Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau cyfarfod ar y cyd yr Aelodau Cabinet a gynhaliwyd ar y 19fed Mawrth, 2024 yn gofnod cywir.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2023-25 PDF 128 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelodau Cabinet yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-25.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn crynhoi ac yn disodli'r ddeddfwriaeth flaenorol, ynghyd â symleiddio ac atgyfnerthu'r ddeddf fel ei bod yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Daeth y rhan fwyaf o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod dwy flynedd o adroddiadau blynyddol wedi eu dwyn ynghyd i adlewyrchu'r ffaith mai'r ffocws allweddol yn ystod 2023-24 oedd adolygu a chymeradwyo'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol.
Roedd y ddyletswydd gyffredinol newydd yn cwmpasu'r nodweddion gwarchodedig canlynol:
· Oedran · Ailbennu rhywedd · Rhyw · Hil – yn cynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd · Crefydd a chred – gan gynnwys diffyg cred · Anabledd · Priodas a phartneriaeth sifil · Beichiogrwydd a mamolaeth · Cyfeiriadedd rhywiol.
Fel rhan o'r adroddiad, dangosir cynnydd yn erbyn amcanion cydraddoldeb canlynol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2024-28:
1. Bod yn gyflogwr o ddewis. 2. Galluogi preswylwyr i fyw a heneiddio'n dda. 3. Ymwreiddio Cydlyniant Cymunedol yn ein sefydliad a'n cymuned. 4. Gwarchod a chryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol.
Bydd adroddiadau blynyddol yn cynorthwyo awdurdodau i fonitro eu gwaith eu hunain, yn ogystal â darparu tryloywder i randdeiliaid. Mae'n rhaid i'r adroddiadau blynyddol gynnwys y wybodaeth benodol am gyflogaeth, gan gynnwys gwybodaeth am hyfforddiant a chyflog.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2023-25.
|