Agenda a chofnodion drafft

Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol - Dydd Gwener, 23ain Hydref, 2026 11.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kelly Evans  01267 224178

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D. Nicholas.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd D. Jones am arweiniad ar Eitem 5, Adroddiad Blynyddol Cwynion y Cyngor 2025-26, ar ôl cyfeirio cwyn at yr Ombwdsmon. Y cyngor cyfreithiol oedd y dylai ddatgan buddiant a thynnu'n ôl os oedd hi'n ystyried bod y mater wedi'i benderfynu ymlaen llawn. Fel arall, os nad oedd y gŵyn yn gysylltiedig â'r adroddiad, gallai aros a chyfrannu.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law. 

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR 2025/26 pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol drafft y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2025/26, a oedd yn cynnwys hunanasesiad corfforaethol y Cyngor a'r gofynion adrodd statudol a fodlonwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus 2023.

Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn seiliedig ar bedwar Amcan Llesiant y Cyngor, fel yr amlinellir yn y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer 2022-27.

Rhoddwyd ystyriaeth i'r wybodaeth oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol, gan fwrw trosolwg ar berfformiad, cynnydd yn erbyn canlyniadau, mesurau allweddol, astudiaethau achos, meysydd gwella a nodwyd, ac atodiadau cefnogol.

Nodwyd hefyd fod rhywfaint o wybodaeth heb ei chynnwys eto mewn rhai adrannau, a byddai'r adrannau hynny'n cael eu diweddaru cyn gynted ag y byddai'r wybodaeth ar gael, cyn ystyried yr adroddiad yn Rhag-gyfarfod y Cabinet, gan y Cabinet, a chan y Cyngor i'w gymeradwyo'n derfynol a'i gyhoeddi yn 2027.

Roedd y swyddogion yn cytuno bod gwedd yr adroddiad a'r diagramau yn dangos graddfa a hyd a lled gwasanaethau'r Cyngor yn effeithiol. Cadarnhawyd y byddai crynodeb gweithredol, a fyddai'n drosolwg mwy cryno a hygyrch, yn cyd-fynd â'r adroddiad terfynol.

 

Ymatebodd yr Aelod Cabinet a'r Swyddogion i'r materion/sylwadau a godwyd gan y Pwyllgor. Dyma'r prif faterion:

 

•         Gofynnwyd a ddylai'r adroddiad gynnwys gwybodaeth am amddifadedd mewn cymunedau penodol, gan gynnwys Tyisha a Glanymôr, gan nad oedd y wybodaeth yn cael ei hadlewyrchu'n ddigonol yn yr adroddiad.  Atebodd y swyddogion mai nod yr adroddiad oedd rhoi trosolwg cytbwys o berfformiad ar draws yr Awdurdod yn ei gyfanrwydd. Cytunwyd i roi ystyriaeth i gyfeirio adroddiadau a rhaglenni perthnasol, gan gynnwys Rhaglen Tyisha, a darparu dolenni i wybodaeth gysylltiedig lle bo'n briodol gyda'r adroddiad terfynol ar y we.

•         Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad a ellid cynnwys unrhyw newidiadau fyddai'n deillio o ystyriaeth gan y pwyllgorau craffu yn yr adroddiad o hyd. Cadarnhaodd y swyddogion y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'w ystyried gan bob Pwyllgor Craffu. Ar ôl cwblhau'r broses graffu, byddai unrhyw newidiadau terfynol yn cael eu gwneud cyn cyflwyno'r adroddiad i'w gymeradwyo gan y Cabinet a'r Cyngor.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet fod y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor am 2025/26 yn cael ei gymeradwyo.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION I'R CYNGOR 2025-26 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Sylwer: Datganodd y Cynghorydd D. Jones fuddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cwynion y Cyngor am 2025-26, a roddai drosolwg ar gŵynion a chanmoliaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chorfforaethol a ddaeth i law rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r polisi a'r gofyniad statudol; perfformiad a chanlyniadau cwynion Cam 1 a Cham 2 yr ymchwiliwyd iddynt o fewn yr amseroedd ymateb; canmoliaeth ddaeth i law; nifer yr ailgyfeiriadau i ddarpariaeth gwasanaeth; cwynion a uwchgyfeiriwyd i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; gwelliannau i'r gwasanaeth a nodwyd a'r blaenoriaethau o ran datblygiadau'r dyfodol.

 

Nododd y Pwyllgor hefyd mai cyfanswm y gwariant ar ymchwilio i gŵynion Cam 2 y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2025/26 oedd £60,468, a oedd yn fwy na'r gyllideb a ddyrannwyd o £14,208. Byddai angen monitro hyn yn barhaus wrth gynllunio'r gyllideb yn y dyfodol.

 

Croesawodd yr Aelodau y gwelliannau mewn amseroedd ymateb i gŵynion a nodi bod 178 o swyddogion wedi derbyn hyfforddiant ymdrin â chwynion, a ddangosai ymrwymiad yr Awdurdod i wella gwasanaethau. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen gwelliannau pellach, yn enwedig mewn perthynas â chwynion Cam 2, lle roedd perfformiad yn is na'r targed o hyd.

 

Esboniodd swyddogion fod llawer o'r cwynion yn Adran y Prif Weithredwr yn ymwneud ag amseroedd aros y Ganolfan Gyswllt a thrin galwadau. Yn aml, roedd angen ymchwilio'n fanwl i gŵynion o'r fath, ac felly roeddent yn mynd y tu hwnt i'r amser ymateb safonol. Cafodd yr aelodau sicrwydd bod gwaith yn mynd rhagddo i wella mynediad cwsmeriaid ac ymwybyddiaeth o ffyrdd eraill o gysylltu.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

•         Croesawodd yr Aelodau y gwelliannau a phwysleisio pa mor bwysig oedd dysgu o'r cwynion. Gwnaethpwyd cais bod adroddiadau'r dyfodol yn cynnwys enghreifftiau o'r camau a gymerwyd a'r gwelliannau a wnaed i wasanaethau yn sgil cwynion, fel y gallai Aelodau fonitro canlyniadau yn fwy effeithiol. Dywedodd swyddogion fod adolygiadau chwarterol o gŵynion lefel uchel yn cael eu cynnal, a chytunont i ystyried darparu diweddariadau interim ar welliannau, yn ogystal â'r wybodaeth oedd yn yr adroddiad blynyddol.

•         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y cynnydd sylweddol yng nghostau ymchwilio i gŵynion Cam 2. Esboniodd swyddogion fod deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i benodi ymchwilwyr allanol annibynnol ar gyfer cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol, a bod cymhlethdod cynyddol y cwynion wedi cyfrannu at gostau uwch. Byddid yn edrych ar gyfleoedd i gydweithio'n rhanbarthol lle bo'n briodol.

•         Croesawodd yr Aelodau y system gŵynion ar-lein ac annog preswylwyr i ddefnyddio'r broses lle nad oedd pryderon wedi'u hunioni drwy'r sianeli gwasanaeth arferol.

•         Awgrymodd yr Aelodau y gallai adroddiadau'r dyfodol gynnwys astudiaethau achos a fyddai'n dangos sut roedd cwynion wedi llywio gwelliannau i wasanaethau yn uniongyrchol, a sut roedd y Cyngor wedi ymateb i bryderon preswylwyr. Cytunodd y swyddogion i ystyried gwneud hyn yn adroddiadau'r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Cabinet fod Adroddiad Blynyddol Cwynion y Cyngor am 2025/26 yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

STRATEGAETH DDIGIDOL 2024-2027 (ADRODDIAD CYNNYDD BLYNYDDOL 25/26) pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr Adroddiad Cynnydd Blynyddol ar gyfer Strategaeth Ddigidol 2024-2027, a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn ystod 2025/26 o ran gwireddu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer Sir Gaerfyrddin oedd wedi'i galluogi'n ddigidol.

Nododd yr adroddiad y cynnydd sylweddol a wnaed wrth gryfhau sylfeini digidol y Cyngor trwy fuddsoddi mewn gwytnwch seiber, seilwaith digidol, gallu'r gweithlu, deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio, data a thrawsnewid pethau i gwsmeriaid. Roedd y datblygiadau wedi gwella gwytnwch sefydliadol, lleihau beichiau gweinyddol, cefnogi moderneiddio gwasanaethau a galluogi staff i weithio'n fwy effeithiol.

Nododd y Pwyllgor y ffocws cynyddol ar drawsnewid sefydliadol, gyda thechnolegau digidol, deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio a dadansoddi data yn cael eu defnyddio fel galluogwyr strategol i wella gwasanaethau. Dywedwyd bod prosiectau peilot dan reolaeth a threfniadau llywodraethu wedi cefnogi mabwysiadu technolegau newydd yn ddiogel ac yn gyfrifol, gan gynnwys Microsoft 365 Copilot, Secure Copilot Chat a Magic Notes o fewn Gofal Cymdeithasol.

Nodwyd cynnydd o ran cryfhau seiberddiogelwch, llywodraethu gwybodaeth, parhad busnes, mudo cwmwl, gwasanaethau cwsmeriaid digidol a seilwaith digidol rhanbarthol, a chydnabuwyd bod y Cyngor mewn sefyllfa dda i adeiladu ar y sylfeini hyn yn ystod 2026/27.

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

•         Gofynnwyd ynghylch newidiadau i drefniadau parcio preswylwyr yn Llanelli ac ansawdd y ddarpariaeth barcio, cynyddu costau hawlenni, sut byddai trefniadau monitro digidol yn gweithio a'r cymorth i breswylwyr ddeall y system. Dywedwyd wrth yr Aelodau mai mwy priodol fyddai cyfeirio ymholiadau gweithredol manwl i'r Pennaeth Gwasanaeth perthnasol. 

•         Gofynnwyd sut byddai mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau digidol yn effeithio ar breswylwyr oedd â band eang neu gysylltedd symudol gwael, a pha gymorth fyddai ar gael i'w cynorthwyo. Dywedodd swyddogion fod data cysylltedd cynhwysfawr, gan gynnwys data ynghylch mannau di-gyswllt, yn cael ei gynnal a bod gwelliannau sylweddol wedi'u cyflawni trwy fuddsoddi mewn seilwaith band eang a ffonau symudol.  Soniwyd am y cymorth oedd ar gael i breswylwyr a brofai anawsterau cysylltedd, gan gynnwys cyngor, cyllid grant, cymorth ag offer ac arweiniad ynghylch darparwyr gwasanaeth. Cynigiodd y swyddogion ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor.

•         Dywedwyd wrth yr aelodau fod bygythiadau seiber yn parhau i gynyddu ond cadarnhawyd bod mesurau priodol ar waith ar hyn o bryd, tra'n cydnabod bod angen monitro a gwella seiberddiogelwch yn gyson. Cydnabuwyd y dylai adroddiadau'r dyfodol ddarparu tystiolaeth gliriach o'r effeithlonrwydd, yr arbedion a'r gwelliannau gwasanaeth oedd yn cael eu cyflawni trwy drawsnewid digidol. Tynnodd swyddogion sylw hefyd at bwysigrwydd sgiliau'r gweithlu a pharodrwydd i fabwysiadu technolegau newydd.

•         Mynegwyd pryderon am effaith gwasanaethau digidol ar breswylwyr hŷn a gofynnodd aelodau sut byddai'r Cyngor yn ymateb i dywydd garw ac argyfyngau eraill ochr yn ochr â digwyddiadau seiber. Dywedodd swyddogion fod trefniadau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb ar waith, a bod y trefniadau hynny'n cael eu hategu gan ymarferion argyfwng a chynlluniau parhad gwasanaeth.

•         Gofynnwyd sut oedd y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn cyfateb i ymrwymiad y Cyngor i garbon sero net. Dywedodd swyddogion fod deallusrwydd artiffisial yn ei gyfnod prawf o hyd. Byddai ystyriaeth amgylcheddol yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD ALLDRO CYLLIDEB REFENIW 2025/26 pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiadau Alldro Cyllideb Gorfforaethol  2025/26 yr Awdurdod, ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol.  Ar y cyfan, sefyllfa net yr awdurdod oedd gorwariant o £1,755K, a oedd wedi'i drosglwyddo o falansau cyffredinol, a'r sefyllfa balansau ysgolion ar 31 Mawrth 2026 oedd diffyg o £9,561k.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau mai cyfuniad o'r canlynol oedd yn gyfrifol am hyn:

 

•         ysgolion yn rhagweld gorwariant o £7.7 miliwn, sef £1.2 miliwn yn is nag a adroddwyd yn flaenorol. Roedd y sefyllfa yn parhau i fod yn anghynaladwy, gan fod angen gweithredu i alinio gwariant â chyllidebau a rhesymoli'r ystâd ysgolion. roedd y swyddogion yn cefnogi'r ysgolion â chyllidebau diwygiedig a diffygion trwyddedig ar gyfer 2026/27;

•         roedd y Gwasanaethau Plant yn rhagweld gorwariant o £3.6 miliwn, gwelliant o £0.6 miliwn ers yr adroddiad blaenorol, yn bennaf oherwydd lleoliadau preswyl uchel eu cost;

•         roedd yn cael ei ragweld y byddai'r galw am Ofal Cymdeithasol i Oedolion, yn enwedig gwasanaethau pobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl, yn mynd yn fwy na'r cyllidebau oedd wedi'u cymeradwyo, er gwaethaf cyllid ychwanegol;

•         nid oedd y gostyngiadau y cytunwyd arnynt i'r gyllideb wedi'u gweithredu'n llawn eto, gydag £1.95 miliwn o arbedion heb eu cyflawni ar gyfer 2025/26 a £3.6 miliwn arall wedi'i gario ymlaen o'r flwyddyn flaenorol; a

•         dangosiadol yn unig oedd y newid yn yr alldro ar gyfer yr Adran Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd, gan ei fod yn cael ei wrthbwyso gan drosglwyddiad i'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwelliannau i'r gwasanaeth ailgylchu yn y dyfodol.

Roedd yr adroddiad yn nodi bod tanwariant arall o £0.9m yn cael ei ragweld o ganlyniad i gyllid grant ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i bob Awdurdod Lleol mewn perthynas â dyfarniad cyflog NJC Ebrill 2025.

Mewn perthynas â chost uwch Yswiriant Gwladol Cyflogwyr, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod y cyllid grant ychydig yn is na £6.0m, yn erbyn rhagdybiaeth o £7.0m yn y gyllideb. Byddai hyn yn ddiffyg pellach o £1.0m ar ben yr hyn oedd eisoes wedi caniatáu ar ei gyfer yn y gyllideb, ac roedd y swm hwn wedi'i ddilysu i gyllideb derfynol 2026/27.

 

Er gwybodaeth, roedd amrywiannau Adran y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol wedi'u nodi yn Atodiad B i'r adroddiad.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Alldro Cyllideb Refeniw 2025/26 yn cael ei dderbyn.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2026/27 pdf eicon PDF 127 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod 2026/27 ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 30 Mehefin, 2026.

 

Roedd yr adroddiad monitro yn rhagweld gorwariant ar gyfer y flwyddyn ar lefel adrannol o £15.9m gan gynnwys cyllidebau ysgolion, ac yn rhagweld gorwariant o £11.3m ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod.  Roedd y ffactorau allweddol ar gyfer y gorwariant yn cynnwys:

 

Ysgolion – roedd llawer o ysgolion unwaith eto wedi gosod eu cyllidebau yn ystod y flwyddyn yn uwch na'r cyllid oedd ar gael, ac, o ganlyniad, roedd gorwariant o £6.9 miliwn yn cael ei ragweld (fel y cyfeirir ato yn Atodiad Ai). Er bod hwn yn welliant ar y flwyddyn flaenorol, roedd y sefyllfa yn anghynaladwy o hyd. Dywedwyd bod angen i ysgolion unigol gymryd camau brys er mwyn alinio gwariant â'r cyllidebau oedd ar gael ac er mwyn gwneud cynnydd o ran rhesymoli'r ystâd ysgolion. Soniodd y Pwyllgor ymhellach y byddai bwrdd ymyrraeth yn darparu cymorth a goruchwyliaeth ychwanegol lle bo angen.

 

Gwasanaethau Plant - roedd gorwariant o £5.4m yn cael ei ragweld, oherwydd y cynnydd yn nifer y plant oedd mewn lleoliadau preswyl uchel eu cost.

 

Roedd nifer fach o bobl dros 18 oed yn dal i fod yn Garreglwyd hyd nes y byddai lleoliadau i oedolion ar gael, gyda chostau unedau yn Garreglwyd yn sylweddol uwch.

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at orwariant mewn meysydd gwasanaeth lle cytunwyd ar ostyngiadau yn y gyllideb, ond nid oedd eto wedi bod yn bosibl gweithredu'r rhain a/neu'r arbedion yn llawn. Roedd monitro'n dangos bod gostyngiadau o £1.2m heb eu cyflawni ar gyfer 2026/27 a bod £1.5m wedi'i gario ymlaen o'r flwyddyn flaenorol.

 

Gan fod y sefyllfa bresennol mor ddifrifol, roedd Atodiad A(ii) newydd ynghlwm wrth yr adroddiad, a oedd yn dangos gorwariant gros a thanwariant fesul swyddogaeth benodol, yn ogystal â'r holl orwariant dros £0.5m.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr Adran Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol yn rhagweld tanwariant o £242k, ac yn rhagweld y byddai gan y rhaglen gyfalaf amrywiant yn ystod y flwyddyn o £33.520m yn erbyn y gyllideb a gymeradwywyd. Nododd yr Aelodau hefyd y sefyllfa o ran cyflawni arbedion, amrywiannau rhaglenni cyfalaf ac ychwanegu cynlluniau newydd a ariennir gan grantiau yn ystod y flwyddyn

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

•         Mewn ymateb i gwestiwn pam roedd y gwariant cysylltiedig â gwella gwasanaethau, effeithiolrwydd a'r Tîm Trawsnewid wedi'i gyflwyno o dan benawdau cyllideb ar wahân, ac a fyddai cyfuno'r meysydd hyn yn rhoi darlun cliriach o gyfanswm y buddsoddiad mewn gweithgareddau trawsnewid, atebodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y Tîm Trawsnewid a'r Tîm Digidol yn gweithredu o dan wahanol reolwyr cyllideb a meysydd gwasanaeth, gan arwain at linellau cyllideb ar wahân. Nodwyd ymhellach y gallai'r gwariant oedd yn cael ei ariannu o gronfeydd wrth gefn fod yn gysylltiedig â chostau untro. Dywedodd y swyddog y byddai'n ymchwilio i'r gwariant a ariannwyd gan gronfeydd wrth gefn ac yn darparu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2025-2026 pdf eicon PDF 99 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth 2025-26 fel y'i cyflwynwyd gan yr Aelod Cabinet dros Adnoddau.

 

Mae'r adroddiad hwn yn bodloni gofynion Cod Ymarfer CIPFA ar Reoli'r Trysorlys, (y Cod), a Chod Darbodus CIPFA ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol, (y Cod Darbodus), ac mae'n amlinellu'r gweithgareddau Rheoli'r Trysorlys ym mlwyddyn ariannol 2025-26.

 

Mabwysiadodd y Cyngor Bolisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd ar gyfer 2025-2026 ar 26  Chwefror2025.

 

Roedd yr adroddiad yn rhestru'r gweithgareddau a wnaed yn 2025-2026 o dan y penawdau canlynol:

 

•         Buddsoddiadau

•         Benthyca

•         Diogelwch, Hylifedd a Chynnyrch

•         Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys

•         Dangosyddion Darbodus

•         Prydlesu

•         Aildrefnu 

 

Nodwyd bod benthyca yn cefnogi prosiectau cyfalaf tymor hir ac yn aros o fewn terfynau cymeradwy.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

•         Mewn ymateb i gwestiwn yn gofyn pam fod benthyciadau diweddar wedi'u cymryd dros gyfnodau byrrach, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod cyfnodau benthyca wedi'u dewis i sicrhau ad-daliadau fforddiadwy a'r cyfraddau llog gorau oedd ar gael.

•         Cydnabuwyd y byddai'n fuddiol cyfleu'n gliriach ddull benthyca darbodus a rheoli'r trysorlys yr Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Blynyddol 2025-26 ynghylch Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth yn cael ei dderbyn.

10.

ADRODDIAD CANOL BLWYDDYN YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2026 I MEDI 30AIN 2026 pdf eicon PDF 102 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Rheoli'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodaeth rhwng 1 Ebrill 2026 a 30 Medi 2026.

 

Roedd adroddiad y Trysorlys yn rhestru'r gweithgareddau rheoli'r trysorlys a oedd wedi digwydd yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2026 a 30 Medi 2026 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2026-2027, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 26 Chwefror 2025.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. 

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD DIWEDD CHWARTER 1 2026/27 (01/04/2026-30/06/2026) YN BRIODOL I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill hyd at 30 Mehefin 2026 (Chwarter 1), a oedd yn rhoi diweddariad cynnydd o'r Camau Gweithredu a'r Mesurau oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r Amcanion Llesiant oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor.

 

Nododd yr adroddiad, o 2026/27, fod perfformiad yn cael ei adrodd gan ddefnyddio fframwaith Coch, Ambr, Gwyrdd diwygiedig a oedd yn categoreiddio camau gweithredu a mesurau.

 

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

•         Mewn ymateb i ymholiad yn gofyn pryd roedd disgwyl i berfformiad y Dreth Gyngor wella, rhoddwyd gwybod i'r Aelodau mai mater o amseru oedd hyn a bod disgwyl i berfformiad wella yn ystod y flwyddyn ariannol.

•         Holodd yr aelodau ynghylch llithriad o fewn y Rhaglen Gyfalaf
ac eglurwyd bod rhywfaint o lithriad yn anochel oherwydd natur prosiectau cyfalaf, gyda chyllid yn parhau i fod ar gael wrth i'r cynlluniau fynd rhagddynt.

•         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfraniad derbyniadau cyfalaf i'r Rhaglen Gyfalaf, cadarnhawyd bod derbyniadau cyfalaf yn dal i gyfrannu at gyllid y rhaglen.

•         Gofynnodd yr Aelodau sut y byddai gwelliannau digidol yn lleihau'r galw ar y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid. Esboniodd swyddogion y byddai gwell gwasanaethau ar-lein yn galluogi preswylwyr i hunanwasanaethu, gan leihau nifer y cysylltiadau.

•         Gofynnwyd ynghylch effaith swyddi gwag ar berfformiad ac eglurwyd bod swyddi gwag yn cael eu rheoli'n strategol fel rhan o raglen arbedion y Cyngor.

•         Gofynnwyd sut roedd gwelliannau i wasanaethau a thargedau perfformiad yn cael eu mesur, a dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, er nad oedd y mater o fewn ei faes gwasanaeth, byddai eglurhad yn cael ei geisio oddi wrth y Rheolwr Gwasanaeth perthnasol a'i ddarparu i'r Aelodau.

•         Holodd yr Aelodau ynghylch y lefelau boddhad a dywedwyd bod y mesur yn cael ei adrodd am y tro cyntaf a byddai'n cael ei adolygu.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Perfformiad Diwedd Chwarter 1 ar gyfer 2026/27, a oedd yn berthnasol i'r maes craffu hwn.

12.

RHAGLEN DRAWSNEWID - ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Rhaglen Drawsnewid y Cyngor a llunio Strategaeth Drawsnewid ddiwygiedig. Nodwyd bod y Strategaeth Drawsnewid, a gymeradwywyd yn 2023, yn parhau i ddarparu'r fframwaith strategol ar gyfer newid trefniadaethol ar draws yr wyth prif flaenoriaeth thematig, a'r ffrydiau gwaith cysylltiedig.

Mae'r adroddiad yn nodi'r cynnydd a wnaed o ran cyflawni'r blaenoriaethau a'r prosiectau yn y Rhaglen Drawsnewid, ynghyd â'r canlyniadau hyd yma. Roedd Strategaeth Drawsnewid ddiwygiedig yn cael ei datblygu mewn ymateb i argymhellion a ddeilliai o Asesiad Perfformiad a Chymheiriaid (PPA) 2025, i gryfhau ymagwedd y Cyngor at drawsnewid ac i gefnogi'r gwaith o gyflawni newid trefniadaethol sylweddol dros y pum mlynedd nesaf.

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:

 

•         Wrth ateb sut byddai'r Rhaglen Drawsnewid yn sicrhau bod arbedion effeithlonrwydd yn gynaliadwy, ac a fyddai canlyniadau'n cael eu monitro a'u hadrodd yn rheolaidd i'r Pwyllgorau Craffu, eglurodd y Rheolwr Trawsnewid y byddai'r Rhaglen yn canolbwyntio ar lai o flaenoriaethau strategol, wedi'u cefnogi gan ddata perfformiad a mesurau canlyniadau. Byddai cynnydd a chyflawniadau yn cael eu monitro a'u hadrodd trwy drefniadau llywodraethu sefydledig.

•         Gofynnwyd am eglurhad sut y gellid priodoli'r arbedion o £1.66m yn uniongyrchol i'r Dangosfwrdd Gwariant Arferol Corfforaethol. Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y dangosfwrdd yn cael ei ddefnyddio i graffu ar wariant, nodi tueddiadau ac annog newid ymddygiad o fewn gwasanaethau. Nodwyd bod yr arbedion yn deillio o fonitro gwell ac ymyriadau wedi'u targedu mewn meysydd gwariant penodol.

•         Mewn ymateb i gais am enghreifftiau o lle roedd gweithgareddau trawsnewid wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, tynnodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd Integredig a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Oedolion sylw at y gwasanaeth Cymorth Cynnar, a oedd wedi cefnogi 136 o deuluoedd dros y flwyddyn flaenorol, gyda 131 o achosion wedi'u cau'n llwyddiannus. Nodwyd bod y gwasanaeth wedi helpu i atal teuluoedd rhag chwalu ac wedi lleihau'r angen i dderbyn plant i ofal, gan ddangos buddion i'r gwasanaeth a buddion ariannol.

•         Holodd yr Aelodau ynghylch lleihau costau staff asiantaethau a datblygu model staffio mewnol. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Trawsnewid fod gwaith gydag ysgolion a gwasanaethau wedi lleihau'r ddibyniaeth ar staff asiantaethau trwy gynllunio'r gweithlu yn well ac ehangu trefniadau staffio mewnol. Nodwyd bod y defnydd o dechnoleg a systemau amserlennu effeithiol yn allweddol i gyflawni arbedion a gwytnwch hirdymor.

•         Gofynnodd yr Aelodau a oedd digon o gapasiti a buddsoddiad i gyflawni'r Rhaglen Drawsnewid, a'r ateb gafwyd oedd bod y Tîm Trawsnewid dal yn gymharol fach a byddai angen buddsoddiad pellach mewn capasiti a thechnoleg i gefnogi newid trefniadaethol sylweddol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cydbwyso buddsoddiad yn erbyn yr angen i daclo heriau ariannol.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad am y Rhaglen Drawsnewid.

13.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 26 Tachwedd 2026. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 26 Tachwedd 2026.

14.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 7 GORFFENNAF, 2026 pdf eicon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2026 yn gofnod cywir.