Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Cymunedau, Cartrefi ac Adfywio - Dydd Llun, 11eg Tachwedd, 2024 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Owen, M. Palfreman ac M. Thomas ynghyd â'r Cynghorydd H.A.L. Evans (Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth).

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

R. Sparks

5 - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2024/25

Perchennog pwll nofio yng Nghaerfyrddin ac mae ganddo ollyngiad i siarad ond nid i  bleidleisio ar faterion yn ymwneud â nofio

R. Sparks

6 - Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2023/24

Perchennog pwll nofio yng Nghaerfyrddin ac mae ganddo ollyngiad i siarad ond nid i  bleidleisio ar faterion yn ymwneud â nofio

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD DIWEDDARU - DYRANNU TAI CYMDEITHASOL BRYS YNGHYLCH RHOI'R POLISI DYRANNU NEWYDD AR WAITH (MONITRO) pdf eicon PDF 169 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â'r penderfyniad a wnaed yn ei gyfarfod ar 26 Ionawr 2023, cafodd y Pwyllgor adroddiad monitro ar effeithiolrwydd y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol Brys newydd a luniwyd gan ei Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys data ar gyfer y cyfnod blaenorol yn ymwneud â'r canlynol:

 

1.     Cyfran yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol a'r rhai a hysbysebwyd,

2.     Bandiau'r cleientiaid a barwyd yn uniongyrchol,

3.     Nifer yr eiddo a barwyd yn uniongyrchol ac a hysbysebwyd gan bob ardal gymunedol, math o eiddo a landlord,

4.     Cyfran yr achosion o baru uniongyrchol a oedd yn llwyddiannus,

5.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle gofynnodd y cleient am adolygiad o'r dyraniad, a chanlyniad yr adolygiadau hynny,

6.     Nifer yr achosion o baru uniongyrchol lle gwrthododd y cleientiaid y dyraniad ond heb ofyn am adolygiad.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch y 131 o barau anaddas a wnaed yn ystod y cyfnod rhwng Ebrill a Medi 2024, cadarnhawyd, er y gallai tenantiaid wrthod yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn gynnig afresymol (gall y rhai ar y bandiau uwch wrthod unwaith a'r rhai ar y bandiau isaf wrthod ddwywaith) fe'u hanogir i dderbyn y cynnig lle bynnag y bo modd. Er y gallai'r rhesymau dros wrthod fod yn niferus, er enghraifft, amgylchiadau wedi newid ers i'r cais gwreiddiol gael ei wneud i gael eu cynnwys ar y Gofrestr Tai, roedd y Polisi Dyraniadau Cymdeithasol newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddarpar denantiaid gadarnhau bob chwe mis eu bod yn dal i ddymuno cael eu hystyried ar gyfer tai a chael eu cadw ar y Gofrestr. Fe'u hanogwyd hefyd i roi gwybod i'r Adran Tai am unrhyw newidiadau i'w hamgylchiadau cyn gynted â phosibl er mwyn i'w hanghenion tai gael eu cofnodi/diwallu'n briodol ac er mwyn osgoi cynigion anaddas yn cael eu gwneud.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad monitro.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2024/25 pdf eicon PDF 111 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried)

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2024/25 y Gwasanaethau Tai, Datblygu Economaidd ac Eiddo, Lle a Chynaliadwyedd a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2024. Nododd y rhagwelid gorwariant o £401k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £7,835k yn y gyllideb gyfalaf a gorwariant o £1,975k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·     Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden y byddai'r Ganolfan Addysg Awyr Agored bresennol ym Mhentywyn yn cau ddiwedd Hydref 2025 a byddai'r cynnig newydd a fydd yn cael ei ddarparu ym Mharc Gwledig Pen-bre yn agor yn ystod gwanwyn 2026.       

·       Mewn ymateb i eglurhad ynghylch y cyfeiriad yn atodiad C at y ffaith nad yw'r gwasanaethau hamdden yn gallu cyflawni 'ffactor swyddi gwag' mewn nifer o'u meysydd gwasanaeth, dywedodd y Pennaeth Hamdden fod hynny'n gysylltiedig â'r arbedion y gellid eu cyflawni drwy ohirio llenwi swyddi gwag. Fodd bynnag, o ran y meysydd gwasanaeth dan sylw, roedd rhai'n gysylltiedig â llenwi swyddi rheng flaen gwag ym maes hamdden fel achubwyr bywyd, ac roedd yn hanfodol bod y rheiny'n cael eu llenwi cyn gynted ag y mae'r gweithwyr yn gadael er mwyn parhau â'r gwasanaeth.  Gallai methu â chyflawni'r parhad hwnnw arwain at orfod tynnu gwasanaeth yn ôl dros dro, gan golli incwm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf yn cael ei dderbyn.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYNGOR 2023/24 pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(Roedd y Cynghorydd R. Sparks wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach; ailddatganodd y buddiant hwnnw ac arhosodd yn y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei hystyried)

 

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor 2023/24 a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2015

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol sy'n berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor wrth drafod yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at y flaenoriaeth thematig yn yr adroddiad ar 'Drechu Tlodi' a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau roedd y Cyngor yn eu cymryd i roi gwybod i drigolion Sir Gaerfyrddin am y cymorth sydd ar gael iddynt.

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cyngor eisoes wedi sefydlu Gr?p Trechu Tlodi i fynd i'r afael â thlodi yn y Sir ac roedd pwysigrwydd rhoi gwybodaeth am fudd-daliadau a'r cymorth sydd ar gael i'r rheiny sydd mewn angen yn rhan annatod o'i rôl. Ar hyn o bryd darperir y wybodaeth honno gan y Cyngor drwy nifer o wahanol ffyrdd gan gynnwys yn ei ganolfannau Hwb, sef y rhai yng nghanol trefi a'r canolfannau Hwb gwledig symudol, ynghyd â thrwy ohebiaeth a'r cyfryngau cymdeithasol ac mae gan bob adran gyfrifoldeb i ddarparu cymorth a chefnogaeth. Cefnogwyd ymdrechion y Cyngor hefyd gan asiantaethau partner eraill gan gynnwys Cyngor ar Bopeth a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Yn ogystal â'r uchod, roedd rôl y Cynghorwyr Sir yr un mor bwysig wrth ledaenu'r neges o fewn eu cymunedau yng nghyfarfodydd y Cynghorau Tref a Chymuned a digwyddiadau eraill yr oeddent yn eu mynychu.

 

Er bod yr holl fesurau uchod ar waith, anogwyd yr aelodau i rannu unrhyw syniadau a allai fod ganddynt i ymestyn y rhain ymhellach er mwyn ehangu'r ddarpariaeth o ran y cymorth sydd ar gael i drigolion.

·       Cadarnhawyd bod y cyfeiriad yn yr adroddiad at y Cyngor yn cymhwyso premiwm Treth Gyngor yn ymwneud ag eiddo preifat a byddai'r pwynt yn cael ei adrodd yn ôl i'r adran. Nodwyd hefyd fod y premiwm o fudd i'r awdurdod o ran ei ymdrechion i ddychwelyd eiddo preswyl gwag yn ôl i'r farchnad dai.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ar adfywio yn Llanelli, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i rwydweithiau busnes i sicrhau bod yr hen YMCA yn cael ei feddiannu'n llawn oherwydd galw mawr. Cadarnhawyd hefyd, mewn perthynas â'r ailddatblygiad ehangach yn Llanelli a'r Sir, fod yr uned adfywio wrthi'n gweithio gyda'i phartneriaid datblygu i archwilio a gwneud y mwyaf o'r holl gyfleoedd adfywio.

·           O ran ailddatblygu wardiau Tyisha a Glan-y-môr yn Llanelli, dywedodd y Pennaeth Tai fod yr awdurdod ar hyn o bryd yn cynnal deialog gystadleuol ynghylch ei gynigion ar gyfer yr ardaloedd hynny, a'r gobaith oedd cyhoeddi partner datblygu yn y flwyddyn newydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24.

7.

DIWEDDARIAD AR GAMAU GWEITHREDU Y PWYLLGOR CRAFFU pdf eicon PDF 92 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â cheisiadau neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol.

 

Cyfeiriwyd at Gr?p Gorchwyl a Gorffen diweddar y Pwyllgor ar Addasiadau a gwnaethpwyd awgrym bod y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru ymhen 6 mis am y modd y gweithredir y Polisi Addasiadau newydd,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

7.1

derbyn yr adroddiad.

7.2

Nodwyd y byddai adroddiad diweddaru am y modd y gweithredir y Polisi Addasiadau Newydd yn cael ei roi gerbron y Pwyllgor ymhen 6 mis.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor restr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ar 13 Rhagfyr, 2024 .

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 13 Rhagfyr 2024.

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 1AF HYDREF 2024 pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2024 yn gofnod cywir.