Agenda a Chofnodion

Cyfarfod ar y Cyd Aelodau'r Cabinet ar gyfer Trefniadaeth a'r Gweithlu a Materion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio - Dydd Llun, 7fed Tachwedd, 2022 4.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2021-22 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelodau Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2021-22 a luniwyd yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a osododd ddyletswydd gyffredinol newydd ar awdurdodau cyhoeddus i roi sylw i'r nodweddion gwarchodedig canlynol:-

·       Oedran

·       Ailbennu Rhywedd

·       Rhyw

·       Hil – yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd

·       Crefydd a Chred – gan gynnwys diffyg cred

·       Anabledd

·       Priodas a Phartneriaeth Sifil

·       Beichiogrwydd a mamolaeth

·       Cyfeiriadedd rhywiol

 

Nodwyd mai nod y ddyletswydd oedd sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai oedd yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallent gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a pherthynas dda yn eu gweithgareddau pob dydd.

 

Nodwyd ymhellach ei bod yn ofynnol hefyd i gyrff cyhoeddus roi sylw dyladwy i:-

 

  • Dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac unrhyw ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf.
  • Gwella cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a'r rheiny nad ydynt yn rhannu'r nodwedd honno.
  • Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheiny nad ydynt yn rhannu’r nodwedd honno.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2021-22 er mwyn ei gyhoeddi a'i hyrwyddo ar wefan y Cyngor.