Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd F. Walters.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION - 8 MEDI 2022 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 8 Medi 2022 gan eu bod yn gywir.

 

4.

ADOLYGIAD O'R GWASANAETH YMHOLIADAU GAN AELODAU pdf eicon PDF 187 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ar ganlyniad adolygiad o broses ymholiadau'r Aelodau, a gynhaliwyd yn dilyn adborth gan Aelodau etholedig, a oedd wedi ymchwilio i weld a oedd y weinyddiaeth a'r gweithdrefnau oedd ar waith yn gweithio'n effeithiol ac a oedd modd gwneud unrhyw welliannau. Yng ngoleuni'r holl dystiolaeth a gasglwyd drwy'r gwaith ymgysylltu helaeth a wnaed fel rhan o'r adolygiad, cynigiwyd 8 o argymhellion fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad i wella proses Ymholiadau'r Aelodau.

 

5.

Y DIWEDDARAF AM RAGLEN SEFYDLU'R AELODAU A'R CYNLLUN BLYNYDDOL pdf eicon PDF 98 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am werthuso'r rhaglen Sefydlu Aelodau ac yn gofyn am farn ynghylch Cynllun Datblygu Blynyddol arfaethedig 2023/2024.

 

Roedd y Rhaglen Sefydlu yn cynnwys cyfanswm o 40 o sesiynau datblygu a oedd wedi'u rhannu yn sesiynau ar gyfer pob aelod, sesiynau penodol ar gyfer aelodau'r Cabinet a rhai ar gyfer aelodau paneli sydd ar bwyllgorau perthnasol. Er mwyn penderfynu a oedd y Rhaglen Sefydlu wedi bod yn effeithiol o ran darparu digon o wybodaeth a dealltwriaeth i aelodau, cynhaliwyd tri gr?p ffocws yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2023 ac anfonwyd arolwg at yr holl aelodau ym mis Chwefror i ofyn am eu hadborth a nodwyd wedyn yn yr adroddiad.

 

Cafodd y sylwadau a wnaed gan yr aelodau yn y grwpiau ffocws a grybwyllwyd uchod, yn ogystal ag ar yr arolwg, eu hystyried a gwnaethant gyfrannu at Gynllun Datblygu Blynyddol 2023-24. Fel rhan o'r Cynllun cynigiwyd y byddai cyflwyno Rhaglen Fentora yn ffurf effeithiol o ddatblygu.

 

Mynegwyd siom ynghylch y niferoedd isel oedd yn bresennol mewn rhai sesiynau sefydlu aelodau. Nodwyd bod yr holl sesiynau ar gael i'w gweld ar-lein. Awgrymodd y Cadeirydd y gallai rhai sesiynau yn y dyfodol fod yn fyrrach o bosibl gyda deunydd ategol yn cael ei ddarparu i'r aelodau ymlaen llaw. Diolchodd i'r holl swyddogion a fu'n rhan o'r gwaith o drefnu'r sesiynau.

 

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r gwerthusiad o'r rhaglen Sefydlu Aelodau a chymeradwyo Cynllun Datblygu Blynyddol arfaethedig 2023/2024.  

 

 

6.

ADRODDIADAU BLYNYDDOL CYNGHORWYR pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo templed ar gyfer Adroddiadau Blynyddol y Cynghorwyr. O dan Fesur Llywodraeth Lleol (Cymru) 2011 rhaid i awdurdodau lleol ddarparu cyfleusterau i Gynghorwyr ar gyfer llunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol, ac i roi cyhoeddusrwydd i’r ffaith fod disgwyl i Gynghorwyr lunio adroddiadau blynyddol ynghylch eu gweithgareddau. Fodd bynnag, nid oedd adroddiadau blynyddol yn orfodol ac roedd yn fater personol i Gynghorwyr p'un a oeddent yn dymuno cyhoeddi Adroddiad Blynyddol.

 

Byddai'r templed adroddiadau, pe bai'n cael ei gymeradwyo, yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod Etholedig. Yna gallai'r Aelodau Etholedig hynny a oedd am lunio Adroddiad Blynyddol gwblhau drafft cychwynnol o'u hadroddiad ar gyfer y cyfnod o 1 Mai y flwyddyn flaenorol tan fis Mai y flwyddyn gyfredol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau templed Adroddiadau Blynyddol y Cynghorwyr o 2023-24 ymlaen.

 

7.

THE JO COX COMMISSION ON CIVILITY pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn crynhoi cynnydd comisiwn Jo Cox Commission on Civility wrth godi ymwybyddiaeth o'r effaith niweidiol y mae'r lefelau presennol o gamdriniaeth a bygwth mewn bywyd gwleidyddol yn ei chael ar unigolion, democratiaeth a chymdeithas.  Lansiwyd y Comisiwn ar 28 Chwefror 2023 ac roedd yn ceisio sbarduno newid yn nemocratiaeth Prydain trwy weithio i ddod o hyd i atebion ymarferol i wneud bywyd yn fwy diogel i gynrychiolwyr gwleidyddol ac ymgeiswyr am swyddi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a bod Cadeirydd Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn anfon llythyr at y Comisiwn yn cadarnhau cefnogaeth y Cyngor a'i barodrwydd i gymryd rhan yn ei waith. 

 

8.

SWYDDOGAETH Y GWASANAETH DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 116 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am sicrhau bod staff, swyddfeydd ac adnoddau eraill ar gael i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau'n ddigonol i gyflawni'r Broses Ddemocrataidd.  

 

Mynegwyd pryderon ynghylch nifer y staff o'r adain Gwasanaethau Democrataidd sy'n ofynnol i gefnogi cyfarfodydd aml-leoliad yn barhaus, yn enwedig gan nad oedd adnoddau ychwanegol wedi'u darparu.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod Llywodraeth Cymru, a oedd wedi awdurdodi cyfarfodydd aml-leoliad, wedi cael gwybod am y mater a oedd yn effeithio ar bob awdurdod lleol yng Nghymru ond nad oedd wedi dyrannu unrhyw gyllid ychwanegol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a bod y pryderon a godwyd yn cael eu cyfleu i Lywodraeth Cymru. 

 

9.

CYNLLUN GWAITH Y PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Blaenraglen Waith awgrymedig ar gyfer blwyddyn y cyngor 2023/24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu Blaenraglen Waith 2023/24 Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau