Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd W.R.A. Davies.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

4 – Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2020-21;

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 28 Chwefror 2021 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2020-21.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod aelodau o staff ychwanegol wedi'u penodi yn y ganolfan alwadau oherwydd y cynnydd yn nifer y galwadau a dderbyniwyd o ganlyniad i'r pandemig Covid, er mwyn helpu i leihau amseroedd aros galwyr.

·       Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai unrhyw danwariant sydd ar gael yn cael ei wario’n gyntaf ar risgiau corfforaethol a nodwyd. Atgoffwyd yr aelodau hefyd, er bod yr Awdurdod wedi neilltuo cronfa fach wrth gefn ar gyfer argyfyngau Brexit, na fu unrhyw alwad ar y gyllideb honno eto.

·       Eglurwyd bod y cyfeiriad at gostau atgyweirio i eiddo 'newydd' yn ymwneud â'r ffaith nad oedd yr eiddo hyn newydd eu hadeiladu ond yn hytrach yn eiddo a allai fod wedi'u hadeiladu ers sawl blwyddyn ond a oedd newydd eu caffael gan yr Awdurdod.

·       Talwyd teyrnged i'r holl staff a oedd wedi mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol yn ystod y pandemig presennol.

·       O ran y gwariant o £700,000 a ragwelwyd ar gyfer adnewyddu'r system graidd Adnoddau Dynol/y Gyflogres, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y seilwaith presennol yn agosáu at ddiwedd ei oes ac felly roedd angen darparu cyllid refeniw ar gyfer system newydd dros nifer o flynyddoedd.

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch oedi wrth gyflawni gwaith o dan y Grant Cyfleusterau i'r Anabl, dywedwyd wrth yr aelodau, mewn rhai amgylchiadau, fod hyn ar gais derbynnydd y grant am resymau diogelwch yn ystod y pandemig presennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

POLISI TELEDU CYLCH CYFYNG Y CYNGOR pdf eicon PDF 407 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Bolisi Teledu Cylch Cyfyng arfaethedig y Cyngor a fyddai'n sicrhau bod trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith o ran defnydd a rheolaeth y Cyngor o'i systemau camerâu teledu cylch cyfyng mewn mannau cyhoeddus, yn unol â Deddf Diogelu Rhyddidau 2012. Yn ogystal, roedd yn bwysig ymgorffori dull cyson ledled y Cyngor mewn perthynas â holl agweddau ei systemau teledu cylch cyfyng.

Nodwyd bod cydweithio agos rhwng y Cyngor a'r Heddlu, lle bo'n briodol, o ran sicrhau bod gwybodaeth a data ar gael o deledu cylch cyfyng.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi Teledu Cylch Cyfyng arfaethedig.   

 

6.

CYNLLUN LLESIANT BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020-2021 pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mr Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a gyflwynodd Adroddiad Blynyddol 2020-21 Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Hwn oedd trydydd adroddiad blynyddol Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin ac roedd yn cynnwys gwybodaeth am y cynnydd a wnaed yn ystod 2020-21 ar ôl i'r cynllun gael ei gyhoeddi ym mis Mai 2018.

 

Er y cydnabuwyd bod llai o weithgarwch wedi bod yn bosibl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y pandemig, roedd cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn nifer o feysydd. At hynny, roedd yr holl gysylltiadau pwysig a ddatblygwyd drwy waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cyfrannu'n fawr ar adeg pan oedd gwaith ac ymateb amlasiantaethol yn hanfodol. Roedd y Bwrdd wedi adolygu ei flaenoriaethau i ystyried cyfleoedd sy'n deillio o'r gwersi a ddysgwyd o brofiadau sefydliadau o ddelio â'r pandemig Coronafeirws a'r cydweithio gwell a oedd wedi datblygu o ganlyniad i hynny. Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth am y canlynol:

·       Strwythur y BGC

·       Gweithio Rhanbarthol

·       Pum Ffordd o Weithio

·       Adroddiadau cynnydd y Gr?p Cyflawni

·       Partneriaeth Cymunedau Mwy Diogel

·       Meysydd datblygu.

 

Soniodd Mr Liles am yr angen i'r BGC godi ymwybyddiaeth o'i weithgarwch a'i swyddogaethau gyda'r cyhoedd a chymunedau lleol. 

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch amseroedd ymateb ar y rhif ffôn 101 pan nad yw'n argyfwng, dywedodd yr Arweinydd y byddai'n codi'r mater mewn cyfarfod sydd i ddod gyda Chomisiynydd yr Heddlu.

 

Ar hynny, diolchodd y Cadeirydd i Mr Liles am ddod i'r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol 2020-21 Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin.

 

7.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - RHAGFYR 2020, CHWEFROR A MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau gofnodion cyfarfodydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020, 2 Chwefror 2021 a 23 Mawrth 2021. Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020, 2 Chwefror 2021 a 23 Mawrth 2021.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU 2020/21 pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau am flwyddyn y cyngor 2020/21 a oedd yn rhoi golwg gyffredinol ar waith y Pwyllgor gan gynnwys:-

·       Trosolwg ar y Rhaglenni Gwaith Craffu

·       Y materion allweddol a ystyriwyd

·       Materion oedd wedi'u cyfeirio at y Bwrdd Gweithredol neu Bwyllgorau Craffu eraill neu ganddynt

·       Presenoldeb yr Aelodau yn y cyfarfodydd

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 10 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai Adroddiad Blynyddol Strategaeth Ysgolion Digidol 2021 bellach yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 20 Hydref 2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar yr uchod, dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 21 Gorffennaf 2021.

 

11.

COFNODION - 30AIN EBRILL 2021 pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2021 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau