Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Twr y Cadeirydd), Neuadd y Sir, Caerfyrddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 4YDD MEDI, 2026 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Medi 2026, gan ei fod yn gywir.
|
|
|
POLISI CYFNOD PRAWF DIWYGIEDIG Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd y fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Cyfnod Prawf i'w gymeradwyo mewn ymateb i newidiadau sydd ar ddod yn sgil Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025. Nodwyd, o 1 Ionawr 2027, y byddai'r cyfnod cymhwyso ar gyfer hawliadau diswyddo annheg cyffredin yn gostwng o ddwy flynedd i chwe mis o wasanaeth parhaus, ac y byddai'r cap statudol presennol ar iawndal hefyd yn cael ei ddileu.
Nodwyd bod y polisi diwygiedig yn cryfhau'r trefniadau ar gyfer rheoli cyfnodau prawf, gan gynnwys:
• cyfrifoldebau cliriach i reolwyr wrth fonitro ac adolygu perfformiad; • adolygiadau cyfnod prawf ffurfiol ar ôl chwe wythnos a thri mis; • gwell trefniadau o ran cofnodi trafodaethau a chanlyniadau; • darpariaeth i ymestyn cyfnod prawf hyd at bum mis lle nad oedd mesurau perfformiad wedi'u bodloni, yn dilyn cyngor Adnoddau Dynol; a • sicrhau bod penderfyniadau i derfynu cyflogaeth yn ystod cyfnod prawf yn dilyn proses deg a chymesur.
Nodwyd mai bwriad y newidiadau oedd sicrhau bod materion yn ymwneud â pherfformiad, ymddygiad, presenoldeb a galluogrwydd yn cael eu nodi ac yn cael sylw yn gynharach, gan leihau'r risg o hawliadau tribiwnlys cyflogaeth llwyddiannus. Byddai Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu yn cefnogi'r gwaith gweithredu drwy arweiniad, cyngor a hyfforddiant priodol i reolwyr.
Gofynnodd yr Aelod Cabinet am sicrwydd y byddai rheolwyr yn cadarnhau eu bod wedi darllen, deall a gweithredu'r polisi diwygiedig. Cadarnhawyd y gellid monitro a oedd yr e-ddysgu perthnasol wedi'i gwblhau a mynd ati'n rhagweithiol i dargedu rheolwyr nad oeddent wedi cwblhau'r hyfforddiant, er nad oedd yr e-ddysgu yn orfodol ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd y byddai rhybuddion i reolwyr yn cael eu gosod drwy ResourceLink i ysgogi cwblhau adolygiadau cyfnod prawf ffurfiol.
Cadarnhawyd bod y polisi yn berthnasol i weithwyr y Cyngor, ac y byddai ysgolion yn cael eu hannog i'w fabwysiadu fel polisi enghreifftiol, gan gydnabod bod athrawon yn destun trefniadau cyfnod prawf ar wahân.
PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Cyfnod Prawf.
|
|
|
Y POLISI DIOGELWCH GWYBODAETH A SEIBER Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Seiberddiogelwch a Diogelwch Gwybodaeth, a oedd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu datblygiadau mewn seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth, gofynion rheoleiddiol a fframwaith polisi ehangach y Cyngor.
Nodwyd bod y polisi diwygiedig wedi gwneud y canlynol: • sefydlu'r Polisi Seiberddiogelwch a Diogelwch Gwybodaeth yn ffurfiol fel Polisi Defnydd Derbyniol y Cyngor, gan adolygu'r darpariaethau Defnydd Derbyniol yn flynyddol; • cryfhau rheolaethau mewn perthynas â dyfeisiau'r Cyngor, dyfeisiau personol a chymwysiadau heb eu hawdurdodi; • egluro cyfrifoldebau ar gyfer staff, rheolwyr, Penaethiaid Gwasanaeth, Perchnogion Asedau Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol, gan gynnwys hyfforddiant gorfodol ynghylch seiberddiogelwch a diogelu data; • cyflwyno gofynion yn ymwneud â deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol, gan gynnwys cyfyngiadau ar fewnbynnu gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif i systemau deallusrwydd artiffisial heb awdurdodiad penodol; • mabwysiadu dull Dim Ymddiriedaeth, gan gynnwys dilysu parhaus, mynediad braint leiaf a rheolaethau ychwanegol ar gyfer cyfrifon breintiedig; • egluro'r trefniadau cymeradwyo ar gyfer atal cyfrifon, cyrchu cofnodion gweithgarwch a monitro cyfathrebu electronig; • cryfhau'r gofynion ynghylch seiberddiogelwch cyflenwyr a thrydydd parti; a • cyflwyno trefniadau ar gyfer adolygu'r polisi yn rheolaidd i ymateb i ddigwyddiadau sylweddol a newidiadau rheoleiddio.
Nodwyd mai bwriad y polisi diwygiedig oedd cynnal fframwaith diogelwch gwybodaeth cadarn, cydymffurfio â gofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol, a rhoi eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau.
PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R Polisi Seiberddiogelwch a Diogelwch Gwybodaeth wedi'i ddiweddaru.
|
|
|
POLISI DEFNYDDIO'R RHYNGRWYD A MONITRO HYNNY Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Defnyddio'r Rhyngrwyd a Monitro Hynny, a oedd wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu arferion gwaith modern, deddfwriaeth gyfredol a gofynion seiberddiogelwch cryfach.
Roedd y polisi diwygiedig yn egluro defnydd derbyniol o'r rhyngrwyd a threfniadau monitro a gweithdrefnau cymeradwyo, ac roedd yn berthnasol i swyddogion, aelodau etholedig, contractwyr, staff asiantaeth a gwirfoddolwyr sy'n defnyddio systemau neu ddyfeisiau'r Cyngor.
PENDERFYNWYD CYMERADWYO'R fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Defnyddio'r Rhyngrwyd a Monitro Hynny.
|
|
|
Y POLISI YNGHYLCH DEFNYDDIO DYFEISIAU CLUDADWY Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi ynghylch Defnyddio Dyfeisiau Cludadwy a oedd yn nodi fframwaith y Cyngor ar gyfer y defnydd diogel a phriodol o ddyfeisiau cludadwy a symudol sy'n cyrchu systemau'r Cyngor neu'n trin data'r Cyngor.
Nodwyd bod y polisi wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu trefniadau gweithio hybrid modern, gwasanaethau cwmwl, a'r cynnydd mewn risgiau seiberddiogelwch. Roedd y diwygiadau yn egluro'r gwahaniaeth rhwng dyfeisiau sy'n eiddo i'r Cyngor a threfniadau Dewch â'ch Dyfais eich Hun, yn cryfhau'r trefniadau rheoli seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth ac yn cysoni’r polisi â fframwaith Seiberddiogelwch a Diogelwch Gwybodaeth ehangach y Cyngor.
Roedd y polisi diwygiedig hefyd yn cyflwyno rheolaethau cliriach ynghylch defnyddio dyfeisiau cludadwy y tu allan i'r Deyrnas Unedig, gan gynnwys gofyniad am awdurdodiad ymlaen llaw a chyngor ychwanegol gan y Swyddog Diogelu Data a'r Rheolwr Seiberddiogelwch ar gyfer teithio y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Nodwyd bod y polisi yn berthnasol i staff a defnyddwyr awdurdodedig eraill ac mai ei fwriad oedd lleihau'r risgiau o golli data, peryglu diogelwch data neu fynediad heb awdurdod yn ogystal â chefnogi cydymffurfiaeth â gofynion diogelu data.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi ynghylch Defnyddio Dyfeisiau Cludadwy.
|
|
|
POLISI DEWCH Â'CH DYFAIS EICH HUN (BYOD) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Dewch â'ch Dyfais eich Hun (BYOD) a oedd yn sefydlu trefniadau ar gyfer defnydd diogel o ffonau clyfar a llechi, sy'n eiddo personol, i gyrchu systemau a gwybodaeth y Cyngor.
Roedd y polisi diwygiedig yn egluro'r broses gymeradwyo a chyfrifoldebau defnyddwyr, yn cryfhau rheolaethau diogelwch dyfeisiau, ac yn cysoni trefniadau BYOD â fframwaith seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth ehangach y Cyngor. Roedd hefyd yn cefnogi cydymffurfiaeth â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018 a'i nod oedd lleihau'r risgiau o golli data, mynediad heb awdurdod a defnydd amhriodol o ddyfeisiau personol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Dewch â'ch Dyfais eich Hun.
|