Agenda

Cyngor Sir - Dydd Mercher, 11eg Tachwedd, 2026 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine White  01267 224030

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

4.

CYHOEDDIADAU GAN YR ARWEINYDD, AELODAU'R CABINET NEU'R PRIF WEITHREDWR (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

5.

CYMERADWYO A LLOFNODI COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 14 HYDREF 2026 pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

I GEISIO CYMERADWYAETH Y CYNGOR SIR AR Y PROFFIL SWYDD AR GYFER RECRIWTIO I'R SWYDD O BRIF WEITHREDWR CYNORTHWYOL DROS DRO pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y CABINET MEWN PERTHYNAS Â'R EITEMAU CANLYNOL

Dogfennau ychwanegol:

7.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2025-2026 pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.2

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2025/26: CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN MABWYSIEDIG (2006 - 2021) pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

7.3

MABWYSIADU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018 - 2033 A CHANLLAWIAU CYNLLUNIO ATODOL pdf eicon PDF 156 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y CABINET A GYNHALIWYD AR Y

Dogfennau ychwanegol:

8.1

5 HYDREF 2026 pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

8.2

19 HYDREF 2026 pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

9.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR TINA HIGGINS AC IWAN GRIFFITHS

“Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod y rôl hanfodol y bydd ynni adnewyddadwy yn ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd, cryfhau diogelwch ynni, lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi'i fewnforio a chefnogi dyfodol mwy cynaliadwy i Gymru. Mae'r Cyngor hwn hefyd yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wneir gan gynlluniau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned ac a arweinir yn lleol, sy'n helpu i gadw gwerth cymdeithasol a gwerth economaidd o fewn cymunedau lleol. Mae'r Cyngor yn cydnabod ymhellach bwysigrwydd gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer paneli solar ben to a'r defnydd o dir sydd eisoes wedi’i ddatblygu lle bynnag y bo'n bosibl. Wrth i ddatblygiad ynni solar barhau i ehangu, mae'n bwysig bod trefniadau priodol ar waith i sicrhau y gellir adfer tir yn gyfrifol ar ddiwedd oes weithredol datblygiad ac nad yw'r costau o wneud hynny yn cael eu trosglwyddo i gymunedau lleol na threthdalwyr y dyfodol.

 

Felly mae'r Cyngor hwn wedi penderfynu:

 

1.     Galw ar Lywodraeth Cymru, fel rhan o'i gwaith a'i hymgynghoriad cyfredol ar ddyfodol ynni adnewyddadwy yng Nghymru, i ystyried dull Cymru gyfan o sicrhau datgomisiynu ac adfer datblygiadau solar ar raddfa fawr.

 

2.     Y dylai unrhyw ddull o'r fath gynnwys Cynlluniau Datgomisiynu ac Adfer Tir wedi'u costio'n annibynnol, ynghyd â threfniadau diogelwch ariannol priodol i sicrhau y gellir talu costau llawn datgomisiynu ac adfer safle pan fo angen.

 

3.     Y dylai trefniadau o'r fath fod gymesur â graddfa, model perchnogaeth a natur y datblygiad, gan gydnabod rôl a manteision penodol prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r gymuned.

 

4.     Y dylai unrhyw drefniadau diogelwch ariannol fod yn destun adolygiad cyfnodol trwy gydol oes weithredol datblygiad ac ni ddylai ddibynnu yn unig ar werth sgrap neu ailwerthu'r offer yn y dyfodol. Ni ddylai unrhyw newid perchnogaeth effeithio ar rwymedigaethau datgomisiynu, adfer neu ddiogelwch ariannol, a fydd yn trosglwyddo i unrhyw berchennog olynol.

 

5.     Y dylai unrhyw gyllid budd cymunedol sy'n gysylltiedig â datblygiad barhau i fod ar gael er budd cymunedau lleol ac ni ddylid ei ddefnyddio i fodloni rhwymedigaethau datgomisiynu neu adfer.

 

6.     Y dylai'r Cyngor, lle bo hawl gyfreithiol i wneud hynny, geisio sicrhau camau diogelwch o'r fath drwy'r broses gynllunio ac eirioli am ddarpariaethau cyfatebol os nad y Cyngor yw'r awdurdod sy'n penderfynu.”

 

Dogfennau ychwanegol:

9.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR MARTYN PALFREMAN AC EDWARD SKINNER

Rhybudd o Gynnig - Darpariaeth Nyrsio Gofrestredig barhaol mewn cyfleusterau ADY Arbenigol ledled Sir Gaerfyrddin

Yn aml mae'n ofynnol darparu ymyriadau meddygol cymhleth ar gyfer disgyblion mewn cyfleusterau ADY arbenigol ledled ein Sir yn ystod y diwrnod ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys bwydo gyda thiwb, gosod cathetr, gofal traceotomi, monitro ac ymateb i ffitiau, a rhoi meddyginiaeth achub ar bresgripsiwn pan fo angen.

Er gwaethaf ymroddiad y staff addysgol mewn sefydliadau o'r fath, sy'n darparu gofal rhagorol i ddisgyblion ac sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant i ddiwallu anghenion gofal iechyd unigol, dylid cydnabod nad oes ganddynt gymwysterau meddygol. Felly, ni ddylid disgwyl iddynt fod yn gyfrifol am nodi dirywiad clinigol, asesu symptomau meddygol cymhleth neu ymateb i argyfyngau meddygol a allai fod yn peryglu bywyd yn ystod amser ysgol.

Fel sir mae gennym lawer o gyfleusterau sy'n cefnogi ein pobl ifanc, cyfleusterau fel Canolfan Elfed yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth, Canolfan yr Enfys ym Mro Banw, a Chanolfan Amanwy yn Ysgol Dyffryn Aman i enwi rhai yn unig a'n hysgol arbennig benodol Ysgol Heol Goffa. Rhaid cofio hefyd fod gennym bobl ifanc gydag anghenion tebyg mewn lleoliadau prif ffrwd ar draws y sir

Rwy'n ymwybodol bod swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gydag Ysgol Heol Goffa a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ynglŷn â darpariaeth nyrsio gymunedol. Fodd bynnag, nid yw cymorth nyrsio cymunedol, hyfforddiant staff a phresenoldeb cyfnodol yn yr ysgol gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu'r capasiti na'r arbenigedd parhaol sydd eu hangen i ymateb i argyfyngau meddygol difrifol y mae rhai disgyblion yn agored iddynt ac a all gynnwys ffitiau, anawsterau anadlu a chyflyrau acíwt eraill.

Mae'r Pennaeth wedi ceisio cael darpariaeth nyrsio barhaol ar y safle am fwy na phum mlynedd. Roedd arolygiad Estyn ym mis Tachwedd 2025, y cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2026, wedi nodi’n benodol bod diffyg nyrs ysgol bwrpasol yn effeithio ar lefel y cymorth meddygol parhaus sydd ar gael i ddisgyblion ag anghenion iechyd cymhleth. Tynnodd sylw at y ffaith bod nyrs yn helpu i gydlynu gofal a chefnogi teuluoedd mewn ysgolion tebyg ledled Cymru, ac y byddai cael y rôl hon yn cynnig mwy o sicrwydd i rieni ac yn helpu disgyblion i dderbyn cymorth meddygol cyson, sydd wedi'i gydlynu'n dda yn ystod y diwrnod ysgol. Mae rhieni wedi mynegi pryder difrifol a pharhaus am ddiogelwch eu plant yn absenoldeb nyrs gofrestredig barhaol ar y safle.

Mae'r Cyngor yn credu y dylai plant â chyflyrau meddygol cymhleth sy'n cyfyngu ar fywyd allu mynychu'r ysgol yn ddiogel gydag urddas, ac na ddylai eu mynediad at addysg ddibynnu ar athrawon a chynorthwywyr addysgu yn cymryd cyfrifoldebau sy'n gofyn am arbenigedd clinigol cofrestredig briodol.

Felly, penderfyniad y Cyngor yw:

•         Cynnal cyfarfod brys yn cynnwys cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, penaethiaid a chynrychiolwyr cyrff llywodraethu, cynrychiolwyr rhieni, a swyddogion y Cyngor, gyda'r nod o gytuno ar gynllun amserol wedi'i ariannu ar gyfer darpariaeth nyrsio barhaol neu briodol ar draws cyfleusterau anghenion dysgu ychwanegol arbenigol  ...  view the full Agenda text for item 9.2

Dogfennau ychwanegol:

9.3

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORWYR ROB EVANS A NYSIA EVANS

Mae'r Cyngor hwn yn nodi:

Pryder ymhlith y cyhoedd am gost gynyddol yr Atriwm sef ailddatblygiad hen siop Debenhams yng Nghaerfyrddin, a ragwelir bellach yn £41.003 miliwn a'r ddeiseb yn galw am ymchwiliad i'r datblygiad.

Mae'r rhagolwg yn cynnwys £4.253 miliwn ar gyfer atgyweiriadau strwythurol.

Mae'r cyhoedd yn haeddu esboniad clir o'r costau cynyddol, pryd ddaeth y gwaith strwythurol yn angenrheidiol, sut roedd yn gysylltiedig â'r prosiect gwreiddiol, ac a ellir adennill yr arian.

Penderfyniad y Cyngor hwn yw:

1.     Gofyn i'r Cabinet gomisiynu adolygiad annibynnol o'r newidiadau i'r prosiect gwreiddiol, y gwaith strwythurol a'r costau sy'n deillio o hynny, gan sefydlu:

•         Beth oedd wedi'i gynnwys yn y prosiect a gymeradwywyd yn wreiddiol a'r gyllideb.

•         Faint o'r cynnydd a achoswyd gan y cynnydd mewn costau adeiladu a sut y cyfrifwyd y ffigwr hwnnw.

•         Faint ychwanegol a gymeradwywyd ar gyfer pob newid i'r cynllun gwreiddiol, pryd y rhoddwyd cymeradwyaeth a phwy a awdurdododd hynny.

•         Ar ba gam y darganfuwyd y diffygion, a phryd y cafodd y gwaith strwythurol ei gynnig, ei gymeradwyo a'i gyflawni.

•         P'un a oedd y gwaith hwnnw'n mynd i'r afael â'r diffygion oedd yno eisoes, yn cefnogi'r cynllun gwreiddiol, neu a ddaeth yn angenrheidiol oherwydd newidiadau diweddarach i'r prosiect.

 

2.     Gofyn am ddadansoddiad clir o'r cynnydd o £21.395 miliwn o'r gyllideb wreiddiol o £19.608 miliwn i'r rhagolwg presennol o £41.003 miliwn, gan roi manylion ar wahân am y canlynol:

•         Newidiadau ac ychwanegiadau i'r cynllun gwreiddiol.

•         Cynnydd mewn costau adeiladu.

•         Y rhagolwg o £4.253 miliwn ar gyfer atgyweiriadau strwythurol.

•         Costau ychwanegol eraill, gan gynnwys ffioedd ac oedi.

 

Dylai'r dadansoddiad ddangos beth sydd wedi'i wario, beth sydd wedi'i ymrwymo a'r hyn sy'n parhau i gael ei amcangyfrif, heb gyfrif unrhyw gost ddwywaith.

3.     Ei gwneud yn ofynnol i'r adolygiad sefydlu pwy oedd yn gyfrifol am y costau hyn ac a ellir adennill arian gan gontractwyr, ymgynghorwyr, yswirwyr neu bartïon cyfrifol eraill. Dylai’r Cabinet fynd ar drywydd adennill yr arian lle bo achos cyfreithiol ac ariannol cadarn, esbonio unrhyw benderfyniad i beidio â bwrw ymlaen, a gweithredu'n brydlon i amddiffyn hawliadau posibl.

4.     Gofyn i'r Cabinet gyhoeddi cwmpas, cyllideb ac amserlen yr adolygiad o fewn chwe wythnos i'r cynnig hwn gael ei fabwysiadu, a'i gwblhau o fewn tri mis i'w gomisiynu. Dylid adrodd ar y canfyddiadau a'r camau arfaethedig, gan gynnwys adennill arian, i'r Cyngor llawn a'u cyhoeddi, yn amodol ar gyfyngiadau cyfreithiol angenrheidiol. Dylid esbonio unrhyw oedi mewn adroddiad interim.

 

Dogfennau ychwanegol:

10.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

11.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

12.

COFNODION ER GWYBODAETH (AR GAEL AR Y WEFAN)

Dogfennau ychwanegol:

12.1

PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL - 2 MEDI 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.2

PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD - 4 MEDI 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.3

PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO - 28 MEDI 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.4

PWYLLGOR TRWYDDEDU - 29 MEDI 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.5

PWYLLGOR SAFONAU - 30 MEDI 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.6

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG, POBL IFANC A'R IAITH GYMRAEG - 13 HYDREF 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.7

PWYLLGOR CRAFFU IECHYD A GWASANAETHAU CYMDEITHASOL - 15 HYDREF 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.8

PWYLLGOR CRAFFU LLE, CYNALIADWYEDD A NEWID HINSAWDD - 20 HYDREF, 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.9

PWYLLGOR CYNLLUNIO - 22 HYDREF 2026

Dogfennau ychwanegol:

12.10

PWYLLGOR CRAFFU PERFFORMIAD AC ADNODDAU CORFFORAETHOL - 23 HYDREF 2026

Dogfennau ychwanegol: