Agenda a Chofnodion

Cyfafod Blynyddol, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 24ain Mai, 2023 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper, K. Davies, A. Leyshon a R. Sparks. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. 

 

3.

MATERION PERSONOL / CYHOEDDIADAU GAN Y CADEIRYDD YMADAWOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Rob Evans, sef y cadeirydd a oedd yn ymddeol, westeion nodedig, Cynghorwyr, staff a ffrindiau i'r cyfarfod. Soniodd am ei flwyddyn yn y swydd a'r digwyddiadau a'r dathliadau roedd wedi'u mynychu gyda'i gydymaith, Mrs Joyce Williams.

 

Diolchodd y Cadeirydd oedd yn Ymddeol i'r Prif Weithredwr, Wendy Walters, Linda Rees-Jones a Gaynor Morgan am eu cyngor a'u harweiniad proffesiynol, a staff yr awdurdod a oedd wedi cefnogi gwaith y Cadeirydd gan gynnwys ei waith i godi arian ar gyfer Hosbis T? Bryngwyn ac Ambiwlans Awyr Cymru. Yn ddiweddar roedd wedi cyflwyno siec i'r ddwy elusen am £2,500.00 yr un. Diolchodd i'w yrrwr, Jeff Jones, ac i Eira Evans am ei chefnogaeth broffesiynol a phersonol, wrth drefnu ei ddigwyddiadau a gofalu bod pob dim yn mynd yn hwylus bob amser. Talodd deyrnged i'w gydymaith, Mrs. Nysia Evans Charles-Davies, a oedd wedi bod wrth ei ochr dros y 12 mis diwethaf a diolchodd yn ffurfiol iddi am ei chefnogaeth. Yn olaf , dymunodd yn dda i Ddarpar Gadeirydd y Cynghorydd Louvain Roberts a'i chymar, Mrs Vanessa Rees, yn ei blwyddyn yn y swydd.  

 

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

5.

ETHOL CADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2023-24

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd R. Evans ac eiliwyd gan y Cynghorydd J. Tremlett a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd B.A.L. Roberts yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2023/24. 

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd R. Evans y Cynghorydd Roberts ar ei hetholiad.

 

Gwnaeth y Cynghorydd Louvain Roberts ei datganiad yn derbyn y swydd, ac fe'i harwisgwyd â'r Gadwyn Swyddogol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i'r holl Gynghorwyr am eu cefnogaeth wrth ei phenodi'n Gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin a dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at ei blwyddyn yn y swydd yn cynrychioli'r Cyngor. Talodd y Cynghorydd Roberts deyrnged hefyd i'r Cadeirydd oedd yn Ymddeol, y Cynghorydd R. Evans, a chyflwynodd Grogdlws Cyn-gadeirydd iddo.

 

Talwyd teyrngedau i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol gan y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Gr?p Plaid Cymru, y Cynghorydd Jane Tremlett, Arweinydd y Gr?p Annibynnol, a'r Cynghorydd Rob James, Arweinydd y Gr?p Llafur. Talodd y Dirprwy Brif Weithredwr, ar ran y Prif Weithredwr, nad oedd yn gallu mynychu'r cyfarfod oherwydd salwch, a'r Tîm Rheoli Corfforaethol, deyrnged hefyd i'r Cadeirydd oedd yn ymddeol.

 

6.

ETHOL IS-GADEIRYDD Y CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2023-24

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cynigiwyd gan y Cynghorydd D. Price ac eiliwyd gan y Cynghorydd P. Hughes-Griffiths a PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd Handel Davies yn cael ei ethol yn Is-gadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin am Flwyddyn y Cyngor 2023/24. 

 

Arwisgwyd y Cynghorydd Handel Davies â'r Gadwyn Swyddogol gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Louvain Roberts, a gwnaeth ei ddatganiad yn derbyn y swydd. Mynegodd yr Is-gadeirydd ei werthfawrogiad i'r Cyngor ar ei benodiad.

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor nad oedd Cydymaith yr Is-gadeirydd, Mrs Margaret Davies, yn gallu bod yn bresennol ac y byddai trefniadau yn cael eu gwneud i gadwyn y Cydymaith gael ei hanfon ati.

Estynnodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Is-gadeirydd a'i Gydymaith ar eu penodiadau. 

 

7.

DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL ARWEINYDD Y CYNGOR 2022-23

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor am y cyfnod 2022/23 [ynghlwm â'r cofnodion hyn], a soniodd am yr angen i ystyried beth oedd wedi cael ei gyflawni hyd yma a beth oedd angen ei wneud o hyd.

 

Cafodd Arweinwyr y Gr?p Annibynnol a'r Gr?p Llafur gyfle i wneud sylwadau ar adroddiad yr Arweinydd.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd ar gyfer 2022/23.

 

8.

PENODI AELODAU I BWYLLGORAU CRAFFU, RHEOLEIDDIO, A PHWYLLGORAU ERAILL AR GYFER BLWYDDYN Y CYNGOR 2023-2024 pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar aelodaeth arfaethedig Pwyllgorau a Phaneli Rheoleiddio, Craffu, ac Eraill.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo penodi aelodau i Bwyllgorau Rheoleiddio, Craffu a Phwyllgorau Eraill fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad. 

 

9.

YSTYRIED YR ENWEBIADAU A DDAETHAI I LAW A PHENODI CADEIRYDDION AC IS-GADEIRYDDION PWYLLGORAU / PANELAU'R CYNGOR AM FLWYDDYN Y CYNGOR 2023-2024 pdf eicon PDF 95 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r enwebiadau oedd wedi dod i law ar gyfer penodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau am Flwyddyn y Cyngor 2023/24.  

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yn briodol a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y canlynol yn cael eu penodi'n Gadeiryddion ac yn Is-gadeiryddion y Pwyllgorau Rheoleiddio, y Pwyllgorau Craffu, a'r Pwyllgorau a'r Panelau Eraill am Flwyddyn y Cyngor 2023/24:-

 

 PWYLLGOR / PANEL

CADEIRYDD

IS-GADEIRYDD

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio

Y Cynghorydd D.M. Cundy

Y Cynghorydd B.W. Jones

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol

Y Cynghorydd A.G. Morgan

Y Cynghorydd K.V. Broom

Pwyllgor Craffu Addysg, Pobl Ifanc a'r Gymraeg

Y Cynghorydd C. Jones

Y Cynghorydd S.M. Allen

Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd

Y Cynghorydd K. Madge

Y Cynghorydd K. Davies

Pwyllgor Craffu Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Y Cynghorydd H.A.L. Evans

Y Cynghorydd B.A.L. Roberts

Pwyllgor Apêl

Y Cynghorydd J.K. Howell

Y Cynghorydd L. Davies

Pwyllgor Penodi A – Cyfarwyddwyr

Y Cynghorydd D. Price

Y Cynghorydd S.M. Allen

Pwyllgor Penodi B - Penaethiaid Gwasanaeth

Y Cynghorydd J. Tremlett

Y Cynghorydd D. Price

Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd

Y Cynghorydd L. Davies

Y Cynghorydd W.T. Evans

Y Pwyllgor Trwyddedu

Y Cynghorydd J.M. Charles

Y Cynghorydd D. Phillips

Pwyllgor Penodi Aelodau

Y Cynghorydd J. Lewis

Y Cynghorydd W.R.A. Davies

Y Pwyllgor Cynllunio

Y Cynghorydd W.T. Evans

Y Cynghorydd C. Jones

Y Panel Adolygu Tai

Y Cynghorydd B.W. Jones

Y Cynghorydd G.B. Thomas

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed

Y Cynghorydd D.E.Williams

Heb fod yn ofynnol

 

10.

ADOLYGIAD BLYNYDDOL O'R CYFANSODDIAD pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Cyngor o'r gofyniad iddo adolygu ei Gyfansoddiad yn flynyddol a'i fod, fel rhan o'r broses honno, wedi sefydlu Gweithgor Adolygu'r Cyfansoddiad [CRWG] i gyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellir.

 

Dywedwyd er na fu unrhyw newidiadau deddfwriaethol a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i newidiadau gael eu gwneud i Gyfansoddiad y Cyngor, byddai angen i'r Cyngor gadarnhau'r cyfansoddiad cyfredol a diwygio Rhan 6.1 o'r Cyfansoddiad i adlewyrchu symiau rhagnodedig Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i'w talu i Gynghorwyr ar gyfer 2023-24.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

10.1 yn unol â'r penderfyniadau a wnaed gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, i fabwysiadu Cynllun Cyflogau a Lwfansau Cynghorwyr ac Aelodau Cyfetholedig ar gyfer 2023-2024, fel y nodir yn Rhan 6.1 o'r Cyfansoddiad;

10.2 mabwysiadu'r newid i Erthygl 6 o'r Cyfansoddiad o ran craffu ar rôl y Dirprwy Arweinydd;

10.3 mabwysiadu Cyfansoddiad y Cyngor ar gyfer 2023-2024 yn amodol ar y newidiadau i'r Cyfansoddiad sy'n codi o benderfyniadau yn argymhellion 10.1 a 10.2 uchod;

10.4 bod y Swyddog Monitro yn cael ei awdurdodi i wneud unrhyw fân newidiadau, cywiro gwallau teipio neu wallau drafftio a sicrhau bod yr holl groesgyfeiriadau yn y Cyfansoddiad yn gywir ac y rhoddir gwybod am y rhain i Weithgor Adolygu'r Cyfansoddiad pan fydd angen.

 

11.

AELODAETH AWDURDOD TÂN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU

MAE'R GRWP LLAFUR WEDI ENWEBU'R CYNGHORYDD ROB EVANS  YN LLE'R CYNGHORYDD KEVIN MADGE AR AWDURDOD   TÂN AC ACHUB CANOLBARTH A GORLLEWIN CYMRU.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Cynghorydd R. Evans yn cael ei benodi i gymryd lle'r Cynghorydd K. Madge fel cynrychiolydd y Gr?p Llafur ar Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.