Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Gwener, 9fed Rhagfyr, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Nodyn: Re-arranged from 13/12/2022. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Cooper a S. Curry.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

COFNODION - 7FED TACHWEDD,2022 pdf eicon PDF 81 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu oedd wedi ei gynnal ar 7 Tachwedd, 2022 yn gofnod cywir.

 

4.

ADOLYGIAD O UCHAFSWM TABL PRISIAU CERBYDAU HACNAI pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn dilyn cofnod 6 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11Hydref 2022 dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod tri gwrthwynebiad wedi'u derbyn i'r uchafswm Tabl Prisiau Cerbydau Hacnai arfaethedig y manylwyd arno yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Er bod gwrthwynebiadau yn ymwneud yn bennaf â graddau'r cynnydd arfaethedig dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd rheidrwydd ar y cwmnïau tacsi i godi'r pris uchaf a restrir.

 

Roedd cynrychiolydd o Gymdeithas Hacnai Sir Gaerfyrddin a oedd yn bresennol yn y cyfarfod wedi cyflwyno sylwadau i gefnogi'r uchafswm prisiau a gynigiwyd.

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch y nifer cyfyngedig o gwmnïau tacsi a oedd yn gweithredu mewn rhai ardaloedd gwledig dywedwyd wrth y Pwyllgor y gallai cwsmeriaid barhau i drafod prisiau tocynnau ymlaen llaw.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r uchafswm Tabl Prisiau Cerbydau Hacnai arfaethedig y manylir arno yn yr adroddiad heb ei addasu gan ddod i rym ar 20 Ionawr 2023.

 

5.

DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Robert Ian Owen o Celtic Executive Travel, 8 Ger-y-Maes, Llanelli, am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat ar gyfer ei gerbyd hurio preifat PH 502 sef MERCEDES BENZ, ac iddo'r rhif cofrestru WA72 PCX.

 

Gan fod Mr Owen yn bwriadu defnyddio'r cerbyd hwn ar gyfer gwasanaeth hurio dethol a gwaith i feysydd awyr/porthladdoedd yn unig, yr oedd wedi gofyn am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Reolau Trwyddedu y Cyngor ar gyfer Cerbydau Hurio Preifat, sef na fyddai'n ofynnol iddo arddangos sticeri ar y drysau na phlât trwyddedu ar y bympar ôl.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor petai'n cytuno i ganiatáu'r eithriad i Mr Owen, y byddai'r amodau canlynol yn cael eu rhoi ynghlwm wrth y Drwydded:-

 

-       Bod y cerbyd trwyddedig, sef Mercedes Benz PH 502, ac iddo'r rhif cofrestru WA72 PCX, yn cael ei eithrio o amodau trwyddedu 5a a 5b tra câi ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaeth hurio dethol, fel yr amlinellwyd yn y cais gan Mr. Owen;

-        Petai'r cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hurio preifat, yn hytrach na hurio dethol, bod yr ymgeisydd yn rhoi gwybod ar unwaith i'r Awdurdod Trwyddedu a bod yr eithriad yn darfod o ran dibenion hurio o'r fath;

-        Bod y cerbyd yn arddangos disg adnabod ar y ffenestr flaen a'r ffenestr ôl, fel y pennwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr. Robert Ian Owen am gael ei eithrio o Amodau 5a a 5b o Amodau'r Cyngor o ran Trwyddedu Cerbydau Hurio Preifat mewn perthynas â'i gerbyd hurio preifat Mercedes Benz PH 502 ac iddo'r rhif cofrestru  WA72 PCX.

 

6.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIADAU SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007 GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM UNIGOLYN PENODOL.

OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD, YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd  ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

7.

MR STEVE ANTHONY WILLIAMS CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr. Steve Anthony Williams o 110 Y Stryd Fawr, Rhydaman, i adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Williams ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Williams yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu cais Mr. Steve Anthony Williams am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rheswm

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.  

 

8.

MR DAVID GEORGE HOPKINS TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod  Mr. David George Hopkins o 4 Dolau Bran, Llanymddyfri yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gyda'r Awdurdod.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu nad oedd Mr Hopkins yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond roedd wedi gofyn i'r Pwyllgor ystyried ei achos yn ei absenoldeb.

 

Cafodd y Pwyllgor wybod am y materion oedd wedi codi o ran trwydded Mr Hopkins.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod trwydded Mr Hopkins yn cael ei dirymu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol ag argymhellion y Swyddog, i ddirymu Trwydded Yrru Ddeuol Mr David George Hopkins ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rheswm:

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod achos rhesymol dros ddirymu'r drwydded.

 

9.

MR HYWEL DOUGLAS PRICE THOMAS CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor bod cais wedi dod i law gan y cyfreithiwr a oedd yn cynrychioli Mr. Hywel Douglas Price Thomas er mwyn gohirio ystyried cais Mr Thomas.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried cais Mr Hywel Douglas Price Thomas tan y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor.