.

 

Nid oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 87 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.

 

7.

COFNODION - 30AIN IONAWR 2023 pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau