Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.L Fox, K. Madge a D.T. Williams. 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

4. Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2020/21.

6. Strategaeth Anableddau Dysgu 2020/2025

Mae aelod agos o'r teulu yn ofalwr yn y Cynllun Cysylltu Bywydau.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £789k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£149k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2020/21.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Gofynnwyd a fyddai’r gorwariant ar y gyllideb Anableddau Corfforol ac Iechyd Meddwl wedi digwydd pe na bai pandemig Covid wedi digwydd. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ei bod yn anodd rhagweld a fyddai wedi digwydd ond rhoddodd sicrwydd bod y gyllideb dan reolaeth.

·         Gofynnwyd a oedd y gorwariant amcanol wedi lleihau ers i'r adroddiad gael ei lunio. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod y cyfrifon yn dal i gael eu cwblhau, ond roedd incwm yn dod i law felly'r gobaith oedd y byddai'r sefyllfa'n gwella rhywfaint.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

5.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2021/22 pdf eicon PDF 412 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes 2021/22 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl:

 

·         Cymorth Busnes a Chomisiynu

·         Gwasanaethau Integredig

·         Gofal Cymdeithasol i Oedolion

·         Cartrefi Gofal (rhan o Gartrefi a Chymunedau Mwy Diogel)

 

Nodwyd bod hwn yn gynllun cryno oherwydd pandemig COVID-19. Fel arfer, byddai'n cynnwys adolygiad ond roedd hwnnw eisoes wedi'i gynnwys yn yr asesiadau o effaith COVID-19 ar wasanaethau a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor ym mis Ionawr a mis Mawrth.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf o ran rhoi'r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid ar waith. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y Llywodraeth wedi gohirio rhoi'r trefniadau ar waith. Fodd bynnag, fel Awdurdod, roedd gwaith paratoi yn parhau ac roedd cynlluniau cynhwysfawr yn cael eu datblygu rhwng y tri Awdurdod a'r Bwrdd Iechyd. Rhoddwyd sicrwydd bod yr Awdurdod yn cynnal cydymffurfiaeth â'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y gwelyau gwag mewn cartrefi gofal. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod nifer y gwelyau gwag wedi lleihau.

·         Cyfeiriwyd at y rhaglen fuddsoddi arloesol ar gyfer cartrefi gofal a thai gwarchod. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod rhai o'r cartrefi gofal wedi dyddio a bod angen eu moderneiddio, ac mai'r bwriad oedd cael cyllid drwy'r Gronfa Gofal Integredig a Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i ddefnyddio i fuddsoddi mewn technoleg.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2021/22.

6.

STRATEGAETH ANABLEDDAU DYSGU 2020-2025 pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Anableddau Dysgu (2020-2025). Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y strategaeth ddrafft o'r blaen yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill 2018.

 

Nodwyd y cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn 2019 wrth ddatblygu'r strategaeth derfynol. Hwyluswyd y rhain gan Mencap a Phobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, gyda chymorth swyddogion y Cyngor. Rhoddodd y strategaeth llawer o wybodaeth i'r rhiant/gofalwr a'r defnyddiwr gwasanaeth am gyfeiriad pendant o ran anableddau dysgu yn Sir Gaerfyrddin.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd ynghylch y cynnydd a ragwelir yn y boblogaeth ag anableddau dysgu. Dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod y ffigurau a ragwelir wedi'u nodi gan ddefnyddio'r wybodaeth ddemograffig o gronfa ddata StatsCymru a ddefnyddir ledled Cymru.

·         Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod gynllun ar waith ar gyfer y cynnydd yn y galw ar y gwasanaethau awtistiaeth. Rhoddwyd gwybod bod Strategaeth Ranbarthol ar gyfer awtistiaeth ac y byddai'r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth.

·         Mewn ymateb i sylw ynghylch y bylchau yn y gwasanaethau sydd ar gael gyda'r nos ac ar benwythnosau, dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod gwelliannau eisoes wedi'u gwneud. Yn ystod y broses ymgynghori ac ymgysylltu, roedd yn amlwg bod angen sicrhau bod cymorth ar gael pan oedd ei angen fwyaf. Roedd gwaith yn parhau i fynd i'r afael â'r anghenion hyn ac i wneud cymunedau'n fwy cynhwysol.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg trafnidiaeth. Cydnabuwyd, yn anffodus, bod hyn yn broblem barhaus a bod gwaith yn parhau i gefnogi pobl i gael mynediad i wasanaethau lleol yn y gymuned. Hefyd, penodwyd hyrwyddwr trafnidiaeth a oedd yn gynrychiolydd defnyddwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol.

·         Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg argaeledd y gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad mewn rhai ardaloedd. Dywedwyd efallai y gallai'r Pwyllgor gysylltu â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol i drafod y pryderon hyn.

·         Holwyd sut oedd y broses o newid taliadau uniongyrchol yn rhai mewnol yn mynd yn ei blaen. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y prosiect wedi mynd rhagddo'n dda a bod yr adborth gan y defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn gadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD bod Strategaeth Anableddau Dysgu (2020-2025) yn cael ei derbyn.

7.

ADRODDIAD CWYNION A CHANMOLIAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION 1 EBRILL, 2020 - 31 RHAGFYR, 2020 pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y cwynion a'r ganmoliaeth ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd wedi dod i law ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion a'r ganmoliaeth oedd wedi dod i law ac yn cynnwys gwybodaeth am y math o g?ynion a'r maes gwasanaeth sy'n ymwneud â chwynion a chanmoliaeth.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod nifer y canmoliaethau a gafwyd wedi mwy na dyblu yn ystod y cyfnod adrodd a bod nifer y cwynion wedi lleihau.

 

Dywedwyd, er bod nifer y cwynion wedi lleihau, ei bod yn bwysig eu cael fel bod modd dysgu gwersi.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 21 Mai 2021.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11EG MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 324 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 11 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau