Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer. 01267 224029
Nodyn: .
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
|
YSTRIED YR ADRODDIAD YNGHYLCH Y CAIS CYNLLUNIO CANLYNOL [YR YMWELODD Y PWYLLGOR A'I SAFLE YN FLAENOROL] A PHENDERFYNU AR Y CAIS:- Dogfennau ychwanegol: |
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2026) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.
Cafwyd sylwadau gan y ddau Aelod Lleol a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai rai o'r pwyntiau yn adroddiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd. Roedd y prif feysydd pryder yn ymwneud â'r canlynol: • GP1 - Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Da: Roedd y cynnig yn cynrychioli dwysáu defnydd a fyddai'n effeithio ar drigolion cyfagos. • H3 - Addasu ac Isrannu Anheddau Presennol: Mynegwyd pryderon ynglŷn â diffyg allanfeydd brys a'r risg tân posibl, ynghyd â chynllun y gegin a'r ystafell ymolchi a'r diffyg preifatrwydd a oedd yn deillio o hynny. • TR3 – Priffyrdd mewn Datblygiadau – Ystyriaethau Dylunio: Mynegwyd pryderon ynghylch yr effaith niweidiol ar barcio a diogelwch priffyrdd oherwydd parcio cyfyngedig ar y stryd ac absenoldeb cynllun parcio ar gyfer y safle. • Gwastraff ac Ailgylchu: Mynegwyd pryderon ynghylch problemau gwastraff ac ailgylchu posibl sy'n deillio o nifer y preswylwyr o fewn un aelwyd.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio), i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio PL/10904 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Lle a Chynaliadwyedd.
|