Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhian M Lloyd  01267 224088

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

An apology for absence was received from Mrs Vera Kenny, Roman Catholic Church representative.

 

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mrs V. Kenny, cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig Rufeinig.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Aelod

Rhif y Cofnod(ion)

Math o Fuddiant

Cyng. Dot Jones

2.            4. Cwricwlwm Cymru

Mae ei gwr yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

 

Cofnodion:

Aelod

Rhif y Cofnod(ion)

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd Dot Jones

2.            4. Cwricwlwm i Gymru

Mae ei g?r yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

 

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwipiaid y pleidiau.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

CWRICWLWM CYMRU pdf eicon PDF 379 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd D. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r cymorth ar gael i ysgolion a lleoliadau arbenigol Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir a'r consortiwm rhanbarthol, ERW, wrth iddynt roi'r Cwricwlwm i Gymru ar waith erbyn mis Medi 2022.

 

Mae'r Awdurdod yn datblygu cynnig dysgu proffesiynol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru sy'n ategu gwaith y Tîm Cynhwysiant. Ei nod yw sicrhau bod addysgeg dda yn bodloni anghenion disgyblion unigol ar bob lefel a bod ysgolion yn gwneud cynnydd effeithiol yn unol â nodau'r Genhadaeth Genedlaethol. Hefyd, mae Ymgynghorwyr Cymorth Addysg a swyddogion o'r Tîm Seicolegwyr Addysgol a'r Tîm Ymddygiad a Chynhwysiant yn cynnal trafodaethau cadarnhaol parhaus ag ysgolion unigol i drafod cynnydd o ran pontio i'r Cwricwlwm i Gymru, yn ogystal â phontio ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu manylion ynghylch y math o gymorth a oedd yn cael ei roi ac yn cynnig dulliau strategol ychwanegol/amgen i wella'r ddarpariaeth bresennol gan gynnwys y canlynol:-

 

v  y cyd-destun presennol ac ymgysylltiad ysgolion â'r cwricwlwm newydd hyd yn hyn;

v  dull strategol yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant;

v  y cymorth sydd ar gael i ysgolion a lleoliadau arbenigol;

v  ymgysylltiad ysgolion a lleoliadau arbenigol;

v  cwestiynau ar gyfer llywodraethwyr wrth iddynt gefnogi eu hysgolion ar y daith hon;

v  y Rhwydweithiau Ymchwil a Dysgu Proffesiynol;

v  disgwyliadau;

v  rôl ERW.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Ar ôl gofyn beth oedd y cynlluniau tymor hir a thymor byr o ran ERW, esboniodd y Cyfarwyddwr fod pedwar Awdurdod Lleol yn dal i weithio mewn partneriaeth y tymor hwn a'u bod yn aelodau llawn o ERW o hyd - Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Phowys. Er bod Castell-nedd Port Talbot a Cheredigion wedi gadael y bartneriaeth, daethpwyd i gytundeb i barhau i ddarparu rhai gwasanaethau iddynt, rhaglenni arweinyddiaeth yn bennaf. Y bwriad bellach yw aros i ERW ddod i ben ar 31 Awst eleni a dechrau partneriaeth newydd ar 1 Medi, 2021. Bydd y ddarpariaeth a'r gefnogaeth yn parhau i gael eu darparu gan y bartneriaeth newydd, ond o fis Medi ymlaen, gallai'r ddarpariaeth honno fod yn fwy lleol o bosibl, yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau a gynhelir ar hyn o bryd. Bydd rhagor o wybodaeth am y strwythur newydd yn cael ei rhoi i'r partneriaid newydd cyn bo hir a gobeithio y bydd swyddogion mewn sefyllfa i roi rhagor o fanylion i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y Tîm Cwricwlwm o fewn ERW wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi ysgolion drwy'r cyfnod pontio hwn;

·         Cyfeiriwyd at y rôl bwysig y mae llywodraethwyr yn ei chwarae yn y broses hon a gofynnwyd i'r swyddogion sut y bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu yn gyson ac yn deg i'r holl ysgolion ledled y sir. Sut y bydd llywodraethwyr yn gwybod i ba raddau y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

CYNLLUN BUSNESS ADRANNOL pdf eicon PDF 406 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes yr Adran Addysg & Phlant 2021/22.

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor gynllun busnes adrannol y Gwasanaethau Addysg a Phlant ar gyfer 2021/2022 a oedd yn nodi sut mae'r gwasanaeth yn helpu i gyflawni'r Strategaeth Gorfforaethol.

 

Oherwydd pandemig COVID-19, roedd y cynllun a gyflwynwyd yn fersiwn fyrrach nad oedd yn cynnwys yr adran adolygu gan ei bod wedi'i chynnwys yn yr asesiadau o effaith COVID-19 ar wasanaethau a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor i'w hystyried.

 

Nodwyd bod effaith y pandemig a Brexit wedi creu llawer o ansicrwydd o ran llywio cynlluniau yn y dyfodol ac, yn sgil hynny, gallai'r cynllun busnes newid.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y tabl ar dudalen 51 o'r pecyn agenda a gofynnwyd i'r swyddogion pam nad oedd yr amgylchedd wedi cael sylw oherwydd siawns bod yr adran wedi'i heffeithio e.e. Llwybrau Diogel i’r Ysgol. Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr amgylchedd yn ffactor pwysig ym maes addysg. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod y blychau perthnasol dim ond yn cael eu ticio os oes camau gweithredu penodol ar gyfer yr adran yn y Cynllun Llesiant. Mae'r adran yn cyfrannu tuag at lawer o agweddau ar waith amgylcheddol yn ein hysgolion. Ychwanegodd y byddai'n cydlynu â'r swyddogion perthnasol ynghylch rhoi gwybod am yr amcan penodol hwnnw, gan gynnwys y mesurau a'r camau gweithredu allweddol;

·         Cyfeiriwyd at y datganiad yn y cynllun y bydd y ddarpariaeth ôl-16 oed yn cael ei hadolygu er mwyn creu darpariaeth gynaliadwy, a mynegwyd pryder bod hyn yn awgrymu nad oedd y ddarpariaeth yn bodoli ar hyn o bryd. Esboniodd y Cyfarwyddwr fod adolygiad o'r ddarpariaeth ôl-16 oed wedi'i gynnal pan ddaeth i'r amlwg nad oedd niferoedd y chweched mewn rhai ysgolion yn gynaliadwy, ac felly, nid oeddent yn gallu cynnig yr amrywiaeth o bynciau gofynnol. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod y ddarpariaeth ôl-16 oed yn faes allweddol gan ei fod yn pontio o addysg statudol i addysg bellach i'r gweithle, ac mae llawer o waith yn cael ei wneud yn y maes hwn. Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ar y pwnc hwn yn y dyfodol agos;

·         Cyfeiriwyd at allu cymunedau i ddefnyddio cyfleusterau ysgolion a'r heriau cysylltiedig a gofynnwyd i'r swyddogion pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran y cytundeb model. Eglurodd y Pennaeth Mynediad i Addysg, o ran gwneud y defnydd gorau o gyfleusterau i gefnogi gweithgarwch ehangach yn y gymuned, fod swyddogion yn ceisio sicrhau bod prydlesau priodol ar waith ar hyn o bryd i ddiogelu'r ysgolion a'r Awdurdod Lleol;

·         Cyfeiriwyd at y ffaith fod pryderon wedi'u mynegi yn flaenorol ynghylch termau mewn perthynas â'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, a gofynnwyd i swyddogion a fyddai'r Pwyllgor yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am fynd i'r afael â'r pryderon hynny. Esboniodd y Pennaeth Mynediad i Addysg y byddai angen cymeradwyo unrhyw brosiect a nodir ar gyfer y Model Buddsoddi Cydfuddiannol ac y byddent yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Craffu;

·         O ran Cynllun Adrannol y Gwasanaethau Plant, cyfeiriwyd at y ffaith nad oedd y canrannau yn yr adroddiad yn rhoi unrhyw  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 6 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

 

 

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiad craffu canlynol:-

 

  • Cynllun Gweithredu Trawsnewid ADY

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r wybodaeth.

 

7.

BLAENRAGLEN WAITH pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Addysg & Phlant ar gyfer y cyfnod Mai i Ragfyr 2021.

 

 

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith am y cyfnod rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2021, a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglenni gwaith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y Cyngor.

 

Penderfynodd y Pwyllgor mewn sesiwn datblygu'r flaenraglen waith bennu'r flaenraglen waith ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2021 i ddechrau, a phenderfynwyd y bydd y cyfnod rhwng mis Ionawr a mis Ebrill 2022 yn cael ei drafod yn ddiweddarach. Nid oedd hyn yn atal yr eitemau a nodwyd i'w hystyried yn y cyfarfodydd hyn yn ystod y flwyddyn rhag cael eu cynnwys a diweddarwyd y flaenraglen yn unol â hynny.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Pwyllgor wedi gofyn am gynnal gweithdai ynghylch Hunanarfarnu a'r Rhaglen Moderneiddio Addysg a bod y rhain yn cael eu cynnal cyn mis Medi 2021 os yw'n bosibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Rhagfyr 2021.

 

8.

GORCHWYL A GORFFEN pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1   derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.2   cadarnhau nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.3   bod aelodaeth y Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

 

·         Councillor Kim Broom

·         Councillor Shahana Najmi

·         Councillor Darren Price

·         Councillor Emlyn Schiavone

·         Councillor Bill Thomas

·         Councillor Edward Thomas

·         Mr Anthony Enoch

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i adolygu'r broses ymgynghori bresennol ar gyfer newid trefniadaeth ysgolion, gan gynnwys newidiadau i'r ddarpariaeth ieithyddol a chau ysgolion.

 

Mae trafodaethau'r Pwyllgor ynghylch nodau ac amcanion allweddol yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen hwn wedi'u cynnwys a'u datblygu mewn

dogfen gynllunio a chwmpasu ddrafft.

 

Bydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cynnwys chwe aelod etholedig ac un aelod cyfetholedig, a bydd yn wleidyddol gytbwys gymaint ag sy'n bosibl. Bydd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn trefnu cynnal y cyfarfod cyntaf cyn gynted â phosibl ac yn penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd o blith ei aelodau yn y cyfarfod hwn. Bydd swyddogion yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant a'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn Adran y Prif Weithredwr yn cefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith fod angen tynnu'r cyfeiriad at "eitem 6 ar yr agenda" sydd tuag at ddiwedd y ddogfen gwmpasu, yn y blwch sy'n cynnwys pa wybodaeth/ddogfennau sydd eu hangen i lywio gwaith yr astudiaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1       derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.2       cadarnhau nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.3       bod yr aelodaeth o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

 

·         Y Cynghorydd Kim Broom

·         Y Cynghorydd Shahana Najmi                      

·         Y Cynghorydd Darren Price

·         Y Cynghorydd Emlyn Schiavone

·         Y Cynghorydd Bill Thomas

·         Y Cynghorydd Edward Thomas

·         Mr Anthony Enoch

 

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 17EG MAWRTH, 2021 pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi yn gofnod cywir cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17eg Mawrth, 2021.

 

 

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at dudalennau 3 a 4 o'r cofnodion o ran yr ymgynghoriad cenedlaethol ynghylch categoreiddio iaith. Nodwyd bod y Pwyllgor yn cytuno y dylai'r ymateb i'r ymgynghoriad nodi y dylai fod mwy o hyblygrwydd ar gyfer ysgolion uwchradd. Cadarnhaodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod hyn yn rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Mawrth, 2021 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau