Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Rhoddodd yr Arweinydd deyrnged i Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin yn dilyn ei farwolaeth yn ddiweddar gan ychwanegu bod Cadeirydd y Cyngor wedi ysgrifennu at Ei Mawrhydi Y Frenhines yn mynegi cydymdeimlad dwys â'r Teulu Brenhinol. Roedd baneri wedi cael eu gostwng i hanner mast yn Neuadd y Sir, Neuadd y Dref, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman.

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd, a oedd yn siarad ar ran y Gr?p Annibynnol, deyrnged hefyd i Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin, gan gyfeirio at ei ymweliadau niferus â Sir Gaerfyrddin. Ychwanegodd mai llwyddiant Gwobrau Dug Caeredin i bobl ifanc yn benodol fyddai ei waddol parhaol.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

L.M. Stephens

8 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch 2021/22;

Mae gan aelod o'r teulu fusnes a oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun;

P.M. Hughes

8 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch 2021/22;

Yn byw ar safle busnes;

 

L. D. Evans

6 - Cynnig y Rhaglen Moderneiddio Addysg i adleoli Ysgol Heol Goffa i safle newydd a chynyddu nifer y lleoedd o 75 i 120;

Mae perthynas yn gweithio yn yr ysgol;

E. Dole

 

8 - Ardrethi Busnes - Cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch 2021/22;

Mae gan ei wraig fusnes sy'n rhan o gwmpas y cynllun.

 

3.

COFNODION - 22 MAWRTH 2021 pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021, gan eu bod yn gywir.

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN YR AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cynghorydd Rob James wedi tynnu yn ôl y pedwar cwestiwn â rhybudd a oedd ganddo.

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

5.1

CWESTIWN GAN MR IAN KYLE I'R CYNGHORYDD HAZEL EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS AMGYLCHEDD

"A fyddai modd inni gael cydnabyddiaeth o'n cais am gymorth a threfnu ymgynghoriad cyn gynted â phosibl i drafod rhinweddau'r cynnig hwn?

 

I grynhoi'r cynnig, efallai eich bod yn ymwybodol bod Heol Caerfyrddin wedi bod ar gau am dros flwyddyn erbyn hyn oherwydd gwaith adeiladu sydd ar waith yn y Neuadd Sirol. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r busnesau lleol a'r trigolion wedi sylwi ar effeithiau cadarnhaol cau'r heol i draffig trwodd a sefydlwyd deiseb ym mis Medi 2020 yn gofyn am i'r heol barhau ar gau yn barhaol. Llofnodwyd deiseb gan ychydig llai na 300 o bobl ac roedd nifer o sylwadau ynghylch pryderon am ddiogelwch, yn enwedig ynghylch plant ac unigolion llai abl oherwydd bod yr heol/palmant yn gul.

 

Yn ogystal, mae busnesau lleol wedi gwneud nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch yr angen i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn enwedig ar ôl y cyfnod ofnadwy hwn o ran Covid, yn benodol sut roedd cau'r heol wedi gwneud y dref yn lle llawer mwy pleserus i'r trigolion a deniadol i'r ymwelwyr. O ystyried y gwaith ailddatblygu ar hen Neuadd y Farchnad ar ran uchaf Stryd Caerfyrddin, nid yw ystyried newid y mynediad i gerbydau ar hyd yr heol yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd. 

 

Rydym (trigolion Heol Caerfyrddin) wedi bod yn pwyso ar Edward Thomas, y Cynghorydd Sir lleol, a'r adran briffyrdd ers mis Hydref 2020 er mwyn ceisio trefnu ymgynghoriad â ni ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwn, a hyd yma bach iawn yw'r cynnydd rydym wedi'i wneud.

 

Rydym wedi cael ein siomi gan y Cyngor o ran y diffyg cydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer y cynnig hwn a gyflwynwyd gan y trigolion a'r busnesau yn y dref, a gofynnwn i chi, fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, roi ateb inni ynghylch y cwestiwn uchod."

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"A fyddai modd inni gael cydnabyddiaeth o'n cais am gymorth a threfnu ymgynghoriad cyn gynted â phosibl i drafod rhinweddau'r cynnig hwn? I grynhoi'r cynnig, efallai eich bod yn ymwybodol bod Stryd Caerfyrddin wedi bod ar gau am dros flwyddyn erbyn hyn oherwydd gwaith adeiladu sydd ar waith yn y Neuadd Sirol. Yn ystod y cyfnod hwn mae'r busnesau lleol a'r trigolion wedi sylwi ar effeithiau cadarnhaol cau'r heol i draffig trwodd a sefydlwyd deiseb ym mis Medi 2020 yn gofyn am i'r heol barhau ar gau yn barhaol. Llofnodwyd deiseb gan ychydig llai na 300 o bobl ac roedd nifer o sylwadau ynghylch pryderon am ddiogelwch, yn enwedig ynghylch plant ac unigolion llai abl oherwydd bod yr heol/palmant yn gul.

Yn ogystal, mae busnesau lleol wedi gwneud nifer o sylwadau cadarnhaol ynghylch yr angen i gynyddu nifer yr ymwelwyr yn enwedig ar ôl y cyfnod ofnadwy hwn o ran Covid, yn benodol sut roedd cau'r heol wedi gwneud y dref yn lle llawer mwy pleserus i'r trigolion a deniadol i'r ymwelwyr. O ystyried y gwaith ailddatblygu ar hen Neuadd y Farchnad ar ran uchaf Stryd Caerfyrddin, nid yw ystyried newid y mynediad i gerbydau ar hyd yr heol yn gwneud synnwyr mewn gwirionedd.

Rydym (trigolion Heol Caerfyrddin) wedi bod yn pwyso ar Edward Thomas, y Cynghorydd Sir lleol, a'r adran briffyrdd ers mis Hydref 2020 er mwyn ceisio trefnu ymgynghoriad â ni ynghylch sut y gallwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwn, a hyd yma bach iawn yw'r cynnydd rydym wedi'i wneud.

Rydym wedi cael ein siomi gan y Cyngor o ran y diffyg cydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer y cynnig hwn a gyflwynwyd gan y trigolion a'r busnesau yn y dref, a gofynnwn i chi, fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sydd â chyfrifoldeb dros Briffyrdd, roi ateb inni ynghylch y cwestiwn uchod.”

 

Ymateb y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd:-

 

“Diolch i chi Mr Kyle am eich cwestiwn, rwyf wedi nodi eich sylwadau a'ch pryderon. Rwyf wedi ymweld â'r safle ac wedi ystyried y materion yr ydych wedi'u codi.

Rwyf arddeall bod y rhan isaf o Stryd Caerfyrddin yn dyddio'n ôl i'r oesoedd canol ac, fel yr ydych yn nodi, mae'r ffordd a'r troedffyrdd yn gul. Yn y cyd-destun hwn gallaf ddeall y rhesymeg y tu ôl i'ch awgrym o gau'r ffordd yn barhaol i draffig ac mae hyn yn cyd-fynd ag amcanion trafnidiaeth ehangach y Cyngor Sir o annog mwy o gerdded a beicio mewn trefi. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig deall bod Stryd Caerfyrddin yn rhan o rwydwaith priffyrdd ehangach ac mae angen nodi bod ymyriadau ar un rhan o'r rhwydwaith yn effeithio ar fannau eraill, felly mae angen rhoi ystyriaeth gytbwys a chyfannol i’r mater.

Rwyf wedi trafod y goblygiadau hyn â'r Cynghorydd Thomas ac mae'r ddau ohonom yn rhannu nifer o bryderon gan gynnwys:

 

·       Diffyg cyfleusterau troi digonol a diogel ym mhen uchaf Stryd Caerfyrddin.

·       Y llwybr estynedig y byddai'n rhaid i draffig lleol ei ddefnyddio.

·       Pwysau traffig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.1

6.

RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG CYNNIG I ADLEOLI YSGOL HEOL GOFFA I SAFLE NEWYDD A CYNYDDU CAPASITI O 75 I 120 pdf eicon PDF 463 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd L.D. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi, yn dilyn ymgynghoriad, y cynigion i adleoli Ysgol Heol Goffa erbyn Medi 2023 i safle newydd wrth ymyl Ysgol Pen Rhos a gwblhawyd yn ddiweddar a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120.

 

Roedd y Bwrdd, yn ei gyfarfod ar 21 Rhagfyr 2020 [gweler cofnod 7], wedi cymeradwyo cyhoeddi'r Hysbysiad Statudol gofynnol. Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Statudol ar 11 Ionawr, 2021 gan ganiatáu 28 o ddiwrnodau i wrthwynebwyr anfon eu gwrthwynebiadau'n ysgrifenedig at y Cyngor. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau ac felly nid oedd Adroddiad Gwrthwynebu.

 

Dywedwyd wrth y Bwrdd bod llythyr i gefnogi'r cynigion wedi dod i law gan Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa a oedd hefyd yn canmol y Cyngor am ei fuddsoddiad yn yr ysgol newydd a'i ymrwymiad i weithio gydag ysgolion eraill yn y sir i gefnogi dysgwyr a staff.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR, ar y sail canlynol:

·       nad oes unrhyw gynigion cysylltiedig eraill;

·       bod ymgynghoriad wedi’i gynnal ynghylch y cynnig statudol a chafodd ei gyhoeddi yn unol â'r Cod Trefniadaeth Ysgolion ac roedd yn cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol ac, ar ôl ystyried y ddogfen ymgynghori a'r adroddiad ymgynghori;

·       ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau mewn ymateb i'r Hysbysiad Statudol; 

bod y cynigion felly i adleoli Ysgol Heol Goffa a chynyddu ei chapasiti o 75 i 120, fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol, yn cael eu rhoi ar waith.

 

7.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2020 I RHAGFYR 31AIN 2020 pdf eicon PDF 402 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad diweddaru ar weithgareddau rheoli'r trysorlys a'r dangosyddion darbodus ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020.

A

Talwyd teyrnged i'r gwaith a wnaed gan swyddogion yn ystod y cyfnod eithriadol hwn o sicrhau bod y Dangosyddion Darbodus yn parhau o fewn y terfynau a bennwyd gan Gyllideb 2020-2021 a Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-2021.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod yr Adroddiad Chwarterol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Rhagfyr 2020 yn cael ei dderbyn.

 

8.

CYFRADDAU BUSNES - CYNLLUN RHYDDHAD ARDRETHI MANWERTHU, HAMDDEN A LETYGARWCH 2021/22 pdf eicon PDF 338 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

SYLWER: Roedd y Cynghorwyr E. Dole, P.M Hughes ac L.M.Stephens, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a felly roeddent wedi gadael y cyfarfod.

Felly, cadeiriodd y Cynghorydd D.M.Jenkins weddill y cyfarfod.]

 

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn manylu ar gynnig Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch hyd at 2021/22. Gan mai mesur dros dro oedd hwn mewn ymateb i'r sefyllfa oherwydd Coronafeirws nid oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol ond yn hytrach byddai'n caniatáu i awdurdodau bilio roi rhyddhad o dan y pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn cyffredinol sydd ar gael o dan Adran 47 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cyllid) 1988. Gan ei fod yn b?er disgresiwn, fodd bynnag, roedd yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol fabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol a fyddai'n cael ei ariannu'n llawn heb unrhyw gost i'r awdurdod ar yr amod bod y rhyddhad yn cael ei roi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

 

Byddai'r cynllun, a oedd yn anelu at ddarparu cymorth ar gyfer eiddo cymwys drwy gynnig gostyngiad o 100% ar y bil ardrethi annomestig ar gyfer eiddo, i bob safle cymwys, yn gymwys i bob trethdalwr cymwys sydd â gwerth ardrethol o £500,000 neu lai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL bod y Cynllun Rhyddhad Arthdrethi 2021/22 ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn cael ei fabwysiadu.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw eitemau eraill o fater brys.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau