Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin J Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim ymddiheuriadau am absenoldeb
Mynegodd y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, gydymdeimlad â'r Teulu Brenhinol ar farwolaeth y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Nodwyd bod Cadeirydd y Cyngor wedi ysgrifennu llythyr o gydymdeimlad at ei Huchelder Brenhinol, y Frenhines Elizabeth, ar ran y Cyngor. |
||||||||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
||||||||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
||||||||||||||||
BLAEN-GYNLLUN ARCHIFAU SIR GAERFYRDDIN PDF 266 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar Flaen-gynllun Drafft Archifau Sir Gaerfyrddin yn manylu ar nodau ac amcanion y gwasanaeth ar gyfer y cyfnod 2021-24, a oedd yn cynnwys cyflwyno cais yn 2023 i'w achredu o dan Gynllun Achredu'r Archifau Cenedlaethol. Prif amcanion y Cynllun oedd:- · Casglu, gofalu am archifau'r wlad a'u datblygu ym mha bynnag fformat a rhoi mynediad iddynt mewn ffyrdd dychmygus, arloesol a chynhwysol; · Sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch, yn gynaliadwy ac yn gyfeillgar, gan gyrraedd y tu hwnt i'w gynulleidfaoedd sy'n ymweld, a chan gyflawni'r safonau uchaf o ran gofal cwsmeriaid; · Cynnig profiadau diddorol ac addysgiadol i ymwelwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal â chreu cyfleoedd newydd a chymhellol ar gyfer dysgu.
Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:- · Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cyfeiriad yn y dadansoddiad SWOT ar y gwasanaeth sy'n gweithredu gyda lefelau staffio is ac at ba fesurau, os o gwbl, a oedd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r gwendid hwnnw.
Dywedodd y Pennaeth Hamdden, er bod lefelau staffio wedi bod yn isel gan fod yr archifau wedi bod ar gau, fod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r gwasanaeth llyfrgelloedd ar sut y gallai ei staff atodi archifau a thrwy hynny wella gwytnwch staff. Byddai'r gwasanaeth yn gallu defnyddio staff / ffrindiau gwirfoddol i'w gynorthwyo gyda'i weithrediad. Roedd yn hyderus y byddai adnoddau ar gael i weithredu'r gwasanaeth · Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y ffaith nad oes cadwraeth ddigidol na digideiddio systematig yn y gwasanaeth, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er nad oedd hynny wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf, fod ei ddarpariaeth bellach yn cael ei datblygu
Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod digideiddio yn un o elfennau allweddol darpariaeth y gwasanaeth ar gyfer y dyfodol gyda'r nod o sicrhau bod mwy o wasanaethau ar gael yn ddigidol i ysgolion nid yn unig ar gyfer y gwasanaeth archifau ond hefyd i'r llyfrgelloedd a'r amgueddfeydd. Byddai digido hefyd yn helpu i sicrhau bod cofnodion/gwybodaeth Sir Gaerfyrddin ar gael ledled y byd · Cyfeiriodd Uwch-reolwr y Gwasanaethau Diwylliannol at gwestiwn ar greu dolen gyswllt i borth Archif Ddarlledu Genedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gael mynediad at archifau ffilm. Er bod gwaith ar y prosiect wedi'i ohirio oherwydd ailbroffilio, cadarnhaodd fod disgwyl i ganolfan CLIP fod ar gael tua diwedd 2021/dechrau 2022 yn Llyfrgell ac Archifau Caerfyrddin.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Blaen-gynllun Drafft Archifau Sir Gaerfyrddin yn cael ei dderbyn. |
||||||||||||||||
SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2017-2020 PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd R. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon)
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch Asesiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin 2019/20, a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964, a osododd ddyletswydd statudol ar yr holl Awdurdodau Llyfrgelloedd Cyhoeddus i 'ddarparu gwasanaeth llyfrgell cynhwysfawr ac effeithiol' ac ar Weinidogion Cymru i 'oruchwylio a hyrwyddo'r gwaith o wella' gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru. Yn unol â'r gofyniad hwnnw, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei asesiad o ffurflen flynyddol Llyfrgelloedd Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2019/20 yn erbyn y 6ed Fframwaith Asesu Ansawdd, a bodlonodd Sir Gaerfyrddin bob un o'r 12 hawliad craidd yn llawn. O blith y 9 dangosydd ansawdd oedd â thargedau, roedd Sir Gaerfyrddin wedi cyflawni saith yn llawn, mae un wedi'i fodloni'n rhannol ac mae un heb ei fodloni. Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at y cynnydd o 85% yn nifer y benthyciadau llyfrau plant ers 2018/19 a llongyfarchwyd y gwasanaeth ar y cynnydd hwnnw · Cadarnhawyd er bod y gwasanaeth llyfrgelloedd bellach ar agor i'r cyhoedd, cyfyngwyd nifer yr ymwelwyr i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol a oedd yn cynnwys caniatáu i'r cyhoedd bori drwy'r casgliad llyfrau. Er na chaniatawyd pori yn y gwasanaeth llyfrgelloedd teithiol, gallai gweithredwyr gynorthwyo'r cyhoedd i wneud dewisiadau o ran llyfrau. Gellid archebu llyfrau hefyd drwy 'glicio a chasglu' i'w dosbarthu gan y gwasanaeth teithiol. · O ran prosiect Makerspace, cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Llyfrgelloedd fod y cyfleuster, yn ogystal â'r ddarpariaeth wreiddiol yn Llyfrgell Rhydaman, hefyd wedi agor yn Llyfrgell Caerfyrddin ac y byddai'n cael ei ymestyn yn fuan i Lyfrgell Llanelli gan gwblhau ei ddarpariaeth yn y tair llyfrgell ranbarthol. Nodwyd hefyd mai Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ddarparu'r gwasanaeth
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2019-2020. |
||||||||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 PDF 154 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach) Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyflwynwyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol ar yr adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Cyllideb Gyfalaf y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2020. Nodwyd y rhagwelid tanwariant o £201k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £27,092k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £2,937k yn y Cyfrif Refeniw Tai.
Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:- · Mewn ymateb i gwestiwn ar yr amrywiant o £143k a ragwelwyd ar gyfer y marchnadoedd da byw oherwydd diffyg incwm ym Mart Nant y Ci, atgoffwyd y Pwyllgor gan y Pennaeth Adfywio fod y Cyngor wedi ceisio tendrau yn ddiweddar ar gyfer gweithredu'r Mart hwnnw. Roedd y tendrau hynny bellach yn cael eu gwerthuso a rhagwelwyd y byddai cyhoeddiad ar weithrediad y mart yn cael ei wneud cyn bo hir. · Cyfeiriwyd at yr amrywiant o £88k a ragwelwyd mewn incwm eiddo masnachol ac at y ffaith nad oes unrhyw obaith uniongyrchol o gael ei ail-osod. Cadarnhaodd y Pennaeth Adfywio y gellir priodoli hynny i golli incwm yn sgil pandemig Covid gan fod rhai busnesau wedi rhoi'r gorau i fasnachu ac mae rhenti busnesau eraill wedi'u rhewi. Dywedodd, wrth i'r sefyllfa bresennol barhau, y gobaith oedd y byddai'r awdurdod yn gallu cadw cynifer o'i denantiaid busnes â phosibl · O ran gweithredu Canolfan Hamdden Sanclêr, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod nifer o feysydd yn cael eu hystyried i gynyddu ei defnydd a lleihau lefel y cymhorthdal presennol. Roedd y rheiny'n cynnwys trafodaethau parhaus gyda Chyngor Cymuned Sanclêr ynghylch trefniant partner (ar gyfer y Gât yn benodol, ond mae hefyd yn cysylltu â'r adolygiad ehangach o asedau cymunedol yn yr ardal), buddsoddi mewn offer ffitrwydd newydd, defnyddio arian Adran 106 o ddatblygiad tai cyfagos i fuddsoddi yn y ganolfan, a thrafodaethau gyda thenantiaid a defnyddwyr presennol. Mae cynllun cyfalaf hefyd wedi'i lunio ond roedd angen arian ychwanegol i fwrw ymlaen. Atgoffodd y Pwyllgor, er bod bwriad i leihau lefel y cymhorthdal, y dylai fod yn ymwybodol bod cyfleusterau o'r fath mewn ardaloedd gwledig yn fwy tebygol o fod angen rhywfaint o gymhorthdal oherwydd dwyseddau poblogaeth is, a thaliadau asedau sefydlog yn bennaf fel cyfraddau a chostau ynni ar gyfer adeiladau mawr fel canolfannau hamdden. · Mewn ymateb i gwestiwn ar yr amrywiant o £200k a ragwelir ar gyfer gwaith i Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili, dywedodd y Pennaeth Hamdden ei fod yn ymwneud â gwaith annisgwyl i ymdrin â phydredd sych, fel rhan o'r cynllun y cytunwyd arno i osod to newydd yn yr Amgueddfa. Er bod y prosiect wedi cynnwys elfen o gyllid wrth gefn, nid oedd hynny wedi bod yn ddigon i dalu'r costau cyfalaf ychwanegol ac felly roedd angen cyfraniad refeniw. Roedd y gwaith hwnnw bellach wedi'i gwblhau ac roedd yr adeilad yn ddiddos rhag d?r.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyfalaf yn cael ei dderbyn. |
||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2021/22 PDF 408 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft Adrannol Cymunedau 2021/22. Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor wrth y Pwyllgor fod pob un o'r Cynlluniau Busnes a gyflwynwyd i'r Pwyllgor y diwrnod hwnnw yn rhoi crynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor. Ategwyd pob cynllun gan gynlluniau adrannol manwl ac roedd pob un yn destun adolygiad rheolaidd. Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad: · O ran cwestiwn ar adennill aelodaeth a nifer y defnyddwyr mewn cyfleusterau Hamdden i lefelau cyn covid a thu hwnt erbyn 31/3/22, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod nifer o bethau'n cael eu hystyried i gyflawni'r nod hwnnw. Roedd y rheiny'n cynnwys targedu aelodau presennol, drwy gronfa ddata'r aelodau, mwy o ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol a marchnata a chysylltu ag adrannau eraill y cyngor, megis gofal cymdeithasol ac addysg, i ddenu defnyddwyr newydd i'r cyfleusterau ar ôl y pandemig
Dywedodd mai un o'r anawsterau wrth gyflawni'r mesur oedd yr ansicrwydd ynghylch sut y byddai'r cyhoedd yn ymateb ar ôl covid. Rhagwelwyd y byddai'r defnydd o gyfleusterau awyr agored fel Parc Gwledig Pen-bre yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf yn enwedig ar gyfer y safle gwersylla ac arlwyo. Mae disgwyl i'r canolfannau hamdden ailagor o 1 Mai, ac er nad oedd dyddiad wedi'i roi eto ar gyfer agor theatrau, roedd unrhyw incwm a gollwyd yn sgil eu cau yn parhau i gael ei dalu o gronfa caledi Llywodraeth Cymru. · O ran y gwaith adnewyddu ar gyfer Parc Howard, Llanelli, dywedodd y Pennaeth Hamdden eu bod wedi cael ei oedi wrth i ganiatâd adeilad rhestredig gael ei roi. Roedd y caniatâd hwnnw wedi'i roi bellach ac roedd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r contractwyr penodedig i ddechrau gweithio cyn gynted â phosibl. Byddai'r rheiny'n cynnwys atgyweirio'r to ar y cyfan, gyda'r nod o symud ymlaen i fynd i'r afael â gwaith trydanol a mecanyddol fel y cam nesaf, ac wedyn rhagor o waith cosmetig, gan ddibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes Adrannol Cymunedau 2021/22 i'r graddau yr oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Tai a Hamdden. |
||||||||||||||||
DETHOLIAD ADFYWIO O'R CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2021/22 PDF 408 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a nododd ddyfyniad o Gynllun Busnes Adrannol y Prif Weithredwr 2021/22 ar gyfer Gwasanaethau Adfywio. Nodwyd bod y Cynllun Busnes, fel yr amlinellwyd yng nghofnod 7 uchod gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, yn rhoi crynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor ac fe'i hategwyd gan gynllun adrannol sy'n destun adolygiad rheolaidd. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn elfen Gwasanaethau Adfywio Cynllun Busnes y Prif Weithredwr 2021/22. |
||||||||||||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2021/2022 PDF 441 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Drafft 2021/22 yr Adran Amgylchedd mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl h.y. Eiddo a Chynllunio. Nodwyd bod y Cynllun Busnes, fel yr amlinellwyd yng nghofnod 7 uchod gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor, yn rhoi crynodeb o'r camau gweithredu a'r mesurau allweddol sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o gyflawni Strategaeth Gorfforaethol ac Amcanion Llesiant y Cyngor ac fe'i hategwyd gan gynlluniau adrannol manwl sy'n destun adolygiad rheolaidd.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad: · Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio mewn ymateb i gwestiwn ar fynd i'r afael â chlefyd coed ynn yn y Sir, fod yr holl waith cwympo coed yn cael ei gontractio drwy fframwaith Contractwyr Clefyd Coed Ynn. Fodd bynnag, roedd archwiliadau'n cael eu cynnal ar ddichonoldeb hyfforddi staff y cyngor i wneud gwaith cwympo coed ar ei dir ei hun. Cadarnhaodd ymhellach fod dyraniad presennol y gyllideb yn ddigon i alluogi gwaith i gael ei wneud · Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio fod ymgynghorwyr allanol wedi'u cyflogi i helpu i leihau'r ôl-groniad presennol o geisiadau cynllunio sy'n aros am benderfyniad a bod ymweliadau safle yn cael eu cynnal gan swyddogion, yn amodol ar gydymffurfio â'r rheoliadau covid presennol. PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Amgylchedd 2021/22 i'r graddau yr oedd yn ymwneud â Gwasanaethau Eiddo a Chynllunio. |
||||||||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: (NODER: Roedd y Cynghorydd J. Gilasbey wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach) Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 17 Mai 2021.
PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 17 Mai 2021. |
||||||||||||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 CHWEFROR 2021 PDF 232 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |