Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Twr y Cadeirydd), Neuadd y Sir, Caerfyrddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
| Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|||||||||||||||||||||||||||
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16 MEDI 2026 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2026, gan ei fod yn gywir. |
|||||||||||||||||||||||||||
|
PENODI AELODAU I'R FFORWM DERBYNIADAU Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am ddau enwebiad Pennaeth ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir ar Fforwm Derbyniadau Addysg Sir Gaerfyrddin.
Yn dilyn ymddeoliad Mrs Non Neave, Pennaeth yr Hen Heol a Mr David Williams, Pennaeth Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth ar ddiwedd tymor 2026, anfonwyd gohebiaeth at Gymdeithas Penaethiaid Sir Gaerfyrddin ar gyfer ysgolion Cynradd ac Uwchradd yn ceisio enwebiadau yn lle'r ddau gynrychiolydd i eistedd ar Fforwm Derbyniadau Sir Gaerfyrddin. Nododd yr Aelod Cabinet bod un enwebiad wedi dod i law ar gyfer lleoedd gwag Ysgolion Cynradd ac Uwchradd.
Ar ôl ystyried yr enwebiadau:
PENDERFYNWYD penodi Mr Hugh Thomas (Ysgol Gyfun Emlyn) a Mr Steffan Jones (Ysgol Trimsaran a Ffwrnes) yn Gynrychiolwyr Penaethiaid ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir ar y Fforwm Derbyniadau Ysgolion. |
|||||||||||||||||||||||||||
|
PENODI LLYWODRAETHWYR A.LL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried y ceisiadau oedd wedi dod i law am y swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn y sir. Roedd gwahoddiad i gyflwyno enwebiadau wedi'i roi i'r Cadeirydd, i Bennaeth yr Ysgol ac i'r Aelod(au) Lleol yn achos Ysgolion Cynradd/yr aelod(au) a oedd yn llywodraethwyr yn achos Ysgolion Uwchradd.
Dywedwyd bod Llywodraethwyr Awdurdod Lleol yn cael eu penodi am 4 blynedd ac, os oedd y lle'n wag oherwydd bod cyfnod yr unigolyn yn y swydd yn dod i ben, bod nodyn ynghylch hynny yn y manylion am yr unigolyn os oedd am gael ei ailbenodi.
Ar ben hynny, nododd yr adroddiad, fod y Cynghorydd P. Barker wedi'i phenodi ar 16 Medi 2026 mewn camgymeriad, oherwydd gwall gweinyddol mewn perthynas â nifer y swyddi gwag ALl yn Ysgol Y Bedol. Yn unol â hynny, gwnaed cais i dynnu'r penodiad yn ôl wrth i holl rolau Llywodraethwr ALl ar Gorff Llywodraethu Ysgol y Bedol wedi'u llenwi.
PENDERFYNWYD:
|