Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Gwener, 16eg Ebrill, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Mike Rogers (Cynrychiolydd Pensiynwyr sy'n Aelodau).

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 17EG CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2021 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 25 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 456 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a oedd wedi cael eu hystyried eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2021, i'w hystyried.

 

4.1

COFNODION BWRDD PENSIWN CRONFA BENSIWN DYFED 20 TACHWEDD 2020 pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Bwrdd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd Pensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd, 2020 wedi cael eu derbyn gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

4.2

CYNLLUN ARCHWILIO 2021 pdf eicon PDF 780 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i Gynllun Archwilio Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn nodi'r cwmpas arfaethedig, pryd i'w gyflawni, cost a chyfrifoldebau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch amseriad paratoi cyfrifon, cadarnhawyd mai'r dyddiad cyflawni disgwyliedig oedd diwedd mis Gorffennaf 2021 yn unol â'r Adroddiad Blynyddol. Byddai'r cyfrifon yn cael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w cymeradwyo ym mis Hydref 2021.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.3

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2020 - 31 RHAGFYR 2020 pdf eicon PDF 107 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf am y cyfnod 1 Ebrill 2020 - 31 Rhagfyr 2020.

 

Gofynnwyd a oedd gwaith ymchwil a chynllunio wedi'i gyflawni mewn perthynas ag effaith COVID-19 hir ar y cynllun pensiwn.  Dywedwyd wrth y Bwrdd mai dim ond marwolaethau COVID-19 oedd wedi'u monitro hyd yma ac nad oedd effaith COVID-19 hir wedi dod i'r amlwg eto.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.4

CYLLIDEB CRONFA BENSIWN DYFED 2021-2022 pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2021/22.   Nodwyd bod y gwariant arian parod cysylltiedig ar gyfer 2021-22 a oedd wedi'i bennu ar £104.3m a'r incwm arian parod cysylltiedig o £104.3m wedi arwain at gyllideb net o £0 a oedd yn rhoi hyblygrwydd i'r Gronfa ddefnyddio incwm buddsoddi ar sail gofynion llif arian.

 

CYTUNWYD i nodi'r Gyllideb ar gyfer 2021-22.

 

4.5

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 IONAWR 2021 pdf eicon PDF 13 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.  Nodwyd ar 31 Ionawr, 2021 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £14m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

Cwestiynodd y Bwrdd y gwahaniaeth negyddol rhwng y taliadau a wnaed a'r cyfraniadau a dderbyniwyd. Cydnabuwyd bod hyn yn her i'r Gronfa ond bod yr incwm buddsoddi a dderbyniwyd yn gwneud yn iawn am y diffyg.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.6

ADRODDIAD GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad a roddai ddiweddariad ar Weinyddu Pensiynau.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys diweddariadau ar y gweithgareddau yn y gwasanaeth Gweinyddu Pensiynau ac roedd yn cynnwys materion rheoleiddiol, dod â chyflogaeth cyflogwr i ben, y gofrestr torri amodau, i-Connect, adroddiadau Ansawdd Data, cysoniad GMP a llif gwaith.

 

Mynegodd y Bwrdd bryder yngl?n â'r nifer posibl o achosion a fyddai'n gofyn am ymyriad. Rhoddwyd gwybod y byddai adolygiad o'r adnoddau gofynnol yn cael ei gynnal ar ôl diweddaru'r feddalwedd.

 

Cydnabu'r Bwrdd fod hwn yn adroddiad cadarnhaol a chanmolodd bawb a gymerodd ran.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.7

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2020-2021 pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.  Nodwyd bod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith.

 

Gofynnodd y Bwrdd a fyddai'n ymarferol cynnwys colofn ychwanegol yn yr adroddiad i nodi statws yr achos o dorri'r gyfraith fel y byddai'n glir a oedd y mater wedi'i ddatrys neu a oedd yn parhau. Dywedwyd y gellid ystyried hyn.

 

Nododd y Bwrdd fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.  Roedd y rheini bellach wedi dod i law felly nid oedd unrhyw adroddiad wedi'i anfon at y Rheoleiddiwr Pensiynau. 

 

CYTUNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed

 

 

4.8

COFRESTRE RISG 2021-2022 pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y Gofrestr Risg yn ddogfen waith a oedd yn tynnu sylw at holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed.  Rhoddwyd gwybod bod y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022 wedi'i hadolygu i sicrhau bod risgiau wedi'u eu nodi a'u hasesu.

 

Rhoddwyd sylw eto i'r mater o beidio â gallu nodi newidiadau o adroddiadau blaenorol yn gyflym. Dywedwyd y byddai'r wybodaeth yn y penawdau a ddarperir ar hyn o bryd i Bwyllgor Bwrdd Pensiwn Dyfed hefyd yn cael ei chynnwys ar gyfer y Bwrdd ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cytunwyd i nodi'r adroddiad ar y gofrestr risg ar gyfer 2021-2022.

 

4.9

POLISI LLYWODRAETHU A DATGANIAD CYDYMFFURFIO 2021 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd y Polisi Llywodraethu a'r Datganiad Cydymffurfiaeth diwygiedig.  Cynhaliwyd adolygiad ar Bolisi Llywodraethu a Datganiad Cydymffurfiaeth  Cronfa Bensiwn Dyfed.  Roedd y Polisi Llywodraethu yn rhoi sylw i'r trefniadau yn ymwneud â:

 

·         Llywodraethu'r Gronfa

·         Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Pensiwn

·         Dirprwyo i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Phennaeth y Gwasanaethau Ariannol

·         Cyfarfodydd y Pwyllgor

·         Y Cyfarfod Ymgynghori Blynyddol

·         Y Bwrdd Pensiwn

 

Roedd y Datganiad Cydymffurfiaeth yn nodi cydymffurfiad y Gronfa ag egwyddorion arfer gorau  mewn perthynas â strwythur, cynrychiolaeth, dewis, pleidleisio, hyfforddiant, cyfarfodydd, mynediad, cwmpas a chyhoeddusrwydd.

 

Gofynnwyd a roddwyd ystyriaeth i gyfyngu ar gyfnod penodiad Cadeirydd. Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y byddai'n ymgymryd â thrafodaethau yn y dyfodol gyda swyddog A151 a Gwasanaethau Democrataidd. Awgrymodd y Bwrdd y dylai adran Bwrdd Pensiynau y Polisi Llywodraethu gyfeirio at y ffaith bod Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd Pensiynau a bod gan y Bwrdd awdurdod (os oes angen) i gyflwyno adroddiad i'r pwyllgor.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

4.10

CYNLLUN BUSNES 2021-2022 pdf eicon PDF 761 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer y cyfnod 2021-2022, yn nodi sut oedd y Gronfa yn mynd i gyflawni ei hamcanion a sicrhau bod adnoddau digonol yn cael eu dyrannu i gyflawni'r amcanion hynny.

 

CYTUNWYD i nodi Cynllun Busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-22.

 

4.11

CYNLLUN HYFFORDDI 2021-2022 pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd Gynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-2022, a oedd yn darparu manylion am gyfarfodydd, digwyddiadau hyfforddi a'r aelodau a'r swyddogion y rhagwelwyd y byddent yn mynychu'r digwyddiadau.

 

CYTUNWYD y dylid nodi Cynllun Hyfforddi Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2021-22.

 

4.12

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU - LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 368 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad diweddaru gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru, ynghylch cynnydd a cherrig milltir yr Is-gronfeydd canlynol ynghyd â'r Protocol Ymgysylltu a'r dyddiadau cyfarfodydd allweddol:-

 

·         Tranche 3 - Incwm Sefydlog

·         Tranche 4 – Marchnadoedd Datblygol

·         Tranche 5 – Datblygu strategaeth Marchnadoedd Preifat

 

Nododd y Pwyllgor fod yr is-gronfa Ecwiti Twf Byd-eang bresennol yn dod i gyfanswm o £2.89bn a bod y Gronfa Credyd Byd-eang yn dod i gyfanswm o £796m.

 

CYTUNWYD i nodi'r diweddariad gan Link a Russel ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

4.13

COFNODION DRAFFT CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 25 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 336 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

CYTUNWYD y dylid nodi cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021.

 

5.

CYNLLUN GWAITH Y BWRDD PENSIWN 2021 pdf eicon PDF 345 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gynllun Gwaith y Bwrdd Pensiynau ar gyfer 2021 a oedd yn amlinellu gwaith y Bwrdd Pensiynau drwy gydol 2021 a'r eitemau i'w cyflwyno ym mhob cyfarfod. Gofynnwyd i adroddiad ar gostau cymharol y Gronfa gael ei gynnwys mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

CYTUNWYD i nodi'r cynllun gwaith ar gyfer 2021.

 

6.

MONITRO CYLLIDEB Y BWRDD PENSIWN 1 EBRILL 2020 - 31 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad monitro cyllideb terfynol y Bwrdd Pensiynau ac ystyriodd y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2021.

 

Roedd y sefyllfa derfynol ar 31 Mawrth 2021 yn dangos tanwariant o £3,543 o gymharu â'r gyllideb.  

 

Roedd y ffi ar gyfer y Cadeirydd yn £917 yn fwy na'r gyllideb gan fod y contract wedi'i ymestyn a bod y ffi wedi'i chynyddu yn seiliedig ar yr estyniad hwn. Roedd tanwariant o ran costau hyfforddi o £3,580 gan fod y rhan fwyaf o'r digwyddiadau hyfforddi a fynychwyd gan aelodau'r Bwrdd wedi'u cynnal ar-lein ac am ddim. Nid oedd unrhyw wariant mewn perthynas â theithio, cynhaliaeth na threuliau amrywiol oherwydd COVID-19.

 

Roedd y premiwm yswiriant atebolrwydd yn £1,120 yn fwy na'r gyllideb. Roedd cyfraddau'r farchnad yswiriant wedi cynyddu tua 20% dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Monitro Cyllideb y Bwrdd Pensiynau 1 Ebrill 2020 – 31 Mawrth 2021.

 

7.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 31 RHAGFYR 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Perfformiad a Risg yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020, ynghyd â chefndir y farchnad fyd-eang a materion i'w hystyried.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 RHAGFYR 2020

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

10.

ADRODDIADAU'R RHEOLWR BUDDSODDI AR 31 RHAGFYR 2020

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a oedd wedi cael eu hystyried eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth 2021, i'w hystyried.

 

10.1

BLACKROCK

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Derbyniodd y Bwrdd adroddiad Briffio’r Rheolwr Buddsoddi - BlackRock ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, a ddarparodd ddiweddariad ynghylch portffolio, buddsoddiad sydd ar y gweill, buddsoddi cynaliadwy a diweddariadau ynghylch daliadau portffolio.

 

PENDERFYNWYD nodi adroddiad Briffio’r Rheolwr Buddsoddi - BlackRock ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

10.2

SCHRODERS

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Schroders - Adroddiad Buddsoddi Ch4 2020 a oedd yn nodi perfformiad fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad.

 

10.3

PARTNERS GROUP

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad y Gr?p Partneriaid - Cyllid Chwarterol Hydref i Ragfyr 2020 a oedd yn nodi'r perfformiad fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad.

 

10.4

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - CRONFA TWF BYD-EANG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Cronfa Tyfu Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2020 a oedd yn nodi'r perfformiad fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad.

 

10.5

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - CRONFA CREDYD BYD-EANG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad Cronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru - 31 Rhagfyr 2020 a oedd yn nodi'r perfformiad fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020.

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad.

 

11.

BRIFF Y RHEOLWR BUDDSODDI - BLACKROCK

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Briffio’r Rheolwr Buddsoddi - BlackRock fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020. Roedd yr adroddiad briffio yn cynnwys:

 

·         Diweddariad ynghylch portffolio

·         Buddsoddiad sydd ar y gweill

·         Diweddariad ynghylch buddsoddi cynaliadwy

·         Daliadau portffolio.

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad briffio.

 

12.

DADANSODDIAD CYN-BONTIO O RAN AILSTRWYTHURO ECWITI

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 7 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Cyn-trosglwyddo a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:

 

·         Dull Trosglwyddo a Dadansoddi Portffolio

·         Amserlen Trafodion

·         Meincnod Trosglwyddo a Strategaeth Fasnachu

·         Dadansoddiad Cost a Risg

·         Ystyriaethau Eraill

 

CYTUNWYD i nodi'r adroddiad.